Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, dylem ddweud, ‘Llongyfarchiadau a diolch’ wrth staff Dechrau’n Deg ledled Cymru. Yn Nwyrain De Cymru, rydym wedi cyrraedd ychydig o dan 10,000 o blant yn yr ardal honno, gan eu cefnogi gyda gwasanaethau ar gyfer eu teuluoedd. Gyda’r pontio rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni cryfder cymunedol newydd, mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o’r ymagwedd integredig tuag at gyflwyno gwasanaethau, ac rwy’n bwriadu cefnogi hynny gyda hyblygrwydd yn y dull hwnnw o weithredu, lle y gall pobl mewn angen y tu allan i’r ardal honno gael cyfle i gael mynediad at Dechrau’n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf neu broffilio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd, gobeithio, yn helpu eich cymuned a chymunedau ledled Cymru.