Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 8 Mawrth 2017.
Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn. Nid yw’r manylion gennyf heddiw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn ei hysbysu ynglŷn â hynny. Rwy’n awyddus iawn i weld cymaint ag y bo modd o gyfranogiad a gweithgarwch trydydd parti mewn perthynas â’r rhaglenni hyn. Yn hytrach na phwyntiau mynediad sengl, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod yn ennill llawer wrth i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gydweithio â gwirfoddolwyr i greu cyfleuster cymunedol. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach, ond fel y dywedais yn fy ymateb i ddechrau, o ran y cyfnod pontio, byddaf yn canolbwyntio’r gronfa hon yn awr ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.