<p>Tlodi Plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:44, 8 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun Dechrau’n Deg yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn at fynd i’r afael â phroblemau ymhlith rhai o’n plant ieuengaf ac yn darparu manteision sylweddol yn fy etholaeth, ond mae rhai teuluoedd y tu allan i gyrraedd y cynllun oherwydd natur cod post y broses o gael mynediad at y ddarpariaeth honno. Felly, a allwch ddweud unrhyw beth heddiw wrth yr etholwyr hynny, ac etholwyr Aelodau eraill, rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd y tu allan i’r cynllun ar hyn o bryd ynglŷn â’r posibilrwydd o’i ymestyn ac ehangu ei gyrhaeddiad?