Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn longyfarch yr Aelodau sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd credaf ei bod yn rhoi lle i geisio edrych ar y strategaeth economaidd a cheisio’i wneud o beth pellter efallai, a cheisio meddwl am syniadau newydd. Felly, rwy’n eu llongyfarch am wneud hynny.
Bu dadlau ers amser maith ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud i ddinas-ranbarthau, gwledydd neu ardaloedd penodol dyfu’n gyflymach nag eraill. Byddai’n hurt ceisio honni bod pobl wedi symud o Geredigion wledig i Senghenydd yn etholaeth Hefin David, fel y gwnaeth fy nhad-cu a fy mam-gu, oherwydd yr ysgolion a’r ysbytai a seilwaith arall. Symud oherwydd y pyllau glo a wnaethant. Byddai pyllau glo newydd a fyddai’n agor yn cael eu galw’n ddiwydiannau creu poblogaeth, gyda’r ysgolion, yr ysbytai a’r diwydiannau bwyd a diod yn cael eu categoreiddio fel gweithgareddau economaidd i wasanaethu’r boblogaeth. Os yw’r pwll glo yno, mae pentref y pwll yn tyfu o’i gwmpas; rhaid i ysgolion a chanolfannau iechyd, rheilffyrdd a ffyrdd, poptai a bragdai dyfu gerllaw i wasanaethu’r boblogaeth leol newydd.
Mae’r cynnig hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn galw am fuddsoddi yn yr economi bob dydd ac ymagwedd newydd tuag ati. Ac rwy’n cefnogi hynny, ond yr hyn yr hoffwn ei glywed yn y ddadl yw beth y mae hynny’n ei olygu’n ymarferol. Beth fyddai’r ymagwedd newydd hon tuag at yr economi sylfaenol mewn gwirionedd? Oherwydd mae’n gwneud synnwyr llwyr i wrando arno a dyna ble y dylem fuddsoddi a dyna y dylem ei ddatblygu. Roeddwn yn falch iawn o glywed Karel Williams yn siarad hefyd yn y Pierhead beth amser yn ôl. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni geisio edrych ar y sefyllfaoedd sydd gennym gyda llygaid newydd a cheisio meddwl am strategaeth a fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau hirsefydlog sydd wedi bod gennym.
Rwy’n credu ei bod yn dal i fod yn wir mai’r prif amrywiad yng Nghymru sy’n achosi i Gymru, neu wahanol rannau o Gymru yn wir, i ffynnu neu beidio â ffynnu, yw’r hyn sy’n dod yn lle prif ddiwydiannau gwreiddiol y chwyldro diwydiannol. Rwy’n credu bod yr hyn sy’n dod yn lle’r pyllau glo yn y Cymoedd yn gwestiwn mor fyw heddiw ag yr oedd yn y 1930au. Rwy’n meddwl mai dyna ble yr hoffwn glywed mwy o’r syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu diwydiant sylfaenol er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa lle y mae’r prif ddiwydiannau hynny wedi diflannu, mewn llefydd fel y Cymoedd, o ble rwy’n dod.
Yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, mae’n sefyllfa wahanol iawn, gan mai’r hyn sy’n cadw Gogledd Caerdydd i fynd yw byd y gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw erioed wedi bod yn etholaeth weithgynhyrchiol, ac eithrio’r Ffatri Ordnans Frenhinol, a ddaeth yn ystod y rhyfel diwethaf a pharhau, rwy’n meddwl, am 50 mlynedd wedyn—yr unig safle gweithgynhyrchu mawr ac wrth gwrs, mae’r cyfan yn dai bellach. Ond yr hyn sydd wedi cadw Gogledd Caerdydd i redeg yn llyfn heddiw yw’r buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng Ysbyty Athrofaol Cymru ym mharc y Mynydd Bychan; ysbyty’r plant; yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd; yr ysbyty deintyddol; ac wrth gwrs, y buddsoddiad enfawr sydd ar y ffordd i greu ysbyty newydd Felindre. Felly, wrth gwrs, mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r mathau hyn yn cysylltu â dyfodiad diwydiannau uwch-dechnoleg newydd. Wrth gwrs, ar safle Felindre bydd parc busnes ymchwil canser a threialon clinigol yn gysylltiedig ag ysbyty newydd Felindre, a phe bai mwy o le yn Ysbyty Athrofaol Cymru, byddai cyfleuster hyd yn oed yn fwy ar gyfer sgil-gynhyrchion o’r ysgol feddygol. Rwy’n credu bod yna wers ehangach i’w dysgu yno am y modd y mae’r ochr economi sylfaenol yn rhyngweithio y ddwy ffordd â rhannau mwy symudol o’r economi.
Os edrychwch ar rai o ddinasoedd a rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau, rwy’n credu y gallwch weld bod llefydd fel Austin, Texas, a Columbus, Ohio, wedi tyfu fel prifddinasoedd taleithiol i seilwaith y sector cyhoeddus, gan ddarparu gweinyddiaeth daleithiol a phrifysgolion taleithiol enfawr, mawreddog gyda llawer o adnoddau. Nawr, dyna ble y mae diwydiannau uwch-dechnoleg newydd yn awyddus i sefydlu, gan fod Apple a Google wedi penderfynu lleoli eu hail gampysau yn Austin am fod y wefr gywir i’w theimlo yno. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr ardaloedd twf mwyaf llwyddiannus, ein bod yn rhoi ein hadnoddau tuag atynt, a’n bod yn cynllunio’n ofalus lle y dylent fod ledled Cymru, a rhoi’r ysgogiad yno yn ogystal â cheisio edrych ar yr economi sylfaenol a gwneud yr hyn a allwn i ddatblygu hynny. Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am gael cymryd rhan yn fyr yn y ddadl hon heddiw, a hoffwn longyfarch yr Aelodau sy’n meddwl yn economaidd yn y ffordd hon ynglŷn â ble rydym yn mynd yng Nghymru heddiw. Diolch.