<p>Ffioedd Asiantau Gosod</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:21, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i’r holl fenywod yn y Siambr. Mewn ymateb i alwadau blaenorol i wahardd ffioedd gosod ar ddechrau’r denantiaeth, mae eich Llywodraeth wedi honni y byddai rhentwyr yn talu mwy yn y tymor hwy oherwydd cynnydd yn y rhent. Fodd bynnag, ers i ddeddfau’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gael eu rhoi mewn grym yn yr Alban, mae’r elusen Shelter wedi datgan na fu unrhyw gynnydd gweladwy mewn rhenti, ac mae’r sefydliad easyProperty hefyd wedi datgan ei bod yn annhebygol, oherwydd cystadleuaeth yn y sector, y byddai asiantaethau’n trosglwyddo taliadau i landlordiaid. Pa wersi a ddysgoch gan yr Alban yn hyn o beth? A byddwn yn ategu cwestiwn Mike Hedges: pa bryd y cawn yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau er mwyn i ni allu rhoi hyn ar waith yma yng Nghymru?