Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n falch o glywed, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth yng Nghymru. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Dr Beynon’s Bug Farm yn fy etholaeth, sydd, yn ogystal â bod yn fferm weithredol, yn cynnwys y bwyty pryfed bwytadwy amser llawn cyntaf yn y DU, a elwir yn Grub Kitchen, a byddwn yn eich annog i ymweld ag ef oherwydd rwy’n siŵr y byddech chi, fel fi, yn ei ystyried yn ddiddorol tu hwnt. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth, a allwch chi ddweud wrthym felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau twristiaeth bwyd llai o faint a mwy unigryw, fel y fferm bryfed, a beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy a mwy o bobl i ymweld â’r mathau hyn o atyniadau yn y dyfodol?