Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau i hyrwyddo buddsoddi ym mhob un o ranbarthau Cymru. Yn y sector ynni adnewyddadwy, rydym yn denu buddsoddiad drwy gynadleddau, drwy arddangosfeydd, megis digwyddiadau holl-ynni ac ynni’r tonnau a’r llanw RenewableUK. Mae’n bwysig iawn fod gennym gwmnïau cadwyn gyflenwi o Gymru ar ein stondinau Llywodraeth Cymru, er mwyn iddynt allu ffurfio’r cysylltiadau, ac mae hynny wedyn yn cefnogi eu cynlluniau ar gyfer twf. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddyfnder yr arbenigedd sydd ar gael i fewnfuddsoddwyr. Yn ddiweddar, pan oedd y Prif Weinidog—fel y gwyddoch—yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, roeddwn i yn Dubai. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi ymweld â Tsieina a Siapan yn ddiweddar, a hynny yw, mae’n ymwneud â mwy nag ynni adnewyddadwy’n unig—mae’n ymwneud â phob sector—ond rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn denu’r buddsoddiad hwnnw yma.