Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Mawrth 2017.
Fel y dywedaf, mae’n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ac rydym wedi datgan ein barn yn glir iawn. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y polisi adnoddau naturiol—daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Chwefror—ac rwy’n paratoi i gyhoeddi’r polisi terfynol ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf, ac mae hwn yn faes yr ydym yn canolbwyntio arno.