Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rydych yn iawn; soniais fod y sector bwyd a’r sector twristiaeth yn sectorau blaenoriaeth, ac os ydym yn rhoi’r ddau gyda’i gilydd, gallwn weld fod bwyd yn rhan gwbl hanfodol o’r cynnig twristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n darparu pwynt cyswllt cyffredin, rwy’n credu. Mae pobl yn dod i Gymru i weld y golygfeydd rhyfeddol; maent hefyd yn dod i fwynhau ein bwyd a diod gwych. Felly, mae gennym y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd. Mae hwnnw’n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru mewn perthynas â phrofiad yr ymwelwyr, a byddwn yn hapus iawn i ymweld â’r Grub Kitchen os yw’r Aelod yn dymuno fy ngwahodd.