Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ar gyfer fy sylwadau cloi, rwyf am ddechrau drwy amlinellu ychydig o resymau pam y mae’r economi sylfaenol mor wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘ungnwd o economeg prif ffrwd’, lle y cafodd twf ac arloesedd eu gwthio i mewn i un polisi ar gyfer pawb, bydd ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yn ein galluogi i ddatblygu atebion pwrpasol sy’n bodloni anghenion gwahanol ar draws gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys, yn allweddol, yn fy etholaeth fy hun a gweddill y Cymoedd gogleddol. Yn lle hynny, byddai economi sylfaenol yn cael ei hadeiladu o amgylch polisïau arloesol sy’n mynd i’r afael â manylion gweithgarwch, amser a lleoliad. Mae hefyd yn ein herio i adolygu, ailystyried ac ailwerthuso’r gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd o’n cwmpas, gan symud oddi wrth ymwrthodiad cibddall o bethau bob dydd i gofleidio eu manteision a’u pwysigrwydd yn lle hynny. Gwnaeth David Melding y pwynt hwn yn dda pan soniodd am rannau o’n gweithlu’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.
Mewn seminar ardderchog yma yn y Senedd ddoe, nododd yr Athro Julie Froud yr angen i adeiladu, tyfu a datblygu cwmnïau gwreiddiedig. Drwy wneud hynny, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i Gymru arwain yn y byd. Mae tyfu brandiau a adwaenir yn rhyngwladol yn un maes a nodwyd fel her allweddol i ni wrth i ni ymdrechu i dyfu ein heconomi sylfaenol. Rwy’n falch iawn o allu dweud bod wisgi Penderyn, sy’n cael ei ddistyllu a’i becynnu yn fy etholaeth cyn ei werthu o gwmpas y byd, yn un o’n henghreifftiau gorau efallai o frand rhyngwladol Cymreig adnabyddadwy. Mae ei lwyddiant yn dangos i ni ei bod hi’n bosibl i ni, drwy feddwl y tu allan i’r bocs, gael hyder a chymorth busnes priodol, fel y dywedodd Russell George, i gael mynediad at farchnadoedd arbenigol a dod yn arweinydd byd.
Ond ar wahân i’r sectorau mwy arbenigol ac atyniadol hyn ar ben uchaf y farchnad, mae yna ddadleuon economaidd pwerus o blaid yr economi sylfaenol. Mae’r Athro Karel Williams wedi tynnu sylw at yr hyn a ddylai fod yn wirionedd hunanamlwg: dominyddir yr economi yng Nghymru gan yr economi sylfaenol, gan gynhyrchu nwyddau sylfaenol bob dydd yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae bron i 40 y cant o swyddi Cymru yn yr economi sylfaenol. Yng Nghwm Cynon, mae mentrau fel y gwneuthurwyr dodrefn Ashwood Designs a’r cynhyrchydd llaeth Ellis Eggs yn gyflogwyr lleol allweddol. Yn Aberpennar, mae Rocialle yn darparu eitemau traul hanfodol i ofal iechyd, gan gyflogi ychydig dan 400 o bobl i wneud pethau fel rhwymynnau, powlenni a pheli gwlân cotwm.
Mae gan Carpet Fit Wales, cwmni llwyddiannus iawn arall yn fy etholaeth, gadwyni cyflenwi llorweddol sydd wedi datblygu’n dda, ac maent yn tynnu sylw at y ffordd y gellir defnyddio rhwydweithiau caffael lleol i dyfu a hybu economi Cymru. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais â Carpet Fit Wales a gwnaeth y ffordd y maent wedi’u cysylltu â busnesau cyfagos argraff arnaf. Mae eu cyflenwyr wedi’u lleoli yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, maent yn defnyddio gwneuthurwr lloriau lleol yng Nghaerffili, ac mae eu hadnoddau dynol, eu technoleg gwybodaeth, eu gwasanaethau dylunio a garej oll yn cael eu darparu yng Nghwm Cynon.
Fel y mae’r enghraifft hon yn dangos, mae’r economi sylfaenol o fudd i Gymru gyfan, nid rhai mannau’n unig a allai adael rhannau eraill o Gymru yn teimlo’n ynysig ac wedi’u gadael ar ôl, gan ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol y gall cymunedau fod yn falch ohonynt. Un cryfder ychwanegol yw ei hirhoedledd a’i chadernid, gyda’r busnesau, y gwasanaethau a’r seilwaith yn y sector wedi profi’n hynod o gryf i wrthsefyll cwympiadau allanol dros amser—pwynt a bwysleisiwyd gan Lee Waters.
Mae Cresta Caterers yn Aberdâr wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, a Welsh Hills Bakery ers dros 60 mlynedd—busnes teuluol yn Hirwaun sy’n allforio ar draws Ewrop, America, Awstralia a’r dwyrain canol. Mae’r ddau fusnes yn enghreifftiau o’r sector bwyd y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ato’n effeithiol. Yn ogystal, tynnodd fy nghyd-Aelod Hefin David sylw at enghreifftiau o’i etholaeth a’i gefndir academaidd i atgyfnerthu’n rymus y neges ynglŷn â chyfalaf cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio fel ased.
