Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg fod llawer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â phroses hynod gymhleth Brexit. Mewn ateb i gwestiwn gan Neil Hamilton, rwy’n credu, yn gynharach, fe ddywedoch fod Cymru ymhell ar y blaen i wledydd eraill ar y pwynt hwn—rwy’n tybio, wrth ddweud hynny, eich bod yn golygu o fewn y DU—o ran edrych ar sut y byddwn yn datblygu’r systemau ar ôl Brexit. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni—? A allwch egluro ychydig mwy ar eich rhesymeg i gefnogi hynny? A hefyd, pa drafodaethau a gawsoch gyda’r undebau ffermio yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cymorth ffermio’n parhau?