<p>Prosiectau Cynhyrchu Ynni sy’n Eiddo i’r Gymuned</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:08, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Rwy’n ymwybodol o dendr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect tyrbin unigol yn ne Cymru, sydd ar raddfa ddelfrydol, mewn gwirionedd, ar gyfer prosiect cymunedol. Mae’r meini prawf ar gyfer y tendr yn wirioneddol waharddol ar gyfer prosiectau cymunedol ar y raddfa honno, ac yn gofyn am hanes o gyflenwi a gwerth sawl blwyddyn o gyfrifon. Rwy’n amlwg yn deall yr angen am ddiwydrwydd dyladwy a’r angen i gael lefelau priodol o sicrwydd, ond rwy’n nodi bod cyfeiriad yn y tendr at fanteision cymunedol yn cael eu mynegi mewn punnoedd, a oedd i’w weld i mi yn dangos agwedd mor gyfyngedig yw hynny. A yw’n cytuno bod angen i ni geisio dod o hyd i ffyrdd, yn gyson â’r angen am sicrwydd, i’r prosiectau bach hyn fod yn wirioneddol hygyrch i gynhyrchiant ynni cymunedol?