<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:25, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Wrth i chi ystyried y dyfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cryf wrth i’r newidiadau yr ydych wedi’u cyhoeddi fynd rhagddynt, mae llawer wedi bod yn digwydd gyda chydgysylltu ardaloedd lleol, gan gynorthwyo trigolion a chymunedau, ac rwy’n dyfynnu, ‘i gael bywyd, nid gwasanaeth’, ac ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu rhywbeth mwy o faint a mwy cynaliadwy ochr yn ochr â’r bobl a’r cymunedau eu hunain. Pa ystyriaeth a roesoch, neu y byddwch yn ei roi i’r sgyrsiau ynglŷn â chydgysylltu ardaloedd lleol a ddechreuodd ym Mynwy yn 2013?