Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae dwy elfen i hynny. Ceir cyfnod pontio lle y byddwn yn darparu 70 y cant o’r cyllid ar gyfer paratoi clystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ddechrau meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol a sut y gallant ddenu ffynonellau cyllid eraill. Hefyd, rydym wedi gwneud buddsoddiad o £11.7 miliwn drwy’r rhaglen gyflogadwyedd, Cymunedau am Waith, Esgyn, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Rydym yn parhau â’r argymhellion wrth i ni fwrw ymlaen â hynny.
Bydd y blaenoriaethau eraill ar gyfer awdurdodau lleol neu ar gyfer byrddau cyflawni yn fater iddynt hwy o ran faint o gyllid sydd ar gael iddynt a sut y gallant weithio gyda setliad presennol Cymunedau yn Gyntaf i symud ymlaen ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hyderus y byddant, gydag amser, yn gallu addasu’r rhaglenni yn unol â hynny.