Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, Aelodau, gallwch ddweud o ysbryd y cynnig ein bod yn chwilio heddiw am drafodaeth agored a chynhwysfawr, a fydd yn helpu i lywio tri pheth, rwy’n credu: yn gyntaf, sut i wella lles plant unigol, sef yr agwedd bwysicaf wrth gwrs, ond hefyd sut i’w helpu i dyfu i fyny gydag ymdeimlad o wytnwch a hyder i fod yn ddinasyddion da, ac yna, wrth gwrs, sut i helpu ein Llywodraethau, waeth beth yw eu gwleidyddiaeth, i gytuno ei bod yn mynd i fod yn anodd mynd ar drywydd dyheadau eraill ar gyfer ein pobl ifanc heb weledigaeth hirdymor effeithiol ar gyfer iechyd plant.
Magu ein plant, waeth beth fo’u hamgylchiadau, eu dechreuad mewn bywyd, eu heriau, a allai fod yn rhai gydol oes, wrth gwrs, mewn rhai achosion, i allu ymdopi ac i gredu’n wirioneddol fod yfory yn ddiwrnod arall yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr sy’n bod, nid yn unig i’r plentyn unigol, ond er mwyn sicrhau gwead cymdeithasol cryf. Ac wrth gwrs, yn rhan o’r broses o aeddfedu’n iach, mae pobl ifanc yng Nghymru, ac unrhyw le arall, angen dod i delerau â’r argyfyngau arferol yn ystod ieuenctid sy’n ymwneud â hyder: pethau’n mynd o chwith ac amrywiaeth o fân anghyfiawnderau. Ond mae’n ymddangos bod rhywbeth yn digwydd sy’n gwneud aeddfedu iach o’r fath yn fwy anodd.
Clywsom yn gynharach gan Angela Burns am y cynnydd yn lefelau anhapusrwydd mewn merched a’u hymdeimlad o gael eu hynysu gyda’u pryderon. Bechgyn iau sy’n cyfaddef eu bod yn anhapus, yn aml yn gysylltiedig â gwaith ysgol, ymddygiad a diffyg sylw. O’i adael i fod, gall yr anhapusrwydd y mae plant yn ei brofi dyfu’n rhywbeth llawer mwy difrifol nag anhapusrwydd ieuenctid. Mae’r canfyddiadau hyn, er y gallent gael eu gwaethygu gan yr hyn yr ydym yn eu hadnabod fel effeithiau tlodi, i’w gweld ar draws yr holl ystod economaidd-gymdeithasol, ac rydym yn eu colli os dibynnwn yn ormodol ar ddangosyddion, fel y dywedodd Angela, megis incwm a strwythur teuluol. Fe ddowch o hyd i’r plant hapusaf, mwyaf gwydn, sy’n cael fwyaf o gefnogaeth emosiynol yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru a’r plant mwyaf unig, mwyaf digyfeiriad, sydd wedi’u hesgeuluso fwyaf yn emosiynol yn byw mewn plastai. Pwy yw’r mwyaf difreintiedig yn ôl y dangosyddion hynny?
Wrth gwrs, nid wyf yn gwadu dim o’r dystiolaeth am y cysylltiad rhwng iechyd gwael mewn plant a’u mamau ac amddifadedd. Rwy’n siŵr y bydd popeth a glywn heddiw am oresgyn anghydraddoldebau cymdeithasol a datblygu’r data i fynd i’r afael â’r mater mewn ffordd fwy gronynnog yn rhywbeth rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld synnwyr ynddo. Y math o ddata a gasglwn fydd yn llywio newid. Fy mhwynt yw bod iechyd meddwl pob plentyn yn bwysig ac os yw un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi iechyd meddwl gwael, yna mae’n eithaf amlwg nad yw’n parchu ffiniau economaidd-gymdeithasol gwrthrychol. Mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r data gronynnog gwahanol hwn nid yn unig i farnu maint a dyfnder iechyd meddwl gwael, ond er mwyn llunio cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gyfer pob plentyn. Gwyddom fod gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed yn wynebu trafferthion. Rwy’n siŵr fod Lynne Neagle druan wedi cael llond bol ar ei ddweud. Ac mae’n wir, mae’n bosibl fod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio’n amhriodol at CAMHS ac mae’n wir, a bod yn deg, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn therapïau siarad, sy’n newyddion da, ond rydym yn cael trafferth bodloni anghenion iechyd meddwl penodol unigolion cyn eu bod yn oedolion, ac rydym yn cael trafferth atal iechyd meddwl gwael yn y lle cyntaf.
Felly, wrth edrych ar weledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, gadewch i ni beidio ag anwybyddu iechyd meddwl gwael y gellir ei atal. Mae addysg orfodol am berthnasoedd iach, rhywioldeb gwahanol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o hynny, fe ddywedwn i—felly rwy’n gobeithio y bydd gan eich cyd-Aelodau, Ysgrifennydd y Cabinet, adroddiad eu gweithgor ar hynny’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach—ond mae deall eich bod yn rhan o rywbeth mwy na chi eich hun neu hyd yn oed yn fwy na’ch teulu eich hun yn rhan o hynny hefyd. Mae’n ddigon hawdd rhoi’r bai ar y cyfryngau cymdeithasol am hyn, felly fe wnaf, ond pan fyddwch yn cael 500 ‘hoffi’ am lun o’ch aeliau newydd ymhell y tu hwnt i’ch arddegau, a phan ddaw hynny’n bwysicach na dweud helo wrth eich cymydog, codi i rywun arall ar fws, neu gario bag rhywun arall drostynt pan fyddant yn ceisio rheoli bygi a thri o blant, a oes rhaid i chi ofyn, ‘Pam y mae pobl yn fwy anhapus?’
Wrth gwrs, ni allwn fynd yn ôl. Rwy’n gweld enghreifftiau aruthrol o unigolion yn dod at ei gilydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sefyll fel cymuned ac ymladd dros rywbeth neu’n well fyth, i ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei wneud eu hunain. Unigolion na fyddai byth, yn yr oes analog, wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus neu gymryd rhan mewn gwaith fel grŵp i ddatrys problem yn eu hardal am eu bod yn rhy swil, heb hunanhyder, neu’n waeth na dim, yn meddwl mai problem rhywun arall yw hi, cyfrifoldeb rhywun arall. Os meddyliwch yn unig am ofal cymdeithasol fel enghraifft yn y blynyddoedd i ddod, nid ydym yn mynd i allu ymdopi â hynny os ydym yn gymdeithas ddatgysylltiedig. Mae angen i’n plant dyfu i fyny yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol, yn gryf ac yn ddigon hyderus i gyfrannu at gymunedau iach. Diolch.