Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae yna lawer iawn o gwestiynau sydd heb eu hateb. Mae maint y gwaith hwn yn enfawr, ond rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rwy’n credu mai’r ateb a roddais i Neil Hamilton oedd ein bod ymhell ar y blaen i bedair gwlad y DU mewn perthynas ag ymgysylltu â rhanddeiliaid. Credaf mai dyna’r ateb penodol a roddais i Neil Hamilton. Felly, rwyf wedi cael llawer iawn o drafodaethau â’r undebau ffermio, ond nid yr undebau ffermio yn unig—y rhanddeiliaid ehangach. Oherwydd nid yw’n ymwneud yn unig â’r undebau ffermio; mae hefyd yn ymwneud â’r sector amgylchedd, y sector coedwigaeth. Rydym yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael eu cynnwys yn ein digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Roeddwn yn awyddus iawn i osgoi gweithio mewn seilos, felly byddai gennych y sector amaethyddol yn gweithio fan yma, a’r sector amgylchedd yn gweithio fan acw, ac rwy’n credu mai dyna pam yr ydym wedi cael cymaint o gefnogaeth, mewn gwirionedd, gan ein rhanddeiliaid.