Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedwch mewn perthynas â hynny, ond wrth gwrs, mae’n dal i fod gennym nifer o gynlluniau sy’n seiliedig ar ddata cyfredol a data o’r gorffennol. A bûm yn siarad yn ddiweddar ag ystod o sefydliadau, sydd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn gallu dod o hyd i ddata ar ganlyniadau ar gyfer 29 allan o’r 35 o raglenni cymunedol a ariannwyd o gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2007, er bod y cyllid wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar hyd nes 2020. Felly, gan ei bod yn amlwg fod yna brinder data mesuradwy o hyd, beth oedd y sail dros ymestyn y cyllid penodol hwn?