Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf diwethaf, roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnais i chi yn ymwneud â chasglu a chyhoeddi data mewn perthynas â chynlluniau gwrth-dlodi, a oedd yn un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad blaenorol. A allwch ddweud wrthyf pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld data’n cael ei gasglu a’i fesur yn well?