<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:29, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, y peth cyntaf, mewn gwirionedd, yw datgeliad neu gyswllt gan y bobl ifanc hyn—sy’n bobl hŷn bellach, ond pan oeddent yn ifanc a chael eu hanfon i wledydd eraill, mae’n rhaid ei bod yn frawychus iawn i’r rhan fwyaf o’r unigolion hynny. Mae gennym unigolion wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i ymdrin â’r pwyntiau cyswllt hynny, cyn belled â bod pobl yn rhoi gwybod.