Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 8 Mawrth 2017.
Pan gyhoeddoch eich bod yn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, cyfeiriodd fy ymateb at yr adroddiad ‘Valuing Place’ a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, yn seiliedig ar waith ymchwil mewn tair cymuned, yn cynnwys Cei Connah, y credaf eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef. Gwelsant fod sefydlu rhwydweithiau lleol i gysylltu pobl sydd am roi camau gweithredu ar waith yn lleol yn flaenoriaeth.
Yn yr ateb yr ydych newydd ei roi, fe gyfeirioch at y byrddau cyflawni ac awdurdodau lleol, ond sut rydych yn ymateb i’r erthygl gan Sefydliad Bevan yn eu cyhoeddiad yng ngwanwyn 2017 a oedd yn archwilio’r syniad o gymunedau cryf, ac yn datgan bod cefnogaeth y gymuned yn hanfodol a bod consensws na fydd polisïau’n gweithio os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi arnynt?