<p>Diwygio Lles</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:40, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi gwneud gwaith ar y risgiau i system les y DU yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai Llywodraeth y DU wrth ei bodd yn trosglwyddo’r risg i Gymru, ac maent wedi gwneud yn y gorffennol mewn perthynas â budd-dal y dreth gyngor, lle y gwthiwyd rhywfaint o arian drosodd o’r M4, ond nid oedd yn ddigon, ac rwy’n siŵr y byddant yn parhau i wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau cymaint â phosibl o gymorth i bobl sydd ei angen yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.