1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2017.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0113(ERA)
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac i awdurdodau lleol ar gyfer mynediad cyhoeddus ledled Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu a chyhoeddi cynigion i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ehangu’r mynediad hwnnw, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod yn hen bryd. Mae’n bwysig iawn fod mwy o bobl yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mwynhau’r awyr agored yr ydym mor ffodus i’w gael. Mae yna fanteision amlwg o ran iechyd a gweithgareddau, yn ogystal â’r ffaith y bydd pobl yn gwerthfawrogi cefn gwlad yn fwy ac efallai, yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol o ganlyniad. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, a grybwyllwyd gennych, yn gam mawr ymlaen o ran annog mwy o bobl i fwynhau ein hawyr agored? Ond mae yna rai agweddau anorffenedig ynglŷn â hynny, er enghraifft y gwaith o greu’r llwybrau cylchol a ragwelwyd ar gyfer cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir, a hefyd, efallai, cael dathliad blynyddol proffil uchel iawn ar ben blwydd creu Llwybr Arfordir Cymru, er mwyn i ni sicrhau bod cymunedau lleol ac ysgolion yn cerdded y llwybr ar y pen blwydd hwnnw.
Byddwn, rwy’n credu bod hwnnw’n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae’r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw’r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy’n cytuno y dylem ei ddathlu.
Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo’r llwybr ac rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu gwneud hefyd, efallai, nad ydynt yn costio llawer o arian. Rwy’n credu efallai y gallem gysylltu camlesi, er enghraifft, â rhannau eraill o gefn gwlad, ac yna, yn amlwg, mae gennym lwybr yr arfordir sy’n cysylltu â hynny hefyd. Mae ein swyddogion yn gweithio’n agos iawn oherwydd bydd hi’n Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, fod yna gyfle i hyrwyddo llwybr yr arfordir yn dda. Ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau marchnata yn y dyfodol mewn perthynas â hynny yn helpu i wireddu manteision llawn y buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud yn Llwybr Arfordir Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at gefn gwlad yn rhywbeth i’w groesawu a gobeithio ei fod yn creu gwell dealltwriaeth o bwrpas cefn gwlad, sef, yn bennaf, cynhyrchu bwyd ar ein cyfer—byw ar dda’r wlad, fel y byddai sawl un yn ei ddweud—ond mae yna fater difrifol ynglŷn ag addysgu pobl, pan fyddant yn mynd i gaeau ac yn mynd i gefn gwlad, fod yna risgiau a pheryglon. Yn fy ardal fy hun, sef Canol De Cymru, ychydig o flynyddoedd yn unig yn ôl, yn anffodus, cafodd nifer o gerddwyr eu sathru gan wartheg yn ardal Sain Ffagan a Radur. Ledled y DU, mae’n un o’r pethau sy’n lladd fwyaf o bobl yng nghefn gwlad: da byw yn dod i gysylltiad â phobl nad ydynt yn ymwybodol o’r rhagofalon diogelwch sydd eu hangen. A fyddech chi, ynghyd â’ch cymhellion i agor rhannau o gefn gwlad, yn gwneud yn siŵr fod yna ymgyrch addysg gadarn ac ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar lawr gwlad, fel y gellid osgoi trychinebau fel y rhai sydd wedi digwydd yn fy rhanbarth ble bynnag y bo’n bosibl?
Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod—. Fel y dywedais, byddaf yn edrych ar y ddeddfwriaeth, ac yn sicr gallem ystyried cael rhyw fath o ymgyrch addysg ochr yn ochr â hynny, fel yr ydych yn ei awgrymu.
Rwy’n cefnogi, mewn egwyddor, ymestyn mynediad at gefn gwlad i bawb. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl pobl i grwydro a mwynhau ein cefn gwlad, ac anghenion tirfeddianwyr a ffermwyr i reoli a defnyddio eu tir yn effeithiol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda thirfeddianwyr, a sefydliadau sy’n eu cynrychioli, i’w perswadio i ganiatáu mwy o fynediad at eu tir?
Wel, soniais yn fy ateb blaenorol i arweinydd y Ceidwadwyr fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, ac mae’r trafodaethau hynny’n barhaus, mewn gwirionedd. Ond pan fyddaf yn ystyried addasu’r ddeddfwriaeth, credaf y bydd hwnnw’n gyfle arall i gael y drafodaeth honno gyda thirfeddianwyr. Ond yn sicr, byddwn yn dweud ei fod yn fater sy’n codi yn y rhan fwyaf o fy nghyfarfodydd gyda’r sector amaethyddiaeth. Yn enwedig pan fyddaf yn ymweld â ffermydd, mae’n fater y maent yn ei ddwyn i fy sylw.