2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Mawrth 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wrth i chi ystyried y dyfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cryf wrth i’r newidiadau yr ydych wedi’u cyhoeddi fynd rhagddynt, mae llawer wedi bod yn digwydd gyda chydgysylltu ardaloedd lleol, gan gynorthwyo trigolion a chymunedau, ac rwy’n dyfynnu, ‘i gael bywyd, nid gwasanaeth’, ac ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu rhywbeth mwy o faint a mwy cynaliadwy ochr yn ochr â’r bobl a’r cymunedau eu hunain. Pa ystyriaeth a roesoch, neu y byddwch yn ei roi i’r sgyrsiau ynglŷn â chydgysylltu ardaloedd lleol a ddechreuodd ym Mynwy yn 2013?
Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafod gyda’r byrddau darparu gwasanaethau lleol, a oedd, i bob pwrpas, yn rheoli gweithrediad Cymunedau yn Gyntaf. Mae hwnnw’n ehangu yn awr hefyd i grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill sydd â diddordeb, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhîm yn falch o edrych ar y cynigion y mae’r Aelod wedi eu dwyn i fy sylw heddiw.
Ymhellach—dechrau’n unig oedd hynny, oherwydd mae cydgysylltwyr ardaloedd lleol yn Abertawe yn gweithio ar yr egwyddor o ddod i adnabod pobl, eu teuluoedd, a chymunedau, i adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, i aros yn gryf ac yn gysylltiedig, ac i deimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus ar gyfer y dyfodol. Unwaith eto, a allech ystyried y gwaith a ddatblygwyd mewn nifer o awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, mewn sawl rhan o Gymru?
Yn wir. Rwy’n credu na ddylem gau’r drws ar ymgysylltu â’r gymuned mewn unrhyw ffordd. Dylem feddwl am y ffordd orau o ddarparu cefnogaeth effeithiol ar gyfer cymunedau gyda chymunedau, nid i gymunedau.
Wel, diolch i chi, a’r enghraifft fwyaf—nid yng Nghymru y mae, ond yn Derby, gan fod cydgysylltiad ardaloedd lleol yn y DU wedi dechrau yn Derby yn 2012, gan adeiladu ar fodel llwyddiannus iawn a weithredir yn Awstralia, sy’n darparu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion ac arbedion. Yn Swydd Derby, canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby dros 10 i 12 mis arbedion o £800,000 i’r economi iechyd a gofal cymdeithasol a gwelwyd hefyd fod hyn wedi cyflwyno a meithrin perthnasoedd, wedi sefydlu ymddiriedaeth, wedi gweithio ar sail yr unigolyn, gan ddefnyddio cryfderau pobl, a ffurfio cysylltiadau gyda theuluoedd a dinasyddion i greu atebion ar gyfer y cymunedau hynny. Argyhoeddodd hyn yr awdurdod lleol a’r GIG yno i fuddsoddi ac i ehangu i bob un o’r 17 ward cyngor. Felly, os gall prosiect sydd â 50 o bobl wella bywydau, ailgysylltu cymunedau, ac arbed £800,000, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i sut y gellid mabwysiadu’r model hwn yma?
Diolch. Roedd yn rhyddhad braidd, gan i mi gredu bod yr Aelod yn mynd i fy ngwahodd ar daith gydag ef i Derby, ond rwy’n falch na wnaeth hynny, oherwydd byddai’n gas gennyf ei wrthod ar y llawr. Ond rwy’n credu bod gan yr Aelod bwynt gwirioneddol ddiddorol yn ymwneud ag edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn cymunedau, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych arno’n ofalus. Mae gennym raglenni sydd eisoes yn gweithio’n effeithiol yng Nghymru sy’n diwallu gofynion cymunedau gyda chymunedau. Model o Derby neu Awstralia—byddai gennyf lawer o ddiddordeb mewn edrych arno.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o’r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a’u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a’u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt yn dal yn fyw heddiw o bosibl, a gafodd eu halltudio o dan y rhaglen plant mudol ers y 1950au?
Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y comisiwn sy’n ymwneud â phlant a gafodd eu cam-drin. Rwy’n deall bod fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau i siarad am blant a gafodd eu hanfon i wahanol wledydd a beth yw’r niferoedd hynny. Ond ceir llinell gymorth weithredol ar gyfer pobl sy’n dymuno rhoi gwybod am gam-drin hanesyddol; gallant siarad â phobl yn y wlad hon yn awr.
Iawn. Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafodd bywydau’r plant eu chwalu’n gyfan gwbl, a chawsant eu rhwygo oddi wrth eu teuluoedd. Pa gymorth y gallwch ei gynnig i geisio eu haduno â’r teuluoedd hynny?
Wel, wrth gwrs, y peth cyntaf, mewn gwirionedd, yw datgeliad neu gyswllt gan y bobl ifanc hyn—sy’n bobl hŷn bellach, ond pan oeddent yn ifanc a chael eu hanfon i wledydd eraill, mae’n rhaid ei bod yn frawychus iawn i’r rhan fwyaf o’r unigolion hynny. Mae gennym unigolion wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i ymdrin â’r pwyntiau cyswllt hynny, cyn belled â bod pobl yn rhoi gwybod.
Diolch. Rwy’n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod achosion o gam-drin rhywiol honedig ymhlith blant a alltudiwyd o dan y rhaglen yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, fel rhan o’u hymchwiliad i amddiffyn plant y tu allan i’r DU. Pa gyfraniad fydd gennych chi i’r ymchwiliad hwnnw?
Mae fy nhîm yn cyfarfod â swyddogion yr ymchwiliad annibynnol yn rheolaidd, ac rydym yn darparu pob gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Byddwn yn eu helpu a’u cynorthwyo i wneud eu gwaith.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf diwethaf, roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnais i chi yn ymwneud â chasglu a chyhoeddi data mewn perthynas â chynlluniau gwrth-dlodi, a oedd yn un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad blaenorol. A allwch ddweud wrthyf pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld data’n cael ei gasglu a’i fesur yn well?
Mae’r holl faterion a gyflwynwyd gennym, o ran mesur perfformiad a data, yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chawn ein barnu yn y dyfodol ar berfformiad honno. Mae dangosyddion y Ddeddf honno yn bwysig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei gyflawni, o ran newid cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.
Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedwch mewn perthynas â hynny, ond wrth gwrs, mae’n dal i fod gennym nifer o gynlluniau sy’n seiliedig ar ddata cyfredol a data o’r gorffennol. A bûm yn siarad yn ddiweddar ag ystod o sefydliadau, sydd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn gallu dod o hyd i ddata ar ganlyniadau ar gyfer 29 allan o’r 35 o raglenni cymunedol a ariannwyd o gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2007, er bod y cyllid wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar hyd nes 2020. Felly, gan ei bod yn amlwg fod yna brinder data mesuradwy o hyd, beth oedd y sail dros ymestyn y cyllid penodol hwn?
Wel, nid wyf yn ymwybodol o’r rhaglenni penodol y mae’r Aelod yn eu dwyn i fy sylw heddiw, ond os hoffai roi ychydig mwy o fanylion i mi, fe roddaf ymateb llawnach i’r sylw hwnnw. Y mater ynglŷn â’r dyddiad terfynol yn 2020 yw ein bod yn ymwybodol fod y cyllid Ewropeaidd ar gael tan 2020. A byddwn yn parhau i ddefnyddio hwnnw cyhyd ag y gallwn.
Un o’r prosiectau hynny oedd Cymunedau am Waith, ac rwyf wedi crybwyll hyn wrthych droeon, nid yn unig yma, ond yn y pwyllgor hefyd. Felly, rwy’n credu bod honno’n un enghraifft y gallech edrych arni, o bosibl, a dod yn ôl ataf. Ond mewn perthynas â dyfodol eich strategaethau gwrth-dlodi yn fwy cyffredinol, rwyf wedi clywed hefyd mai’r broblem gyda llawer o gynlluniau yn y gorffennol yw nad ydynt yn mesur y canlyniadau hirdymor, ac yn creu data a all fod yn gamarweiniol mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, bydd rhywun sy’n cael swydd drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith yn cael ei gyfrif yn llwyddiant ynddo’i hun, pa un a fydd yn dal i fod yn y swydd ymhen ychydig wythnosau ai peidio. Ond rydym i gyd yn gwybod bod tlodi pobl mewn gwaith yn dal i fod yn broblem enfawr. Felly, sut y bernir bod y cynllun penodol hwnnw ac eraill tebyg iddo yn llwyddiant, a minnau newydd amlinellu ei bod yn anodd iawn i chi ddeall a ydynt yn rhan ohono am wythnos, neu bythefnos, neu fis, ar ôl iddynt gael y lleoliad gwaith penodol hwnnw mewn gwirionedd?
Rwy’n cydnabod pwynt yr Aelod. Fe ddywedwn fod mynediad at waith yn un elfen o lwyddiant. Mae llwyddiant yn y tymor hir yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu cynnal cyflogaeth. Ond mae’r profiad y mae pobl yn mynd drwyddo ar y cwrs ei hun yn sgil craidd i’r unigolion hynny, i dyfu i mewn i’r cyfleoedd i gael gwaith yn y lle cyntaf. Felly, mae un allbwn o gael swydd a’i chynnal yn bwysig, ond mae yna agweddau eraill ar y cwrs hwnnw sy’n bwysig hefyd. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â hynny. Ond os yw’n dymuno rhoi’r manylion llawn i mi ynglŷn â’i chwestiwn, rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy nhîm ymateb iddi.