Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, dyna oedd un o’r materion yr oeddem yn pryderu yn eu cylch—trosglwyddo risg i denantiaid, yn enwedig mewn ffioedd. Rydym yn fwy bodlon bellach â’r dystiolaeth sy’n dod o’r Alban nad yw’n ymddangos bod hynny’n digwydd. Dyma ddeddfwriaeth y byddai’n rhaid i ni ei chyflwyno, felly bydd hynny’n dibynnu ar ei gyflwyno yn ôl yr amserlen ddeddfwriaethol, os a phryd y gallwn wneud hynny.