Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 8 Mawrth 2017.
Wel, rwy’n falch o glywed am y buddsoddiad ychwanegol, beth bynnag. Mae canllawiau’r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn dweud y gall awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus eraill a busnesau fod yn bartneriaid i sefydliadau lleol sydd eisiau ymgeisio i’r gronfa. Ond, mae’n debyg bod mwyafrif y prosiectau yn cael eu gweinyddu a’u trefnu drwy awdurdodau lleol. Mae’n anodd i weld pa mor hawdd yw hi i sefydliadau lleol weithio gyda busnesau preifat a defnyddio’r cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth sydd ganddyn nhw. A fyddai’n bosibl ichi ddweud faint o brosiectau’r rhaglen sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol o’i gymharu â busnesau lleol? Sut fath o anogaeth y mae’r sefydliadau a’r busnesau yn ei chael i gydweithio?