<p>Trais Domestig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:18, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, gofynnais beth oedd yn cael ei wneud i atal anffurfio organau cenhedlu benywod ac i gynorthwyo’r rhai y mae’n effeithio arnynt. Flwyddyn yn ôl, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a BAWSO, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y prosiect Llais Nid Tawelwch, sy’n anelu at wneud hynny. Mae’n brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i 16 o fenywod ifanc gael eu hyfforddi fel llysgenhadon ieuenctid ar anffurfio organau cenhedlu benywod i danio sgyrsiau am anffurfio organau cenhedlu benywod mewn ysgolion ac mewn cymunedau ledled Cymru.

Rwy’n hynod o falch o ddweud fod y prosiect wedi ennill gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd neithiwr am weithio mewn partneriaeth. Felly, gofynnaf i chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch pawb sy’n rhan o’r fenter ragorol hon.