Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n synnu braidd ynglŷn â chwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr wythnos yn ôl pan wneuthum gyhoeddiad ynghylch cyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni. Ni fydd yn gweld yn unrhyw un o’r datganiadau a wneuthum fy mod yn bwriadu cael gwared ag unrhyw raglen. Rydym wedi gwneud argymhelliad cadarnhaol iawn ar gyfer pontio. Mae fy nhîm wedi bod allan yr wythnos diwethaf yn cyfarfod â byrddau cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf yng ngogledd Cymru a de Cymru i drafod y dyfodol a sut olwg fydd arno, gyda 70 y cant o’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer eleni a’r cyllid pontio o £10 miliwn o refeniw a chyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i gymunedau ddechrau bod yn wahanol o ran y ffordd y maent yn rheoli cydnerthedd o ran yr achosion unigol sydd gan Aelodau yn eu hetholaethau eu hunain.