Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant fel hyrwyddwr rhywogaeth y gardwenynen feinlais, sy’n rhan bwysig o ecosystem Gwent. Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwerthfawrogi pwysigrwydd parciau cyhoeddus i’n hecosystem a’i chynefinoedd, a bydd yn gwybod, rwy’n siŵr, am adroddiad ‘Cyflwr Parciau Cyhoeddus y DU 2016’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri y llynedd, a oedd yn dweud bod Cymru yn rhagweld y gostyngiad canrannol uchaf i staff, yn ogystal â’r gyfran fwyaf o barciau’n dirywio. Nid oes yr un o reolwyr parciau Cymru yn disgwyl gweld cyflwr parciau’n gwella yn y tair blynedd nesaf. Beth y gallai ei ddweud i fy sicrhau nad yw hynny’n wir?