<p>Trais Domestig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:17, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r cyfle i gyfarfod yn sydyn â rhai o’r bobl yn y digwyddiad yn ystod amser cinio. Lywydd, ni ddylai neb feio dioddefwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u dewrder i godi llais. Rydym i gyd yn gwybod am y dewrder a ddangosant pan fyddant yn codi llais, ac yn ei edmygu, a’r rhai y gallwn ac y dylwn eu beio yw’r rhai sy’n gwybod beth sy’n digwydd ac yn aros yn dawel ynglŷn â’r pethau hyn.

O ran y cwestiwn penodol ar hyn, mae’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn un darn o’r jig-so; mewn gwirionedd mae’r Ddeddf tai yn edrych ar symud cyflawnwyr o eiddo. Felly, mae yna gyfres o ddulliau gennym, ond byddaf yn edrych ar y model y mae’r Aelod yn ei grybwyll a gofyn i fy mhanel cynghori i roi mwy o syniadau ynglŷn â hynny mi.