Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rydym wedi edrych o ddifrif ar ddefnyddio offerynnau ariannol yn y Cynllun Datblygu Gwledig, ond maent yn gymhleth iawn. Maent yn cymryd amser i’w sefydlu, ac maent yn gostus iawn i’w gweinyddu, ac rydym wedi canfod y byddai’n cymryd tua dwy flynedd i’w sefydlu, ac yna, wyddoch chi, gwneud y taliad cyntaf. Felly, wyddoch chi, gyda Brexit ar y gorwel, nid wyf yn credu y byddai gennym amser. Nid wyf yn credu y byddai gwneud hynny yn awr yn gosteffeithiol, ond rwy’n credu bod angen i ni edrych yn ofalus iawn ar ffyrdd eraill o ddefnyddio ein cyllid. Rwy’n awyddus i ryddhau cymaint o’r cyllid cyn gynted ag y bo modd. Ac fel y dywedais, byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach y mis hwn.