<p>Y Cynllun Datblygu Gwledig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:57, 8 Mawrth 2017

Rydw i’n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod hi’n sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn fawr o’r hyn sydd gennym ni ar ôl o’r rhaglenni Ewropeaidd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mi ydw i, yn y gorffennol, wedi trafod gyda hi a’i swyddogion y posibilrwydd o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny rŵan, fel un o’r cynlluniau mawr, yn buddsoddi yn yr economi wledig mewn ardal fel Ynys Môn, a allai fanteisio ar yr arian sydd ar ôl rŵan?