– Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi sylfaenol. Rydw i’n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6210 Lee Waters, Jeremy Miles, Vikki Howells, Hefin David
Cefnogwyd gan David Melding, David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod tua 40 y cant o’r gweithlu sy’n cael eu cyflogi yn yr ‘Economi Sylfaenol’ yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.
2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.
3. Yn gresynu fod llawer o’r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr ‘Economi Sylfaenol’ ledled Cymru fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.
Diolch, Lywydd. Fel y cawsom ein hatgoffa yr wythnos diwethaf gan y dyfalu am ddyfodol Ford ym Mhen-y-bont, a’r mis cynt gan y ddadl ynglŷn â dyfodol Tata Steel, mae ein heconomi mewn sefyllfa fregus iawn—yn fregus yn wyneb penderfyniadau corfforaethau rhyngwladol sy’n eiddo i gwmnïau tramor, yn fregus yn wyneb ergydion allanol fel Brexit neu amrywiadau ym mhris olew, ac yn fregus, fel pob economi fodern, yn wyneb effeithiau hirdymor newid yn yr hinsawdd, ansicrwydd ynglŷn â’r cyflenwad bwyd a phrinder ynni.
Diben y cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn fy enw i ac yn enwau fy nghyd-Aelodau Jeremy Miles, Vikki Howells, Hefin David, David Rees, a fy nghyfaill David Melding, yw ystyried sut y gallech ddefnyddio’r broses o fframio strategaeth economaidd newydd ar gyfer Cymru i feddwl ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru helpu ein cymunedau i ddatblygu gallu i wrthsefyll y bygythiadau hyn. Bydd fy nghyd-Aelodau’n archwilio rhai o’r ffyrdd y bydd dull sylfaenol yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol. Yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn canolbwyntio ar yr achos dros newid.
Rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiadau ar yr un thema ym mholisi economaidd Cymru bellach ers nifer o genedlaethau, ac rydym yn rhedeg er mwyn sefyll yn llonydd. Prin y mae ein lefel cyfoeth cenedlaethol, neu werth ychwanegol gros y pen wedi newid yn yr 20 mlynedd ers i ni addo y byddai ffurfio Cynulliad Cenedlaethol yn creu pwerdy economaidd i Gymru. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i chwilio am ateb gwyrthiol—prosiect trawsnewidiol hoff gan bawb. Pe baem ond yn gallu cael ychydig o brosiectau mewnfuddsoddi proffil uchel a gobeithio ar ein gwaethaf am Admiral Insurance arall, yr unig gwmni FTSE 100 sydd gan Gymru o hyd gyda llaw, bron i 25 mlynedd ar ôl iddo gael ei sefydlu. Ac wrth i ni chwilio’n daer am ruban i’w dorri, mae economi ein cymunedau o ddydd i ddydd yn parhau i droi’n araf deg.
Mae cynnig heddiw yn apêl i edrych ar yr hyn sy’n cuddio yng ngolwg pawb, a thrafod yr hyn y gallem ei wneud i’w meithrin—yr economi bob dydd, fel y’i disgrifiwyd gan yr Athro Karel Williams. Nawr, dyna enw y byddwch yn ei glywed sawl tro y prynhawn yma, rwy’n siwr. Ochr yn ochr â’i gydweithwyr yn Ysgol Fusnes Manceinion, mae wedi gwneud llawer i roi bywyd i’r syniad o economi bob dydd, yr economi sylfaenol fel y’i gelwir. Fel un o feibion Llanelli, mae Karel Williams wedi defnyddio cyflwr diobaith y dref rwy’n ei chynrychioli yn ein Cynulliad Cenedlaethol fel astudiaeth achos yn yr hyn y gellir ei wneud i gryfhau’r rhannau o’r economi a adawyd ar ôl wedi diflaniad y diwydiant trwm a ysbrydolodd eu creu.
Yr economi sylfaenol sy’n sail i wead cymdeithasol ein cymunedau, ac mae’n treiddio i’n cymdogaethau mwyaf difreintiedig hyd yn oed. Y diwydiannau a busnesau sydd yno am fod y bobl yno, y bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi yr ydym yn byw ynddynt, yr ynni a ddefnyddiwn a’r gofal yr ydym yn ei dderbyn. Nid rhan fechan o’n heconomi yw hon; dyma yw oddeutu pedair o bob 10 swydd a £1 o bob £3 a wariwn. Mae ein ffocws wedi bod ar gwmnïau angor sy’n cyflogi mwy na 1,000 o bobl mewn un lle, ond mae mwy na 3,000 o bobl wedi’u cyflogi i wneud soffas ar draws Cymru, ac nid ydynt yn rhan o unrhyw strategaeth economaidd, ond dyma’r math o weithgaredd anatyniadol sy’n sylfaen i’n heconomïau lleol.
Mae globaleiddio wedi ein dal ar y droed ôl wrth i gynhyrchwyr lleol gael eu gwthio allan o’r farchnad gan is-gwmnïau tramor, sy’n aml yn rhoi pwysau ar gyflenwyr Cymru i ostwng eu prisiau ac allforio’r elw tramor. Os cawn hyn yn iawn, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i wrthdroi dirywiad amodau cyflogaeth, atal colli arian o’n cymunedau a lleihau cost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig. Mae rhwystrau mawr yn sefyll yn ein ffordd—mae’n ddibwynt esgus fel arall—ac yn hytrach na’u hanwybyddu, hoffwn fynd i’r afael â hwy’n uniongyrchol.
Y cyntaf yn ddi-os yw’r gost. Yn aml, nodir gwariant y sector cyhoeddus—y £5.5 biliwn a wariwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn—fel ffordd uniongyrchol o hybu ein heconomi sylfaenol. Ond yn union fel y mae’r ymgyrch i leihau cyllidebau wedi arwain at gwmnïau mawr wedi’u preifateiddio yn dominyddu’r modd y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus, felly hefyd y bydd gwrthdroi’r tueddiad hwn yn galw am fuddsoddiad. Bydd angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau lleol i geisio am gontractau sector cyhoeddus a’u cyflawni. Mae angen i ni fuddsoddi mewn staff â sgiliau uwch ym maes caffael arbenigol mewn llywodraeth leol, ac yn ôl pob tebyg, bydd cost y nwyddau a’r gwasanaethau a brynwn yn y diwedd yn codi, ac mae angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny. Er mwyn cyflawni ailstrwythuro go iawn, bydd angen buddsoddi sylweddol, a chydnabyddiaeth y dylai enillion ariannol yn y tymor byr gael eu dadflaenoriaethu o blaid manteision mwy hirdymor, ac mae’n rhaid i ni fod yn onest ynglŷn â hynny, hefyd.
Ond mae realiti ein tirwedd economaidd a’r awtomeiddio sydd ar y ffordd yn ei gwneud yn gostus i beidio â’i wneud. Rwyf wedi siarad o’r blaen am y ffordd y mae ffrwydrad o gyfrifiaduron sy’n gallu dysgu drostynt eu hunain yn golygu bod ymennydd dynol, yn ogystal â dwylo dynol, mewn perygl o gael eu disodli gan beiriannau ac algorithmau bellach. Cyfrifwyr, yswirwyr, clercod a dadansoddwyr—mae yna lu o broffesiynau’n agored iawn i hyn. Amcangyfrifir bod 700,000 o swyddi i gyd mewn perygl yn sgil awtomeiddio yng Nghymru yn unig. Ac er y bydd y swyddi gwerth uchel sy’n seiliedig ar wybodaeth a fydd yn parhau yn dilyn yr ail don hon o awtomeiddio yn atyniadol iawn, rhaid inni sicrhau bod y swyddi ar ben arall y sbectrwm—y rhai sy’n ffurfio sylfaen bob dydd ein heconomi—yn atyniadol hefyd.
Yr ail ddadl yr un mor ddilys yn erbyn buddsoddi adnoddau prin yn yr economi sylfaenol yw ei bod yn ymagwedd radical a heb ei phrofi. Ond fel y nodais yn gynharach, mae ein strategaeth economaidd bresennol wedi cael ei phrofi—nid yw’n gweithio. Mae ein methiant i adfywio ein heconomi drwy ddulliau confensiynol wedi golygu ein bod wedi gorfod buddsoddi arian mewn rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i geisio clirio’r llanast. Ond atyniad yr economi sylfaenol yw y byddai’n mynd i’r afael â gwendid ein heconomi a chanlyniadau cymdeithasol hynny. Ac ydy, mae’n radical—dyna’r pwynt. Rydym yn wynebu dadrithiad cyhoeddus mawr. Brexit a’r pedwerydd chwyldro diwydiannol—mae ein hamgylchedd gweithredu yn newid yn radical ac mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. Rhaid i ni symud oddi wrth y confensiynol a rhoi cynnig ar yr arbrofol, gan fod methu rhoi sylw i’n sylfeini yn golygu bod perygl y bydd ein strwythur economaidd bregus yn ei gyfanrwydd yn dadfeilio. Diolch.
