Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Mawrth 2017.
Yn ein maniffesto, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo hawl gymunedol i wneud cais am asedau cofrestredig o werth cymunedol. Rwy’n sylweddoli nad oes gennym hynny, ond mewn gwirionedd, ym maniffesto’r Blaid Llafur dywedodd eich plaid y byddech yn cyflwyno mesurau i atal cau diangen, ac i gynorthwyo cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol eu hunain, lle y bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Tybed a ydych wedi cael cyfle i siarad â’ch cyd-Aelod Cabinet, o gofio bod ymgynghoriad gan eich Llywodraeth eich hun wedi dangos bod yna lawer o gefnogaeth boblogaidd i’r syniad hwn, ynglŷn â phryd y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd yng Nghymru er mwyn i ni allu gwybod sut y mae’n edrych, a chael cyfle i’w gefnogi.