Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, diolch i chi, a’r enghraifft fwyaf—nid yng Nghymru y mae, ond yn Derby, gan fod cydgysylltiad ardaloedd lleol yn y DU wedi dechrau yn Derby yn 2012, gan adeiladu ar fodel llwyddiannus iawn a weithredir yn Awstralia, sy’n darparu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion ac arbedion. Yn Swydd Derby, canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby dros 10 i 12 mis arbedion o £800,000 i’r economi iechyd a gofal cymdeithasol a gwelwyd hefyd fod hyn wedi cyflwyno a meithrin perthnasoedd, wedi sefydlu ymddiriedaeth, wedi gweithio ar sail yr unigolyn, gan ddefnyddio cryfderau pobl, a ffurfio cysylltiadau gyda theuluoedd a dinasyddion i greu atebion ar gyfer y cymunedau hynny. Argyhoeddodd hyn yr awdurdod lleol a’r GIG yno i fuddsoddi ac i ehangu i bob un o’r 17 ward cyngor. Felly, os gall prosiect sydd â 50 o bobl wella bywydau, ailgysylltu cymunedau, ac arbed £800,000, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i sut y gellid mabwysiadu’r model hwn yma?