Mae’n bleser dilyn yr Aelod dros Lanelli ac rwy’n ei longyfarch ef a’i gyd-Aelodau am fanteisio ar y cyfle pwysig hwn i greu ychydig o le i syniadau newydd, am y rhesymau y mae wedi’u disgrifio mor huawdl—yn sicr, rydym eu hangen, onid ydym? Rwy’n meddwl bod Karel Williams wedi dweud bod yna air yn Gymraeg mewn gwirionedd am ailadrodd yr un camgymeriad drosodd a throsodd, fe’i gelwir yn ‘dwp’. A byddwn yn ailadrodd methiannau’r gorffennol oni bai ein bod yn barod i arbrofi yn y ffordd radical y mae’r Aelod wedi awgrymu.
Wrth gwrs, ni ddylem ochel rhag y ffaith mai’r hyn y mae’r economi sylfaenol ac yn wir, cyfresi eraill o syniadau cysylltiedig—astudiaethau dwfn Mark Lang, a Dave Adamson ar yr economi ddosbarthedig—yn eu cynrychioli gyda’i gilydd, rwy’n meddwl, yw beirniadaeth gydlynol a dewis yn lle’r patrwm polisi economaidd sydd wedi bodoli ers sawl cenhedlaeth, ac sydd yn y bôn bron yn wrthwyneb llwyr i’r hyn a gyflwynwyd i ni fel meddylfryd confensiynol. Felly, er bod dwy elfen graidd i’r economi sylfaenol mewn gwirionedd, sef marchnadoedd gwarchodedig—marchnadoedd lleol gwarchodedig—a chwmnïau gwreiddiedig, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar farchnadoedd byd-eang a chwmnïau tramor, gydag ond ychydig o fudd economaidd hirdymor. Ac felly, rwy’n meddwl ei bod yn bryd troi’r byd yn ôl y ffordd iawn o ran economi Cymru.
Mae’n mynd i alw am ymdrech enfawr, rwy’n credu, a bydd yn cymryd rhai blynyddoedd ac ymdrechion trawsbleidiol yn ôl pob tebyg i drechu’r patrwm cyffredinol. Mae wedi’i wreiddio mor ddwfn yn ein ffordd o feddwl—edrychwch ar yr ardoll prentisiaethau: mewn gwirionedd rydym yn tynnu’r sector manwerthu allan o’r ardoll prentisiaethau, ond o ran y budd hirdymor i weithwyr yn y sector hwnnw mewn cymunedau, edrych ar wella’r sylfaen sgiliau mewn sector a blagiwyd gan sgiliau isel a chyflogau isel, wyddoch chi, yw’r ffordd y dylem fod yn mynd mewn gwirionedd. Felly, mae angen dulliau anghonfensiynol. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn creu corff arloesi cenedlaethol. Ond ni ddylai’r corff arloesi cenedlaethol hwnnw, er mwyn gwella arloesedd—ym mhob sector, ym mhob maes—gael ei gaethiwo gan yr hen fersiwn gul o arloesi sy’n ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg a’r farchnad fyd-eang, oherwydd mae angen i arloesedd fod yno wrth galon ein heconomi sylfaenol hefyd.
Felly, mae yna heriau sylweddol tu hwnt, ond nid yw hynny’n rheswm i ni ochel rhag y cyfle. Byddwn yn datgelu ein strategaeth economaidd newydd yn yr ychydig fisoedd nesaf, rwy’n credu, dros gyfnod y gwanwyn. Nawr yw’r amser i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn feiddgar. Mae atebion y gorffennol wedi methu.
Un o’r themâu y mae Karel Williams a’i dîm wedi cyfeirio atynt ac wedi siarad amdanynt yw’r edefyn canol sydd ar goll. Ac un o’r problemau y mae llawer o’n cwmnïau llwyddiannus canolig eu maint wedi’u hwynebu, dro ar ôl—Rachel’s Dairy, ac mae Avana Bakeries yn enghraifft arall ohono am wn i—pan fyddwn yn creu llwyddiant o fewn ein cwmnïau gwreiddiedig ac yn creu busnesau canolig eu maint sy’n llwyddiannus yw eu bod yn cyrraedd pwynt, wrth gwrs, yn aml oherwydd cynllunio olyniaeth, pan fydd pobl yn awyddus i adael, ac eto, wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw fodd ar gael i ni, ar hyn o bryd, o gadw’r berchnogaeth honno, cadw’r cwmni gwreiddiedig yn wreiddiedig, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth yw canlyniadau hynny.
Yr her o ran polisi yw mynd o’r meta i’r penodol iawn. A fydd y banc datblygu yr ydym yn ei greu yn seiliedig ar y syniadau ynglŷn â chyllid sy’n cael eu hyrwyddo gan Karel Williams a’i dîm? Nid y model cyfalaf menter, nid cael pobl i gynhyrchu arian parod, ond creu cyllid hirdymor mewn gwirionedd. Fel y dywedais eisoes, mae mantais ddwbl gan La Caixa, y banc sy’n eiddo i elusen yng Nghatalonia, sydd â chyfrannau hirdymor mewn busnesau a wreiddiwyd yn ddwfn yn eu heconomi, nid yn unig yn yr ystyr eu bod yn datblygu a chynhyrchu difidend ar gyfer yr elusen sy’n berchen ar y banc, ond hefyd am eu bod yn gwneud yn siŵr fod y cwmnïau llwyddiannus hynny’n parhau’n llwyddiannus am genedlaethau i ddod.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn longyfarch yr Aelodau sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd credaf ei bod yn rhoi lle i geisio edrych ar y strategaeth economaidd a cheisio’i wneud o beth pellter efallai, a cheisio meddwl am syniadau newydd. Felly, rwy’n eu llongyfarch am wneud hynny.
Bu dadlau ers amser maith ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud i ddinas-ranbarthau, gwledydd neu ardaloedd penodol dyfu’n gyflymach nag eraill. Byddai’n hurt ceisio honni bod pobl wedi symud o Geredigion wledig i Senghenydd yn etholaeth Hefin David, fel y gwnaeth fy nhad-cu a fy mam-gu, oherwydd yr ysgolion a’r ysbytai a seilwaith arall. Symud oherwydd y pyllau glo a wnaethant. Byddai pyllau glo newydd a fyddai’n agor yn cael eu galw’n ddiwydiannau creu poblogaeth, gyda’r ysgolion, yr ysbytai a’r diwydiannau bwyd a diod yn cael eu categoreiddio fel gweithgareddau economaidd i wasanaethu’r boblogaeth. Os yw’r pwll glo yno, mae pentref y pwll yn tyfu o’i gwmpas; rhaid i ysgolion a chanolfannau iechyd, rheilffyrdd a ffyrdd, poptai a bragdai dyfu gerllaw i wasanaethu’r boblogaeth leol newydd.
Mae’r cynnig hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn galw am fuddsoddi yn yr economi bob dydd ac ymagwedd newydd tuag ati. Ac rwy’n cefnogi hynny, ond yr hyn yr hoffwn ei glywed yn y ddadl yw beth y mae hynny’n ei olygu’n ymarferol. Beth fyddai’r ymagwedd newydd hon tuag at yr economi sylfaenol mewn gwirionedd? Oherwydd mae’n gwneud synnwyr llwyr i wrando arno a dyna ble y dylem fuddsoddi a dyna y dylem ei ddatblygu. Roeddwn yn falch iawn o glywed Karel Williams yn siarad hefyd yn y Pierhead beth amser yn ôl. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni geisio edrych ar y sefyllfaoedd sydd gennym gyda llygaid newydd a cheisio meddwl am strategaeth a fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau hirsefydlog sydd wedi bod gennym.
Rwy’n credu ei bod yn dal i fod yn wir mai’r prif amrywiad yng Nghymru sy’n achosi i Gymru, neu wahanol rannau o Gymru yn wir, i ffynnu neu beidio â ffynnu, yw’r hyn sy’n dod yn lle prif ddiwydiannau gwreiddiol y chwyldro diwydiannol. Rwy’n credu bod yr hyn sy’n dod yn lle’r pyllau glo yn y Cymoedd yn gwestiwn mor fyw heddiw ag yr oedd yn y 1930au. Rwy’n meddwl mai dyna ble yr hoffwn glywed mwy o’r syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu diwydiant sylfaenol er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa lle y mae’r prif ddiwydiannau hynny wedi diflannu, mewn llefydd fel y Cymoedd, o ble rwy’n dod.
Yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, mae’n sefyllfa wahanol iawn, gan mai’r hyn sy’n cadw Gogledd Caerdydd i fynd yw byd y gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw erioed wedi bod yn etholaeth weithgynhyrchiol, ac eithrio’r Ffatri Ordnans Frenhinol, a ddaeth yn ystod y rhyfel diwethaf a pharhau, rwy’n meddwl, am 50 mlynedd wedyn—yr unig safle gweithgynhyrchu mawr ac wrth gwrs, mae’r cyfan yn dai bellach. Ond yr hyn sydd wedi cadw Gogledd Caerdydd i redeg yn llyfn heddiw yw’r buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng Ysbyty Athrofaol Cymru ym mharc y Mynydd Bychan; ysbyty’r plant; yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd; yr ysbyty deintyddol; ac wrth gwrs, y buddsoddiad enfawr sydd ar y ffordd i greu ysbyty newydd Felindre. Felly, wrth gwrs, mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r mathau hyn yn cysylltu â dyfodiad diwydiannau uwch-dechnoleg newydd. Wrth gwrs, ar safle Felindre bydd parc busnes ymchwil canser a threialon clinigol yn gysylltiedig ag ysbyty newydd Felindre, a phe bai mwy o le yn Ysbyty Athrofaol Cymru, byddai cyfleuster hyd yn oed yn fwy ar gyfer sgil-gynhyrchion o’r ysgol feddygol. Rwy’n credu bod yna wers ehangach i’w dysgu yno am y modd y mae’r ochr economi sylfaenol yn rhyngweithio y ddwy ffordd â rhannau mwy symudol o’r economi.
Os edrychwch ar rai o ddinasoedd a rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau, rwy’n credu y gallwch weld bod llefydd fel Austin, Texas, a Columbus, Ohio, wedi tyfu fel prifddinasoedd taleithiol i seilwaith y sector cyhoeddus, gan ddarparu gweinyddiaeth daleithiol a phrifysgolion taleithiol enfawr, mawreddog gyda llawer o adnoddau. Nawr, dyna ble y mae diwydiannau uwch-dechnoleg newydd yn awyddus i sefydlu, gan fod Apple a Google wedi penderfynu lleoli eu hail gampysau yn Austin am fod y wefr gywir i’w theimlo yno. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr ardaloedd twf mwyaf llwyddiannus, ein bod yn rhoi ein hadnoddau tuag atynt, a’n bod yn cynllunio’n ofalus lle y dylent fod ledled Cymru, a rhoi’r ysgogiad yno yn ogystal â cheisio edrych ar yr economi sylfaenol a gwneud yr hyn a allwn i ddatblygu hynny. Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am gael cymryd rhan yn fyr yn y ddadl hon heddiw, a hoffwn longyfarch yr Aelodau sy’n meddwl yn economaidd yn y ffordd hon ynglŷn â ble rydym yn mynd yng Nghymru heddiw. Diolch.
Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwyf innau hefyd yn llongyfarch yr Aelodau am gyflwyno’r ddadl ar y pwnc hwn—pwnc nad oeddwn yn gwybod rhyw lawer iawn amdano yn flaenorol. Fel y clywsom eisoes heddiw, mae’r cysyniadau ynglŷn â’r economi sylfaenol yn ymgorffori egwyddorion ‘mittelstand’ a rhyddfreinio cymdeithasol, ac mae potensial mawr, rwy’n credu, i Gymru, o ystyried y ffaith fod canran sylweddol o’n gweithlu yn cael ei chyflogi mewn sectorau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol. Felly, rwy’n gobeithio y gallaf ddod â rhai syniadau fy hun i’r ddadl y prynhawn yma, o ran cefnogi egwyddorion economi sylfaenol yng Nghymru.
Rwy’n meddwl bod y ffaith fod strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cydnabod y gallu i gynnwys busnesau fel rhyddfraint gymdeithasol ar gyfer addysg a sgiliau yn rhywbeth i’w groesawu. Hefyd, wrth gwrs, byddai sefydlu colegau prifysgol technegol yn cyflwyno elfen fusnes ac entrepreneuriaeth i lawer o gyrsiau galwedigaethol a byddai, wrth gwrs, yn dod â dysgwyr, colegau, prifysgolion, a busnesau at ei gilydd, gan roi blaenoriaeth i sgiliau a gwella statws cymwysterau galwedigaethol. Yn ymarferol, rwy’n meddwl y bydd hyn yn golygu y bydd aelodau o gymunedau busnes lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan ar baneli llywodraethu ysgolion, i roi cyngor ar y cwricwlwm, er mwyn creu amgylchedd lle y gall myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau parod am waith y mae’r diwydiant yn dweud eu bod eu hangen, yn ogystal, wrth gwrs, â gweithio gyda chyflogwyr i gynyddu amrywiaeth prentisiaethau. Roedd lledaenu’r twf ar draws y wlad, wrth gwrs, yn flaenoriaeth yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac mae hyn yn cynnwys cyllid seilwaith ychwanegol i ddatgloi twf mewn ardaloedd lle y mae cysylltedd yn ei ddal yn ôl, gan ystyried cydbwysedd gwariant y pen, wrth gwrs, rhwng rhannau gwahanol o’r DU wrth ddatblygu rowndiau cyllid seilwaith yn y dyfodol. Rydym yn dal i aros, wrth gwrs, am strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru, ond pan gaiff ei chyhoeddi, rwy’n sicr yn gobeithio y bydd yn rhoi pwyslais cyffelyb ar fynd i’r afael â’r anghyfartaledd rhanbarthol mewn ffyniant economaidd a’r prinder sgiliau sy’n bodoli.
Mae pwynt 2 y cynnig yn arbennig o gryf yn fy marn i. I mi, ers rhai blynyddoedd rwyf wedi bod yn awyddus iawn i gael siarter cig coch—rhywbeth yr hoffwn i Lywodraeth Cymru ei ystyried eto—ac mae hyn yn rhywbeth a allai hyrwyddo caffael lleol mewn perthynas â’n cynnyrch cig coch rhagorol. Rwyf wedi gofyn o’r blaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael y gallu i graffu ar achos busnes y banc datblygu i sicrhau bod busnesau’n cael eu cefnogi’n llawn drwy’r argymhellion. Byddai craffu o’r fath, rwy’n credu, yn arwain at ei ddatblygu ymhellach yn fodel a fyddai o ddifrif yn cefnogi’r economi sylfaenol. Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle yn hynny o beth hefyd.
Rwy’n meddwl y dylai’r banc datblygu gynnwys elfen ranbarthol yng Nghymru hefyd, gan roi cyfle i fusnesau bach a chanolig eu maint gael gafael ar gyllid yn lleol. Rwyf eisiau gweld cyfres o fanciau stryd fawr rhanbarthol yn cael eu sefydlu ar draws Cymru, a mynediad lleol at gyllid ar gyfer busnesau bach. Rwyf hefyd am weld system lle y gellir cyflwyno nifer o fanciau buddsoddi rhanbarthol daearyddol, atebol, Cymreig yn ogystal, gan ddod â chyllid yn agosach at fusnesau ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o’r siaradwyr heddiw wedi siarad am y gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o Gymru a’r gwahanol anghenion, felly rwy’n meddwl y byddai cael ffocws lleol i gyllid rhanbarthol yn dda hefyd.
Yn olaf, mae Deddf Lleoliaeth 2011 hefyd wedi datganoli nifer o bwerau arwyddocaol i gymunedau lleol a ddylai eu grymuso i gefnogi’r economi sylfaenol. Felly, mae Lloegr wedi gweithredu’r hawliau cymunedol ers 2011, ac mae’r Alban hefyd yn gweithredu ei fersiwn ei hun o hawliau cymunedol. Felly, byddwn yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r ymagwedd hon hefyd, gan fy mod yn credu y byddai hynny’n helpu cymunedau a chynghorau i ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i gefnogi’r economi sylfaenol. Mae gan yr economi sylfaenol rôl arwyddocaol i’w chwarae, rwy’n meddwl, ac i sicrhau bod gan Gymru economi iach. Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw ac rwy’n hapus i ddangos fy nghefnogaeth i’r cynnig.
Mae’n bleser gennyf siarad mewn dadl gyda’i rhagflas sinematig ei hun, gyda’r Athro Karel Williams ar ei ymweliad â’r Pierhead fel y soniodd Julie Morgan. Mae’n anrhydedd personol anarferol i gael eich ethol i gynrychioli eich cymuned, lle y cawsoch eich geni a’ch magu, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ysgogi’r meddwl ynglŷn â beth y byddai’r hyn sydd bob amser wedi bod yn gartref yn gallu bod.
Fel academydd, mae gennyf ddiddordeb mewn busnes a’r rolau y mae cwmnïau bach yn eu chwarae yn ein heconomi. Rwyf wedi cyfweld llawer o berchnogion busnes yn ne Cymru a gorllewin Lloegr ar gyfer fy ymchwil. Fodd bynnag, wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon heddiw, euthum am dro ar hyd Heol Hanbury a’r stryd fawr ym Margoed, a meddyliais am y busnesau sy’n gweithredu yno, o gaffi Rossi a charpedi Chisholms’ i gyflenwyr anifeiliaid anwes a gardd Thomas, sydd wedi bod yno ers y 1950au. Treuliais amser yn gwerthfawrogi eu bodolaeth, y rhan y maent wedi chwarae yn fy nghefndir ac yn fy mywyd wrth i mi fynd i’r ysgol yn Heolddu.
Mae busnesau cynhenid, sydd wedi cael eu taro ond heb eu trechu, yn darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n cyfrannu at ein bywydau bob dydd. Mae’r busnesau hyn sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau gwahanol yn bell o fod yn ddiogel rhag ergydion economaidd byd-eang, ond hwy yw’r sylfaen angenrheidiol i’n heconomïau lleol. Fel y nodwyd yn y cynnig, gall cwmnïau bach ffynnu mewn amgylchedd o’r fath ac maent yn llai tebygol o adael, ac yn lle hynny, gallant wreiddio yn eu cadwyni cyflenwi lleol. Yma, gallant dyfu a chyfrannu at adfywio canol y dref.
Mae fy nealltwriaeth i o hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar y cysyniad o gyfalaf cymdeithasol. Mae cyfalaf dynol yn cyfeirio at y wybodaeth a’r sgiliau sydd gan yr unigolyn, ac mae cyfalaf cymdeithasol yn cyfeirio at y graddau y gall unigolion elwa ymhellach ar y wybodaeth sy’n bodoli yn eu hamgylchedd. Mae busnesau bach yn gwybod hyn yn reddfol ac yn cysylltu â’i gilydd mewn ffordd nad yw’n digwydd gyda chwmnïau mwy, ac yn wir, mae’r profiad yn fwy gelyniaethus ymhlith cwmnïau mwy o faint. Gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn gyfalaf cymdeithasol ‘pontio’, a ddisgrifir hefyd gan Mark Granovetter yn ei waith arloesol fel ‘cryfder cysylltiadau gwan’, mae cwmnïau’n ffurfio cydberthnasoedd economaidd sy’n dod yn gymdeithasol eu natur ac mae cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth bersonol, ymddiriedaeth barhaus a gwybodaeth ddyfnach am ei gilydd. Efallai eich bod wedi’i weld pan fyddwch yn defnyddio busnesau lleol a’r ffordd y maent yn siarad am ‘ni’.
Mae yna gorff o ymchwil sy’n awgrymu bod trosglwyddo gwybodaeth rhwng cwmnïau bach yn dylanwadu ar dwf ac mae hyn ynddo’i hun yn cael ei ddylanwadu gan y rhwydwaith busnes sy’n cefnogi cyfalaf cymdeithasol. Er mwyn bod o fudd yn y tymor hir, dadleuwyd bod angen ymestyn rhwydweithiau y tu hwnt i gyd-destunau cymdeithasol lleol, ac mae’n bwysig am fod topograffi Cymoedd de Cymru wedi bod yn rhwystr i hyn, a’r canlyniad yw gwaith ar gyflogau isel nad yw’n galw am lefel uchel o sgiliau yn yr economi sylfaenol.
Mae ein hamgylchedd yn ein hannog i feddwl mewn perthynas â’n cysylltiadau â’r ddinas, yn hytrach nag edrych ar ein cymdogion yn y cymoedd i’r dwyrain a’r gorllewin. Ac ar y cyd â fy nghyd-Aelod Vikki Howells AC, rwy’n dadlau dros newid yn ein ffordd o feddwl a’n defnydd o iaith. Dylem ystyried ein cymunedau o Gwm Cynon i Flaenau Gwent fel y cymoedd gogleddol, lleoedd cysylltiedig a chyd-ddibynnol, ac nid sbôcs yn cysylltu â chanol dinesig bywiog. Drwy wneud hynny, cawn well dealltwriaeth o sut y gallwn adfywio ein ffyniant economaidd, mynd i’r afael â heriau seilwaith, a thyfu cyfalaf cymdeithasol. Dylai economi sylfaenol ymestyn ar draws y cymoedd gogleddol.
Yn ei dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i’r fasnachfraint reilffyrdd a’r metro, mae Dr Mark Lang—a grybwyllwyd eisoes gan Adam Price—yn cyfeirio at y ffaith fod yna
'ddiffyg tystiolaeth ryngwladol i gefnogi’r farn fod buddsoddiad trafnidiaeth yn arwain at ganlyniadau economaidd neu gymdeithasol cadarnhaol'.
Mae hefyd yn mynegi pryderon y gallai
'diffyg dealltwriaeth ofodol fanwl o dde-ddwyrain Cymru ar gyfer cynllunio rhwydwaith trafnidiaeth integredig' fod yn llesteiriol. Mae’n werth lleisio’r pryderon hyn, a bydd y pwyllgor yn eu hystyried yn fanwl.
Nid wyf yn amau’r farn y bydd cysylltiadau ar draws y cymoedd ynddynt eu hunain yn cynorthwyo twf. Ond os yw ein cymunedau i ffynnu, os ydym i gysylltu mewn ffordd nad ydym wedi’i wneud yn fy oes, os ydym i harneisio potensial ein cronfeydd wrth gefn o gyfalaf cymdeithasol, yna mae angen i ni wneud y cysylltiadau hyn â’r cyfalaf cymdeithasol ar draws y cymoedd gogleddol.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud, pe bawn i wedi llofnodi’r ffurflen yn y lle iawn, y byddwn wedi bod yn un o gydgynigwyr y cynnig hwn? Rwy’n falch fy mod yn un o’r cefnogwyr o leiaf. Rwyf eto i fynd ar y cwrs sgiliau sylfaenol, ‘bywyd yn y swyddfa fodern’, ond fe wnaf hynny ar ryw bwynt—rwy’n addo hynny i fy nghynorthwyydd personol.
Fel y clywsom yn yr areithiau rhagorol hyd yn hyn—ac rwy’n hoff o’r dadleuon meinciau cefn hyn, oherwydd credaf fod yr ystod o bynciau yr ydym yn eu trafod yn wirioneddol addysgiadol, ac mae lefel y consensws hefyd, a’r her a gynhyrchant yn wirioneddol braf—rwy’n credu bod hwn yn faes sydd wedi’i esgeuluso’n fawr mewn gwirionedd, oherwydd mae mor wydn ac mor hanfodol i fywyd bob dydd.
Ond wyddoch chi, fel y soniodd Hefin am gerdded ar hyd y stryd fawr ym Margoed—ces fy magu yng Nghastell-nedd, ac yn Sgiwen yn benodol. Ac rwy’n cofio, yn fachgen, cael fy hel i siopa, os oedd fy mam, a oedd yn helpu i redeg y busnes teuluol, yn arbennig o brysur. Gallwn fynd at Mr Jones y cigydd—a Mr Jones oedd ei enw—a gallwn ddweud, ‘Rydym angen cig ar gyfer y penwythnos’, a dyna’r oll y byddai angen i mi ei ddweud wrtho. Byddai’n ei baratoi, byddwn yn ei gasglu, a byddai’n galw’n ddiweddarach i gael ei dalu. Mae’n wasanaeth hynod, ac yn rhoi atgofion pleserus iawn i mi. Ond mae hefyd yn llawn potensial ar gyfer twf economaidd ar gyfer menter, ac mewn gwirionedd, ar gyfer caniatáu i bobl ffynnu yn eu cymunedau, oherwydd yr hyder a gânt.
Rwy’n credu ein bod yn byw mewn oes pan fo pobl yn teimlo’u wedi’u dadleoli ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi. Mae diffyg gwerth cyffredin, gwerth cydradd, yn ein poblogaethau yn y gwledydd gorllewinol yn bryder go iawn. Rwy’n credu bod y neges ynglŷn ag ‘adfer rheolaeth’ wedi ymwneud â llawer mwy na dadl Brexit yn unig. Mae yna broblem go iawn, rwy’n credu, mewn cymdeithasau gorllewinol yn yr ystyr fod yna bobl sy’n llwyddiannus yn economaidd, ac yna ceir y gweddill. Mae’n broblem go iawn. Felly, o ran bodlonrwydd y dinesydd, a ffydd y dinesydd yn y system economaidd wleidyddol gyfan, ni ddylid esgeuluso’r pwnc hwn.
A gaf fi roi un neu ddwy o enghreifftiau? Gofal cymdeithasol, gofal plant: y peth cyntaf yma yw ei fod yn angen cynyddol, oherwydd patrymau’r newid yn ein poblogaeth—pobl yn byw yn hirach, ond hefyd, dau riant yn chwilio am waith. Ond nid ydym wedi dal i fyny â’r ffaith y dylid gwobrwyo’r sgiliau hyn yn well. Mae’n debyg mai dyna’r broblem sylfaenol sydd gennym yn awr, na all y swyddi hynny roi cyflog byw priodol mewn gwirionedd. Felly, mae hynny’n rhywbeth sy’n rhaid i’n heconomi edrych arno a’i herio. Ond mae’n sector pwysig iawn, mae’n un sy’n gwahodd arloesedd—yr amrywiaeth o wasanaethau sydd eu hangen i gefnogi pobl yn eu cartrefi neu i gael gofal plant effeithiol iawn yn ystod oriau cyfleus y mae galw amdanynt. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno.
Hefyd, rhaglenni penodol yr ydym yn eu noddi i gynyddu gofal plant mewn ardaloedd difreintiedig i ganiatáu i bobl gael mynediad at swyddi—gwirioneddol bwysig, ond weithiau nid ydym hyd yn oed yn dechrau drwy sicrhau bod y cyfleoedd gwaith gofal plant hynny’n cael eu rhoi i bobl leol. Byddai hynny’n ddechrau, oni fyddai, ac yn ffordd dda o rymuso’r economi leol honno. Mae hyn yn mynd drwy lawer o gaffael, fel y crybwyllwyd eisoes. Rydym yn darparu llawer o wasanaethau—gwasanaethau cymdeithasol, ystod o wasanaethau a ddarperir gan asiantaethau cyhoeddus—ac yn aml, cânt eu rhoi i bobl nad ydynt yn byw yn yr ardal, sydd braidd yn ddosbarth canol, pan allai pobl leol fod yn gwneud y swyddi hynny’n effeithiol iawn. Mae angen i ni gofio’r egwyddor honno.
Rwy’n credu bod rhai meysydd eraill—clywsom yn gynharach am brosiectau ynni cymunedol; mae eu rheolaeth a’u cynnal a’u cadw yn rhywbeth y gall pobl leol fod ynghlwm wrtho. Rwy’n credu bod yna amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael yn y sector dinesig lle y gall pobl heb sgiliau ffurfiol redeg sefydliadau, codi degau o filoedd o bunnoedd i elusennau: gellir cyfeirio’r math hwn o weithgaredd i mewn i’n heconomi hefyd. Mae’r potensial hwnnw yno gyda phobl. Ac rwy’n credu y gallai llawer o asedau cymunedol elwa o fabwysiadu’r ymagwedd hon.
Mae twristiaeth yn weithgaredd delfrydol i’w archwilio o safbwynt yr economi sylfaenol. Mae’r potensial yn enfawr. Rydym yn byw yng Nghymru. Mae’n gwahodd ymwelwyr i ddod, mewn gwirionedd—y cyfalaf twristaidd, beth bynnag y’i galwn, neu’r cyfalaf diwylliannol sydd gennym. Ond gallem ddarparu gwasanaethau unigryw yn well. Dyna’r hyn y mae pobl ei eisiau. Maent yn awyddus i aros mewn gwestai gwirioneddol ddiddorol, unigryw sy’n wahanol i bob man arall. Maent eisiau diwylliant bwyd. Mae da byw wedi bod yn nwydd pwysig i ni ers amser hir, ond nid ydym wedi mynd y cam pellach hwnnw mewn gwirionedd i sicrhau ein bod yn gorffen y cynnyrch uwch yn y gadwyn fwyd. Felly, mae yna lawer iawn o bethau y credaf y gellir adeiladu arnynt. Ac wrth rymuso pobl leol a rhoi hyder iddynt ffynnu, rwy’n meddwl y byddai’n ffordd wych o adfer rhywfaint o optimistiaeth economaidd yn ein cymunedau.
Heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin, cyhoeddodd Canghellor Trysorlys y DU ryddhad ardrethi busnes o £1,000 i’r tafarndai yn Lloegr, o dan bwysau gan ei feinciau cefn ei hun yn ddiau. Er mai’r dafarn, yn wir, yw’r unig fusnes sydd ar ôl mewn rhai cymunedau ar ôl cau’r siop, yr ysgol gynradd, a’r ganolfan gymunedol, rwy’n gobeithio y gallwn ni yng Nghymru fod ychydig yn fwy craff o ran sut i gadw glud cydlyniant cymunedol at ei gilydd. Mae’n drueni nad oes gennym lais mwy croch dros roi rhyddhad ardrethi a rhenti i siopau ffrwythau a llysiau, sydd o dan lawer mwy o fygythiad na thafarndai, yn hytrach nag i werthwyr alcohol, gyda’r holl broblemau cysylltiedig y gall hwnnw eu hachosi, yn ogystal â’r cyfle i gymdeithasu gyda’n cymdogion.
Mae’n ofid clywed bod y brif siop ffrwythau a llysiau yng nghymuned Llanedern, a gynrychiolaf, yn ystyried rhoi’r gorau iddi ar ôl dros 20 mlynedd yn gwasanaethu’r gymuned oherwydd mae hi wedi dweud nad yw’n mynd i allu fforddio’r rhent uwch pan gaiff y ganolfan siopa ei hailddatblygu gan arwain yn anochel at godi’r rhenti. Felly, mae hynny’n achos pryder enfawr o ran sut y mae’r gymuned honno yn mynd i allu cael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres yn y dyfodol. A gallwn weld mai anaml y bydd llawer o’r siopau cornel sydd wedi goroesi mewn cymunedau yn cynnig unrhyw fwyd go iawn ffres.
Oddeutu tair blynedd yn ôl, gorfodwyd Cyngor Caerdydd i roi’r gorau i gyflogi’r ddau aelod o staff a oedd yn rhedeg y caffi cymunedol a oedd yn darparu bwyd ffres ar gyfer pobl a oedd yn aml yn byw ar eu pen eu hunain ac yn analluog bellach i goginio eu prydau bwyd eu hunain. Er y cafwyd ymgais gychwynnol gan gorff gwirfoddol i’w redeg o’r tu allan i’r gymuned, methodd hwnnw am nad oedd ganddynt yr ymrwymiad neu’r drefniadaeth angenrheidiol i redeg gwasanaeth cyson, dibynadwy. Felly, fe ddaeth i ben cyn dechrau’n iawn. Felly, rwy’n obeithiol y gall y cais cymunedol newydd i ailagor y caffi fod yn lud i gadw ein cymuned gyda’i gilydd, ond hefyd yn fecanwaith ar gyfer hyrwyddo bwyd go iawn i deuluoedd na fyddant yn aml yn paratoi bwyd gartref ond yn hytrach, yn prynu bwyd wedi’i brosesu a’i weini heb unrhyw fewnbwn eu hunain, a hefyd ar gyfer darparu profiad gwaith i bobl ifanc a allai fod angen gwell dealltwriaeth o’r gofynion angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y diwydiant manwerthu.
O edrych ar y gwasanaeth iechyd, mae Cymru’n hyfforddi llawer o feddygon, nyrsys, a gweithwyr mewn proffesiynau perthynol eraill. Er bod y gwasanaethau hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein cymunedau, mae gennym brinder parhaus o nyrsys, bydwragedd, meddygon, a gweithwyr eraill mewn proffesiynau perthynol i iechyd sydd eisiau aros a gweithio yng Nghymru. Mae hon yn broblem y mae gwir angen i ni ei deall, oherwydd ar hyn o bryd, yr unig bobl sy’n elwa yw’r asiantaethau cyflogaeth, sy’n codi premiymau mawr iawn am ddarparu staff ychwanegol ar ein cyfer.
Felly, roeddwn yn falch iawn neithiwr o glywed gan is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a fynychodd y digwyddiad yn Aberdaugleddau, fod Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac eraill i recriwtio mwy o fyfyrwyr o Gymru i weithio yn y proffesiwn iechyd, gan ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd y bobl hyn yn mynd i fod eisiau aros a gweithio yng Nghymru. Rwy’n credu bod honno’n enghraifft ardderchog o sut y gallwn hybu’r economi sylfaenol.
Ond rwyf hefyd yn awyddus i ailadrodd yr her sy’n ymwneud ag awtomeiddio. Mae’r arbenigwyr yn dweud wrthym fod traean o’r holl swyddi presennol ar hyn o bryd yn mynd i gael eu colli o ganlyniad i awtomeiddio. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod angen sicrhau y gallwn ddefnyddio awtomeiddio i wella’r economi sylfaenol yn hytrach na’i weld yn unig fel ffordd o gael gwared ar staff. Mae cymaint o waith sy’n parhau heb ei wneud yn ein cymdeithas y mae angen i ni allu ailystyried yr adnoddau hynny, i’w rhyddhau, fel y gallwn fynd i’r afael â rhai o’r pethau yr ydym eisoes wedi’u trafod heddiw, boed yn drais yn y cartref, perthnasoedd iach, diogelwch tân, cartrefi gweddus—mae’r rhain yn bethau y mae gwir angen i ni feddwl yn ddwfn sut y gallwn sicrhau nad yw awtomeiddio ond yn ffordd syml o dorri gwasanaethau, ond ei fod yn gwella gwasanaethau, ac yn sicrhau swyddi gwell wedi’u gwneud gan bobl yn lle swyddi y gellir eu gwneud gan beiriannau.
Er nad yw’n ddadansoddiad cyflawn o’n heconomi, mae’r economi sylfaenol yn ddadansoddiad pwysig iawn o ran allweddol ohoni. O ystyried yr anghenion y mae’r sectorau yn eu diwallu, mae’r economi sylfaenol yma i aros, ond nid yw polisi cyhoeddus ym mhob rhan o’r DU wedi mynd i’r afael yn ddigonol â sut y gallwn ei helpu i ffynnu ac i ddarparu swyddi sy’n cefnogi bywoliaeth weddus. Rwyf am ganolbwyntio yn fy araith ar y rôl benodol y gall y sector cyhoeddus ei chwarae i gefnogi’r economi sylfaenol yn gyffredinol.
Mae cyrff cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y cynghorau lleol, cyrff y GIG a phrifysgolion yn hynny, yn weithredwyr economaidd enfawr, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau hanfodol. Mae ganddynt allu i ysgogi eu heconomïau lleol drwy gaffael. Mae rhai yn gweld y rôl hon yn agosach at eu cenhadaeth graidd nag eraill. Er bod hyn yn ôl pob tebyg yn ddyhead, o leiaf, i gynghorau lleol, rwy’n barod i fentro nad oes llawer o sgyrsiau’n digwydd yn ein prifysgolion, er enghraifft, ynglŷn â sut y gallant fynd ati’n rhagweithiol i dyfu’r gadwyn gyflenwi leol.
Nid yw’n realistig disgwyl caffael popeth o’r economi leol, ond mae angen ymagwedd at gaffael sy’n meithrin yr economi leol, gan helpu i ddatblygu a thyfu busnesau yn y gadwyn gyflenwi leol dros y tymor hir, a heb fodloni’n syml ar fuddiannau cymunedol neu ddull cod post o weithredu.
Mewn cynhadledd ddiweddar a gynhaliais yng Nghastell-nedd ar yr economi ranbarthol, clywsom am gontractwyr yn cael eu rhwystro rhag gwneud cais am waith adeiladu oherwydd bod y contractau ar osod yn rhy fawr, pan allent fod wedi cael eu dadgyfuno a’u gwneud yn hygyrch i gwmnïau lleol. Yr hyn sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â materion o’r fath yw dyletswydd datblygu economaidd lleol newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus mawr, a fyddai’n mynd â ni y tu hwnt i’r syniad o fanteision cymunedol.
Crybwyllodd Julie Morgan enghreifftiau o Ohio, ac yn Cleveland yno, mae cyrff cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd, wedi datblygu model cydweithredol, lle y maent yn mynd ati’n rhagweithiol mewn partneriaeth i gefnogi datblygu economaidd lleol drwy eu gallu caffael. Rydym yn wlad fach a dyma y dylem fod yn ei wneud yng Nghymru hefyd. Ond mae yna rôl fwy uchelgeisiol i gyrff cyhoeddus ei chwarae mewn rhannau allweddol o’r economi sylfaenol. Cymerwch y sector gofal cymdeithasol, y cyfeiriodd nifer o’r siaradwyr ato eisoes: sector sy’n tyfu ac sy’n rhan annatod o gymunedau lleol, ac un lle y mae’r sylfeini y bydd yn tyfu arnynt yn y dyfodol yn ansicr a dweud y gwir. Gallai cynghorau fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi gofal a’u rhentu i weithredwyr di-elw. Ceir bwlch enfawr rhwng maint yr elw y mae gweithredwr masnachol yn galw amdano a’r enillion cyfredol ar gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol, a rywle rhwng y ddau bwynt ceir pwynt lle y gall y sector cyhoeddus fuddsoddi er mwyn cael enillion gwell, ac er mwyn i ofal gael ei ddarparu’n rhatach a chyda chyflogau gwell i’r gweithlu na’r hyn sy’n digwydd heddiw. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr gofal yn fenywod, wrth gwrs, felly gadewch i ni gydnabod heddiw, o bob diwrnod, yr angen arbennig i roi sylw i delerau ac amodau yn y sector hwn.
Cymerwch y sector ynni, sydd hefyd wedi cael ei grybwyll. Mae ein cymunedau wedi’u gwahanu oddi wrth eu gallu i gynhyrchu ynni, gan arwain at golli gwerth i gwmnïau cyfleustodau mawr ac at dlodi tanwydd, problem nad eir byth i’r afael â hi drwy’r dull manteision cymunedol, ni waeth pa mor hael y bo. Ceir 300,000 eiddo preswyl ar draws ardal ranbarthol bae Abertawe. Bydd angen i nifer fawr ohonynt gael mesurau effeithlonrwydd ynni neu osod ynni adnewyddadwy, a gall pob un fanteisio ar ynni rhad. Mae cyngor Nottingham yn berchen ar, ac yn gweithredu cwmni cyflenwi ynni Robin Hood Energy. Mae wedi creu swyddi lleol, wedi lleihau tlodi tanwydd, wedi cyfyngu ar aneffeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae’n cynhyrchu refeniw i’w ailfuddsoddi’n lleol. Maent yn ystyried ehangu, gyda llaw, felly mae’n sector arall sy’n tyfu.
Heddiw hefyd, dylem gydnabod peth o’r gwaith arloesol iawn sydd ar y gweill ym maes ynni a gofal, a meysydd eraill, gan ddarparwyr tai cymdeithasol yn ein cymuned sy’n bartneriaid allweddol yn yr economi sylfaenol. Gallai ymyrraeth leol ddoeth drawsnewid yr economi sylfaenol ar draws, dyweder, dinas-ranbarth Bae Abertawe. Rydym ar fin cael bargen ddinesig. Yr hyn yr ydym ei angen ochr yn ochr â’n bargeinion dinesig yw bargeinion cymunedol i ranbarthau cyfan, i fuddsoddi mewn modelau cynaliadwy yn yr economi sylfaenol er mwyn manteisio ar gostau benthyca isel, yn ogystal â photensial asiantaeth bondiau trefol newydd y DU a’r dull arloesol o reoli cronfa bensiwn ar y cyd. Ceir enillion hirdymor i’r sector cyhoeddus ac elw enfawr i’r gymuned o ran yr economi a lles.
Mae’r economi sylfaenol yn ymwneud ag edrych yn ehangach, ac yn llai economistig ar yr economi—gan fod o ddifrif ynglŷn â lles. Nid yw’n ymwneud ag allgaredd, ond â model economaidd cynaliadwy ag iddo orwel hirdymor. Mae’n gofyn am beth dychymyg a’r hyder i edrych ar yr economi mewn modd gwahanol wedi’i lywio gan ymdeimlad o bwrpas cyffredin.
Diolch. Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i minnau hefyd siarad yn y ddadl hon. Mae’r economi sylfaenol, fel y mae Sefydliad Bevan yn dweud yn gywir, yn enw mawreddog ar y gweithgareddau busnes a ddefnyddiwn bob dydd ac a welwn o’n cwmpas. Efallai na fydd busnes fel y diwydiannau manwerthu, gofal, bwyd, iechyd ac ynni yng Nghymru sydd wedi cael eu crybwyll yn meddu ar apêl agweddau eraill o’r economi, ond mae’n hen bryd i bawb ohonom roi’r parch y maent yn eu haeddu iddynt. Rwy’n credu hefyd fod gan gaffael cymdeithasol rôl hanfodol ac allweddol i’w chwarae yn ysgogi ein heconomi.
Yng Nghymru, mae’r economi sylfaenol yn darparu swyddi go iawn i dros hanner miliwn o bobl. Mae’n darparu gwasanaethau hanfodol sy’n ffurfio curiad calon cymunedau lleol fel y siop y pentref neu’r lleoliad gofal neu brosesu neu ddosbarthu neu ganolfannau iechyd. Mae’n hanfodol i gymdeithas ddiogel, gynaliadwy a saff sy’n llai dibynnol ar wledydd ehangach a llinellau cyflenwi ansicr. Mae’r economi sylfaenol hefyd yn gymharol sefydlog yn erbyn ergydion economaidd allanol—sy’n allweddol yn sgil Brexit. Mae wedi’i gwasgaru’n weddol gyfartal ledled Cymru. Ond yn yr un modd, profwyd bod ei hamodau a’i thelerau gan amlaf yn dlotach, fel y soniwyd eisoes—ac mae’n cynnwys mwy o fenywod na dynion. Felly, gallai mynd i’r afael â’r materion hyn wella cyflogau gweithwyr Cymru yn ogystal â’n sylfaen economaidd ac ariannol.
Rydym yn gwybod ein bod yn byw mewn byd sy’n newid yn gyson, ac nad yw sicrwydd swydd am oes ar gael i bobl bellach. Os ymwelwch ag unrhyw archfarchnad genedlaethol fe welwch diliau hunanwasanaeth lle y byddai aelod o staff yn sefyll o’r blaen, fel y crybwyllodd Lee Waters a Jenny Rathbone. Eto i gyd, yn y byd hwn o newid sydyn rydym yn gwybod bod un peth yn gyson, sef bod gwaith yn rhoi cyfle i bobl ennill arian a’r cyfle i wella’u hunan-barch yn eu bywydau, ac yn ychwanegu at les cymuned a rennir lle y mae llwyddiant pawb yn effeithio ar bob un ohonom. Mae’n rhaid i bawb ohonom gefnogi pwyslais o’r newydd ar yr economi sylfaenol, oherwydd mae’n hanfodol wrth i ni geisio trechu tlodi, a’r cyfan mewn byd lle y mae cyllid y sector cyhoeddus yn crebachu’n enfawr a rhwydi diogelwch lles wedi’u cyfyngu fwyfwy.
Heddiw yn y DU, mae 13.5 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi. O’r rhain, mae 7.9 miliwn yn oedolion o oedran gweithio. Yn anffodus, yn fwyaf syfrdanol, mae 66 y cant o aelwydydd sy’n gweithio yn byw mewn tlodi—ac mae ganddynt rywun sy’n gwneud gwaith am dâl. Pan gefais fy nghyfweld gan newyddiadurwr gwleidyddol yr ‘Argus’, Ian Craig, yn gynharach eleni, gofynnodd i mi beth oedd fy mlaenoriaethau fel Aelod Cynulliad dros Islwyn. Roedd yr ateb yn amlwg. Dywedais wrtho, fel oedolyn ifanc, fy mod wedi cyfrannu at y gwaith o sefydlu nifer o gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, gan gynnwys ystad dai Ty Sign lle rwy’n byw heddiw—y fwyaf yn fy mwrdeistref sirol—ac fel Aelod o Gynulliad Cymru, rwyf am wneud popeth y gallaf ei wneud i drechu tlodi, yn Islwyn ac ar draws Cymru.
Y broblem fwyaf i’r bobl a welaf yn fy swyddfa, fel y bydd nifer yn y Siambr hon yn eu gweld yn rheolaidd, yw tlodi. Talu eich biliau, cael safon byw sy’n weddus, hawliau cyflogaeth, gwaith sicr, hyfywedd economaidd: mae llawer o bobl heddiw yn dioddef drwy gyfres gyfan, tswnami o bethau, a orfodir arnynt, pethau sy’n cynyddu iechyd meddwl gwael, llwyth gwaith ein hysbytai ac anhapusrwydd pobl.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser.
Rwy’n arbennig o bryderus nad yw pobl mewn gwaith yn ennill digon. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, roedd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree ‘UK Poverty: Causes, costs and solutions’ yn bwysig a hefyd yn galondid. Rwy’n llwyr gefnogi’r alwad am gyflog ac amodau gwell. Fe allwn ac fe ddylem bwyso i gael y cyflog byw gwirfoddol wedi’i gyflwyno fel blaenoriaeth uchel ym mhob swydd yn y sector cyhoeddus a’i gyflwyno mewn contractau caffael cyhoeddus. Dylai cyflogwyr sector preifat gael eu cynorthwyo a’u hannog i’w gyflwyno. Mae’n briodol ein bod ni yn Llafur Cymru yn lledaenu hyn ac yn arwain y ffordd ac fel y cyfryw, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru Lee Waters, Hefin David, Vikki Howells a Jeremy Miles am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwyf am ychwanegu fy llais at alwad am arloesedd, dewrder ac uchelgais gyda strategaeth economaidd newydd gadarn, ac addas i’r diben, ar gyfer Cymru fodern, fywiog a ffyniannus. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith—Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy araith drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar heddiw? Mae wedi bod yn bleser pur cael gwrando ar bob Aelod. Daw’r ddadl hon ar yr economi sylfaenol ar adeg bwysig iawn oherwydd, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ar hyn o bryd rwy’n edrych o’r newydd ar ein blaenoriaethau economaidd ac fel rhan o’r gwaith hwn, rwyf wedi bod yn siarad â phobl, busnesau, undebau llafur a sefydliadau ledled Cymru.
Mae wedi fy nharo bod llawer o nodweddion cryf yn perthyn i’r economi. O Airbus a Toyota yn y gogledd i BAMC a GE yn y de, ceir arloesedd, gwybodaeth a sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf ar draws yr economi, yn fwy nag y sylweddolwn weithiau mewn gwirionedd.
Ond hefyd, wrth i mi deithio o amgylch y wlad, mae un peth yn glir iawn. Cafodd ei nodi gan Rhianon Passmore, a chan David Melding ac mae sawl un arall wedi gwneud hynny hefyd. Mae pobl yn teimlo’n ansicr. Mae cymunedau’n teimlo’n ansicr. Y tu hwnt i bennawd y 150,000 o swyddi a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru dros dymor diwethaf y Cynulliad, mae’n amlwg i mi fod angen ailbeiriannu ein heconomi a’n model economaidd er mwyn sicrhau bod economïau rhanbarthol a lleol yn fwy cynaliadwy, a chael gwared ar natur dalpiog twf ar draws yr economi. Yn wir, nid yn unig er mwyn adeiladu economïau ond fel y cyfeiriodd David Melding, er mwyn adeiladu lleoedd—lleoedd y mae pobl yn ymfalchïo ynddynt ac yn teimlo’n ddiogel ynddynt. Mae arnom angen economi sydd ei hun yn fwy diogel yn wyneb ergydion globaleiddio, technoleg ac aflonyddwch gwleidyddol, sydd ond yn mynd i gynyddu a dwysáu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r natur fregus y siaradodd Lee Waters amdani mewn perygl o ddwysáu oni bai bod newid yn digwydd. Dyna ble y mae dadl heddiw yn gwneud cyfraniad pwysig ac yn wir, pam y bydd y consensws trawsbleidiol sydd mor amlwg ar bwysigrwydd yr economi sylfaenol o gymorth enfawr wrth gyflwyno strategaeth fentrus, fwy cynhwysol i Gymru ffyniannus a diogel.
Gallaf gadarnhau wrth yr Aelodau y bydd ein strategaeth ‘ffyniannus a diogel’ yn cynnwys rôl gref iawn o’i mewn ar gyfer yr economi sylfaenol. Os cawn y dull yn gywir, nid yn unig yn fy adran i o ran y gwasanaethau rwy’n gyfrifol am eu darparu a’r cymorth rwy’n gyfrifol amdano, ond ar draws y Llywodraeth i gyd, yna gall yr economi sylfaenol chwarae rôl sylweddol iawn nid yn unig wrth helpu i dyfu ein heconomi, ond wrth dyfu ein heconomi gyda phwrpas: lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl a rhwng ein cymunedau.
Gwyddom mai’r llwybr gorau allan o dlodi yw gwaith, felly mae angen i ni helpu pobl i gael gwaith, i aros mewn gwaith, ac yn hanfodol, i gamu ymlaen yn y gwaith. Mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfleoedd gwych o ran hynny. Mae’r economi sylfaenol yn digwydd ble y mae pobl yn byw, felly mae’n cynnig cyfleoedd i ysgogi twf economaidd lleol, cynaliadwy—swyddi gwell, yn nes at adref. Ac rwy’n cydnabod bod rhai rhannau o’r economi sylfaenol wedi’u nodi ar gyfer gwaith ar gyflog isel, fel y nododd yr Aelodau, amodau cyflogaeth cymharol wael a diffyg cyfleoedd i gamu ymlaen. Dyna’r rheswm dros sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu rôl arweiniol gliriach, pan fo pedair allan o bob 10 o swyddi yng Nghymru yn yr economi sylfaenol. Drwy gefnogi arloesedd, gwella rheolaeth, llenwi bylchau mewn sgiliau, helpu i ddatblygu modelau busnes newydd ac yn y pen draw, annog gwell cyflogau ac amodau, gallwn ddatblygu’r cymunedau lleol cryfach hyn.
Ceir un enghraifft o hyn yn y sector gofal cymdeithasol, a siaradodd Jeremy Miles ac eraill yn huawdl am hyn. Yma, gall dull newydd o weithredu, gan bwyso ar ehangder ein dulliau ar draws y Llywodraeth a chanolbwyntio ar y sector hwn sydd â blaenoriaeth yn genedlaethol, sicrhau canlyniadau real a gwell i’n heconomi a’n cymdeithas. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth fod pwysau ar y sector gofal cymdeithasol, yn deillio o ffactorau megis cyfyngiadau ariannol a phoblogaeth sy’n heneiddio. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd o allu cefnogi’r sector hwn a’r busnesau sy’n gweithredu o’i fewn yn well. Mae yna bethau y gallwn eu gwneud ym maes caffael, o ran cymorth sgiliau ac eiddo a allai wneud gwahaniaeth go iawn i’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu a chynaliadwyedd y sector, ac mae’r sector gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn wasgaredig yn ddaearyddol. Gallai cynorthwyo cartrefi lleol helpu gyda mynediad at gyflogaeth i bobl mewn cymunedau ar draws y wlad ac yn hollbwysig, yn y broses, gwella ansawdd swyddi, amodau cyflogaeth a chynaliadwyedd y busnesau o’i fewn.
Siaradodd yr Aelodau hefyd am ynni, ac mae’n fwy na rhan hanfodol o’r economi sylfaenol. Gellid dadlau mai dyma yw ein draenog economaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, gan ddangos sut yr ydym yn arwain y byd mewn is-sectorau ynni penodol. Bydd gennym lawer mwy i’w ddweud am hyn a’n huchelgeisiau ehangach ar gyfer yr economi sylfaenol wrth i’n strategaeth ‘ffyniannus a diogel’ gael ei chyflwyno yn y misoedd nesaf. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ein bod yn awyddus i fanteisio ar y grym a’r cyfleoedd a gyflwynir gan yr economi sylfaenol, ac felly croesawaf y ddadl hon heddiw a chyfraniad meddylgar yr Aelodau, y gallwn ei gynnwys yn elfen o’n gwaith.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Vikki Howells i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ar gyfer fy sylwadau cloi, rwyf am ddechrau drwy amlinellu ychydig o resymau pam y mae’r economi sylfaenol mor wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘ungnwd o economeg prif ffrwd’, lle y cafodd twf ac arloesedd eu gwthio i mewn i un polisi ar gyfer pawb, bydd ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yn ein galluogi i ddatblygu atebion pwrpasol sy’n bodloni anghenion gwahanol ar draws gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys, yn allweddol, yn fy etholaeth fy hun a gweddill y Cymoedd gogleddol. Yn lle hynny, byddai economi sylfaenol yn cael ei hadeiladu o amgylch polisïau arloesol sy’n mynd i’r afael â manylion gweithgarwch, amser a lleoliad. Mae hefyd yn ein herio i adolygu, ailystyried ac ailwerthuso’r gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd o’n cwmpas, gan symud oddi wrth ymwrthodiad cibddall o bethau bob dydd i gofleidio eu manteision a’u pwysigrwydd yn lle hynny. Gwnaeth David Melding y pwynt hwn yn dda pan soniodd am rannau o’n gweithlu’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.
Mewn seminar ardderchog yma yn y Senedd ddoe, nododd yr Athro Julie Froud yr angen i adeiladu, tyfu a datblygu cwmnïau gwreiddiedig. Drwy wneud hynny, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i Gymru arwain yn y byd. Mae tyfu brandiau a adwaenir yn rhyngwladol yn un maes a nodwyd fel her allweddol i ni wrth i ni ymdrechu i dyfu ein heconomi sylfaenol. Rwy’n falch iawn o allu dweud bod wisgi Penderyn, sy’n cael ei ddistyllu a’i becynnu yn fy etholaeth cyn ei werthu o gwmpas y byd, yn un o’n henghreifftiau gorau efallai o frand rhyngwladol Cymreig adnabyddadwy. Mae ei lwyddiant yn dangos i ni ei bod hi’n bosibl i ni, drwy feddwl y tu allan i’r bocs, gael hyder a chymorth busnes priodol, fel y dywedodd Russell George, i gael mynediad at farchnadoedd arbenigol a dod yn arweinydd byd.
Ond ar wahân i’r sectorau mwy arbenigol ac atyniadol hyn ar ben uchaf y farchnad, mae yna ddadleuon economaidd pwerus o blaid yr economi sylfaenol. Mae’r Athro Karel Williams wedi tynnu sylw at yr hyn a ddylai fod yn wirionedd hunanamlwg: dominyddir yr economi yng Nghymru gan yr economi sylfaenol, gan gynhyrchu nwyddau sylfaenol bob dydd yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae bron i 40 y cant o swyddi Cymru yn yr economi sylfaenol. Yng Nghwm Cynon, mae mentrau fel y gwneuthurwyr dodrefn Ashwood Designs a’r cynhyrchydd llaeth Ellis Eggs yn gyflogwyr lleol allweddol. Yn Aberpennar, mae Rocialle yn darparu eitemau traul hanfodol i ofal iechyd, gan gyflogi ychydig dan 400 o bobl i wneud pethau fel rhwymynnau, powlenni a pheli gwlân cotwm.
Mae gan Carpet Fit Wales, cwmni llwyddiannus iawn arall yn fy etholaeth, gadwyni cyflenwi llorweddol sydd wedi datblygu’n dda, ac maent yn tynnu sylw at y ffordd y gellir defnyddio rhwydweithiau caffael lleol i dyfu a hybu economi Cymru. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais â Carpet Fit Wales a gwnaeth y ffordd y maent wedi’u cysylltu â busnesau cyfagos argraff arnaf. Mae eu cyflenwyr wedi’u lleoli yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, maent yn defnyddio gwneuthurwr lloriau lleol yng Nghaerffili, ac mae eu hadnoddau dynol, eu technoleg gwybodaeth, eu gwasanaethau dylunio a garej oll yn cael eu darparu yng Nghwm Cynon.
Fel y mae’r enghraifft hon yn dangos, mae’r economi sylfaenol o fudd i Gymru gyfan, nid rhai mannau’n unig a allai adael rhannau eraill o Gymru yn teimlo’n ynysig ac wedi’u gadael ar ôl, gan ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol y gall cymunedau fod yn falch ohonynt. Un cryfder ychwanegol yw ei hirhoedledd a’i chadernid, gyda’r busnesau, y gwasanaethau a’r seilwaith yn y sector wedi profi’n hynod o gryf i wrthsefyll cwympiadau allanol dros amser—pwynt a bwysleisiwyd gan Lee Waters.
Mae Cresta Caterers yn Aberdâr wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, a Welsh Hills Bakery ers dros 60 mlynedd—busnes teuluol yn Hirwaun sy’n allforio ar draws Ewrop, America, Awstralia a’r dwyrain canol. Mae’r ddau fusnes yn enghreifftiau o’r sector bwyd y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ato’n effeithiol. Yn ogystal, tynnodd fy nghyd-Aelod Hefin David sylw at enghreifftiau o’i etholaeth a’i gefndir academaidd i atgyfnerthu’n rymus y neges ynglŷn â chyfalaf cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio fel ased.
Yn ychwanegol at y dadleuon economaidd pwerus dros ganolbwyntio ar yr economi sylfaenol, ceir dadleuon moesol cryf o’i phlaid hefyd. Roedd y maniffesto ar gyfer yr economi sylfaenol yn dadlau’n argyhoeddiadol y bydd ailgydbwyso enillion economaidd a lles yn ein galluogi i anelu at greu Cymru gyda rhyddfraint gymdeithasol gadarnach sydd â ffocws cryfach ar gysylltiadau cymdeithasol ag eraill. Yn y model hwn, byddai anghenion economaidd ac ansawdd bywyd yn mynd law yn llaw, fel na all cyflogwyr orfodi arferion gwaith annerbyniol ac fel na all busnesau mwy o faint sathru ar gyflenwyr llai neu fusnesau lleol.
Mae hyn yn angenrheidiol iawn, oherwydd, fel y mae Sefydliad Bevan wedi nodi’n gywir ddigon, mae gan lawer o’r diwydiannau a’r galwedigaethau sy’n gysylltiedig â’r economi sylfaenol broblem go iawn gyda chyflog isel ac arferion gweithio gwael—pwynt a wnaed yn dda gan Rhianon Passmore. Rhaid i ni roi camau ar waith i wella problemau fel ansicrwydd gwaith, contractau dim oriau a thâl annigonol. Un maes i ganolbwyntio arno, fel y noda Karel Williams, yw’r cyfleoedd a’r heriau a geir yn y sector gofal oedolion sy’n tyfu. Rhaid inni ystyried yr elfennau hyn nid yn unig fel penderfynyddion economaidd ond fel darparwyr manteision cymdeithasol amhrisiadwy, a’u gwerthfawrogi’n unol â hynny.
Defnyddiodd Jeremy Miles ofal fel un enghraifft lle y bydd cryfhau’r economi sylfaenol yn dwyn elw hirdymor i’r sector cyhoeddus ac enillion economaidd a lles lleol enfawr i’r gymuned. Rwy’n croesawu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn, a mentrau tebyg hefyd fel y cynllun peilot gofal plant. Pan gaiff y polisi hwn ei weithredu’n llawn, bydd potensial ar gyfer twf sylweddol yn y sector gofal plant, gan ddarparu swyddi ychwanegol yn yr economi sylfaenol, ac mae’n faes arall eto lle y gall Cymru arwain. Mae’n hollbwysig fod y cyfleoedd cyflogaeth a ddarperir gan y polisi hwn yn cael eu cynllunio’n dda ar sail leol a rhanbarthol, gyda Llywodraeth Cymru’n goruchwylio’r broses i sicrhau bod y swyddi a grëir yn ddiogel a’r cyflogau’n deg.
I gloi, mae heddiw’n nodi galwad i weithredu gyda ffocws o’r newydd ar yr economi sylfaenol. Fel y mae’r Aelodau wedi nodi, mae llawer o’r busnesau a’r gweithgareddau sy’n creu’r sector wedi bod gyda ni ers blynyddoedd, ond ni chawsant erioed mo’u hintegreiddio’n briodol yn ein gweledigaeth economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn integreiddio cefnogaeth i’r economi sylfaenol yn llawn yn ei strategaeth economaidd sydd ar y ffordd. Fel y nododd Julie Morgan, byddai’n fuddiol i ni ystyried hyn yn ein cynlluniau economaidd presennol a chyfredol. Ac rwy’n falch iawn o’r ymrwymiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud yma heddiw yn ei ymateb i’r ddadl, gan ganolbwyntio ar agweddau ar yr economi sylfaenol a materion fel caffael.
Wrth galon y strategaeth economaidd rhaid cael ffocws ar ddatblygu cwmnïau gwreiddiedig. Cyfeiriais at rai enghreifftiau rhagorol o fy etholaeth, ond maent yn tueddu i fod yn eithriadau mewn economi Gymreig a ddiffinir fel un y mae ei chanol ar goll—pwynt a wnaeth Adam Price yn dda—lle nad ydym yn meddu ar y mentrau canolig eu maint sy’n addasu ac yn ffynnu yn economi’r Almaen, er enghraifft, drwy adeiladu ar enw da o’r radd flaenaf a phresenoldeb brand rhagorol. Mae yna heriau clir yma o ran mynediad at gyllid a chynllunio olyniaeth, ac rwy’n gobeithio y gallwn oresgyn y rhain.
Yn ogystal, rhaid i ni edrych eto ar sut y mae caffael yn gweithio yng Nghymru. Rwy’n gwybod bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £5.5 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau, ac er bod symudiadau wedi’u gwneud i gryfhau caffael lleol, nid ydynt wedi mynd yn ddigon pell bob amser. Mae yna gyfleoedd yn codi o ad-drefnu llywodraeth leol a gweithio rhanbarthol er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn cael ei wneud yn iawn, ond mae angen inni gael y sector cyhoeddus a’n mentrau economi sylfaenol at ei gilydd i wneud yn siŵr fod modd cael trafodaethau. Gellir defnyddio hyn, yn ei dro, i gryfhau a diogelu amodau gwaith ac adeiladu Cymru lewyrchus go iawn sy’n gweithio i bob un o’i dinasyddion. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.