Yn ychwanegol at y dadleuon economaidd pwerus dros ganolbwyntio ar yr economi sylfaenol, ceir dadleuon moesol cryf o’i phlaid hefyd. Roedd y maniffesto ar gyfer yr economi sylfaenol yn dadlau’n argyhoeddiadol y bydd ailgydbwyso enillion economaidd a lles yn ein galluogi i anelu at greu Cymru gyda rhyddfraint gymdeithasol gadarnach sydd â ffocws cryfach ar gysylltiadau cymdeithasol ag eraill. Yn y model hwn, byddai anghenion economaidd ac ansawdd bywyd yn mynd law yn llaw, fel na all cyflogwyr orfodi arferion gwaith annerbyniol ac fel na all busnesau mwy o faint sathru ar gyflenwyr llai neu fusnesau lleol.
Mae hyn yn angenrheidiol iawn, oherwydd, fel y mae Sefydliad Bevan wedi nodi’n gywir ddigon, mae gan lawer o’r diwydiannau a’r galwedigaethau sy’n gysylltiedig â’r economi sylfaenol broblem go iawn gyda chyflog isel ac arferion gweithio gwael—pwynt a wnaed yn dda gan Rhianon Passmore. Rhaid i ni roi camau ar waith i wella problemau fel ansicrwydd gwaith, contractau dim oriau a thâl annigonol. Un maes i ganolbwyntio arno, fel y noda Karel Williams, yw’r cyfleoedd a’r heriau a geir yn y sector gofal oedolion sy’n tyfu. Rhaid inni ystyried yr elfennau hyn nid yn unig fel penderfynyddion economaidd ond fel darparwyr manteision cymdeithasol amhrisiadwy, a’u gwerthfawrogi’n unol â hynny.
Defnyddiodd Jeremy Miles ofal fel un enghraifft lle y bydd cryfhau’r economi sylfaenol yn dwyn elw hirdymor i’r sector cyhoeddus ac enillion economaidd a lles lleol enfawr i’r gymuned. Rwy’n croesawu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn, a mentrau tebyg hefyd fel y cynllun peilot gofal plant. Pan gaiff y polisi hwn ei weithredu’n llawn, bydd potensial ar gyfer twf sylweddol yn y sector gofal plant, gan ddarparu swyddi ychwanegol yn yr economi sylfaenol, ac mae’n faes arall eto lle y gall Cymru arwain. Mae’n hollbwysig fod y cyfleoedd cyflogaeth a ddarperir gan y polisi hwn yn cael eu cynllunio’n dda ar sail leol a rhanbarthol, gyda Llywodraeth Cymru’n goruchwylio’r broses i sicrhau bod y swyddi a grëir yn ddiogel a’r cyflogau’n deg.
I gloi, mae heddiw’n nodi galwad i weithredu gyda ffocws o’r newydd ar yr economi sylfaenol. Fel y mae’r Aelodau wedi nodi, mae llawer o’r busnesau a’r gweithgareddau sy’n creu’r sector wedi bod gyda ni ers blynyddoedd, ond ni chawsant erioed mo’u hintegreiddio’n briodol yn ein gweledigaeth economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn integreiddio cefnogaeth i’r economi sylfaenol yn llawn yn ei strategaeth economaidd sydd ar y ffordd. Fel y nododd Julie Morgan, byddai’n fuddiol i ni ystyried hyn yn ein cynlluniau economaidd presennol a chyfredol. Ac rwy’n falch iawn o’r ymrwymiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud yma heddiw yn ei ymateb i’r ddadl, gan ganolbwyntio ar agweddau ar yr economi sylfaenol a materion fel caffael.
Wrth galon y strategaeth economaidd rhaid cael ffocws ar ddatblygu cwmnïau gwreiddiedig. Cyfeiriais at rai enghreifftiau rhagorol o fy etholaeth, ond maent yn tueddu i fod yn eithriadau mewn economi Gymreig a ddiffinir fel un y mae ei chanol ar goll—pwynt a wnaeth Adam Price yn dda—lle nad ydym yn meddu ar y mentrau canolig eu maint sy’n addasu ac yn ffynnu yn economi’r Almaen, er enghraifft, drwy adeiladu ar enw da o’r radd flaenaf a phresenoldeb brand rhagorol. Mae yna heriau clir yma o ran mynediad at gyllid a chynllunio olyniaeth, ac rwy’n gobeithio y gallwn oresgyn y rhain.
Yn ogystal, rhaid i ni edrych eto ar sut y mae caffael yn gweithio yng Nghymru. Rwy’n gwybod bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £5.5 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau, ac er bod symudiadau wedi’u gwneud i gryfhau caffael lleol, nid ydynt wedi mynd yn ddigon pell bob amser. Mae yna gyfleoedd yn codi o ad-drefnu llywodraeth leol a gweithio rhanbarthol er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn cael ei wneud yn iawn, ond mae angen inni gael y sector cyhoeddus a’n mentrau economi sylfaenol at ei gilydd i wneud yn siŵr fod modd cael trafodaethau. Gellir defnyddio hyn, yn ei dro, i gryfhau a diogelu amodau gwaith ac adeiladu Cymru lewyrchus go iawn sy’n gweithio i bob un o’i dinasyddion. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw.