Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch. Yn ein hymgyrch i sicrhau dyfodol wedi’i ddatgarboneiddio, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae ein cyfoeth o adnoddau naturiol yn ein galluogi i elwa o ystod eang o gyfleoedd, o brosiectau mawr megis môr-lynnoedd llanw i gynlluniau cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol.