Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n mynd i ganolbwyntio, os caf, ar pam rwy’n meddwl bod gwelliant y Llywodraeth i’n cynnig ni yn fethiant i sylweddoli a chydnabod beth sydd yn y fantol yma. Mae dogfen a gafodd ei hanfon at Aelodau Cynulliad ddoe—rwy’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i’w gweld hi—yn nodi bod Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn siomedig iawn fod gwelliant y Llywodraeth i’r ddadl ddydd Mercher yma yn methu â chydnabod neu fynd i’r afael â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl o dorri’r cyllid i Gronfa’r Teulu o dros £5.5 miliwn dros y tair blynedd 2016-17 i 2018-19. Mae o’n mynd ymlaen i ddweud hyn: nid yw hwn yn fater cyffredinol yn ymwneud â chyllid prosiect i’r trydydd sector, ond yn hytrach yn un sy’n effeithio ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl yn uniongyrchol, gyda dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru rŵan ddim yn gallu cael mynediad at grant blynyddol o £500 ar gyfartaledd—£500 a all gael effaith anferth ar gyllideb flynyddol teuluoedd incwm isel. Ac maen nhw’n ein hatgoffa ni bod y tair gweinyddiaeth arall yn y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal eu cymorth ariannol i Gronfa’r Teulu ar raddfa 2015-16. Mi gyhoeddodd Adran Addysg Lloegr ddoe, trwy gyd-ddigwyddiad, eu bod nhw yn parhau i gyllido’r rhaglen—swm o £81 miliwn dros dair blynedd.
Mi fyddwn i yn ychwanegu bod gwelliant y Llywodraeth yn awgrymu nad yw Gweinidogion wedi bod yn ymwybodol, neu ddim wedi ystyried bod y shifft mewn cyllid i’r cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy’r trydydd sector wedi cael yr effaith yma ar gyllido uniongyrchol i deuluoedd. Nid oes dewis amgen. Nid yw nodi cynlluniau eraill sydd ar gael ac argaeledd gwasanaethau hawliau lles, er enghraifft, yn gwneud i fyny am y ffaith bod hwn yn golled uniongyrchol i’r teuluoedd, yn enwedig mewn hinsawdd lle mae mathau eraill o gefnogaeth yn diflannu. Mae straeon defnyddwyr y gwasanaeth rydym wedi eu clywed yn dangos hyn. Rwy’n dyfynnu eto o ddogfen Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, sy’n dyfynnu rhiant sydd ddim bellach yn gallu cael mynediad at gymorth Cronfa’r Teulu: ‘Fel rhiant plentyn gydag anabledd difrifol, rydw i’n gwybod pa mor anodd a digalon ydy hi i drio cario ymlaen yn ystod amser o doriadau mewn cyllidebau, yn ogystal â gelyniaeth ar ran Llywodraeth San Steffan tuag at fudd-daliadau anabledd. Rydym ni’n cario ymlaen orau y gallwn ni, ond rydym yn byw ar ddibyn methu ymdopi yn ariannol, yn ogystal ag mewn ffyrdd eraill.’ Mae grantiau Cronfa’r Teulu yn ‘lifeline’ i gymaint o bobl, meddai’r rhiant yna.
Rydym wedi cyflwyno’r cynnig yma ar ôl clywed gan fudiadau sydd yn rhwystredig efo’r sefyllfa—efo colled yr arian ond hefyd y diffyg cydnabyddiaeth bod toriad wedi bod, achos mae yna. Dyna pam rydym ni wedi ei eirio fo mewn ffordd sy’n cynnig ffordd amgen ymlaen i’r Llywodraeth. Os oes yna fodd gwahanol i symud ymlaen yn defnyddio model gwahanol i Gronfa’r Teulu—iawn, gadewch inni ystyried hynny. Beth sy’n bwysig i ni, a beth sy’n bwysig yng ngeiriad y cynnig yma ydy bod y cymorth uniongyrchol yna mewn rhyw fodd yn cael ei adfer.