– Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2017.
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar Gronfa’r Teulu. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig. Rhun.
Cynnig NDM6252 Rhun ap Iorwerth
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri cyllid Cronfa’r Teulu, a naill ai gwyrdroi’r toriadau i Gronfa’r Teulu, neu sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma. Mae hi’n ddadl digon syml mewn difri, ag iddi ffocws clir iawn. Dadl ydy hi am sut rydym ni’n amddiffyn rhai o’r teuluoedd mwyaf tlawd a mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi’n tynnu sylw at sefyllfa pan, mewn difri, gall polisi a allai fod yn un da ar y cyfan fod yn esgeuluso’r grŵp pwysig a bregus iawn yma o bobl drwy’r print mân. Nid oeddwn i ddim yn ymwybodol o Gronfa’r Teulu, mae’n rhaid i mi ddweud, tan i mi gyfarfod ag un o’i hymddiriedolwyr, sy’n etholwraig i mi. Mi eglurwyd wrthyf beth oedd gwerth y gronfa ac mi eglurwyd wrthyf beth oedd yn cael ei golli drwy dorri ar y gronfa honno. Prif bwrpas Cronfa’r Teulu ydy dosbarthu arian cyhoeddus ar ffurf grantiau i deuluoedd efo plant sâl ac anabl. Mae teuluoedd yn gallu gwneud cais am grantiau tuag at eitemau i’r cartref, dillad gwely neu offer arall—eitemau bob dydd sy’n gallu lleddfu’r baich o ofalu am blentyn efo anabledd difrifol—ac mae’n darparu efallai rhyw £500 y flwyddyn i deuluoedd incwm isel sydd fwyaf angen cymorth. Gwae ni os ydym ni yn anghofio bod £500 yn lawer o arian; mae o yn swm mawr iawn o arian i deuluoedd incwm isel, yn sicr. Mi fydd fy nghyd-Aelodau i, rwy’n gwybod, yn ymhelaethu ar rai o’r ffyrdd y mae’r arian yna yn gallu cael ei ddefnyddio, a rhai o’r ffyrdd y mae’r arian yna yn hanfodol i deuluoedd.
Rwy’n mynd i ganolbwyntio, os caf, ar pam rwy’n meddwl bod gwelliant y Llywodraeth i’n cynnig ni yn fethiant i sylweddoli a chydnabod beth sydd yn y fantol yma. Mae dogfen a gafodd ei hanfon at Aelodau Cynulliad ddoe—rwy’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i’w gweld hi—yn nodi bod Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn siomedig iawn fod gwelliant y Llywodraeth i’r ddadl ddydd Mercher yma yn methu â chydnabod neu fynd i’r afael â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl o dorri’r cyllid i Gronfa’r Teulu o dros £5.5 miliwn dros y tair blynedd 2016-17 i 2018-19. Mae o’n mynd ymlaen i ddweud hyn: nid yw hwn yn fater cyffredinol yn ymwneud â chyllid prosiect i’r trydydd sector, ond yn hytrach yn un sy’n effeithio ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl yn uniongyrchol, gyda dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru rŵan ddim yn gallu cael mynediad at grant blynyddol o £500 ar gyfartaledd—£500 a all gael effaith anferth ar gyllideb flynyddol teuluoedd incwm isel. Ac maen nhw’n ein hatgoffa ni bod y tair gweinyddiaeth arall yn y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal eu cymorth ariannol i Gronfa’r Teulu ar raddfa 2015-16. Mi gyhoeddodd Adran Addysg Lloegr ddoe, trwy gyd-ddigwyddiad, eu bod nhw yn parhau i gyllido’r rhaglen—swm o £81 miliwn dros dair blynedd.
Mi fyddwn i yn ychwanegu bod gwelliant y Llywodraeth yn awgrymu nad yw Gweinidogion wedi bod yn ymwybodol, neu ddim wedi ystyried bod y shifft mewn cyllid i’r cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy’r trydydd sector wedi cael yr effaith yma ar gyllido uniongyrchol i deuluoedd. Nid oes dewis amgen. Nid yw nodi cynlluniau eraill sydd ar gael ac argaeledd gwasanaethau hawliau lles, er enghraifft, yn gwneud i fyny am y ffaith bod hwn yn golled uniongyrchol i’r teuluoedd, yn enwedig mewn hinsawdd lle mae mathau eraill o gefnogaeth yn diflannu. Mae straeon defnyddwyr y gwasanaeth rydym wedi eu clywed yn dangos hyn. Rwy’n dyfynnu eto o ddogfen Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, sy’n dyfynnu rhiant sydd ddim bellach yn gallu cael mynediad at gymorth Cronfa’r Teulu: ‘Fel rhiant plentyn gydag anabledd difrifol, rydw i’n gwybod pa mor anodd a digalon ydy hi i drio cario ymlaen yn ystod amser o doriadau mewn cyllidebau, yn ogystal â gelyniaeth ar ran Llywodraeth San Steffan tuag at fudd-daliadau anabledd. Rydym ni’n cario ymlaen orau y gallwn ni, ond rydym yn byw ar ddibyn methu ymdopi yn ariannol, yn ogystal ag mewn ffyrdd eraill.’ Mae grantiau Cronfa’r Teulu yn ‘lifeline’ i gymaint o bobl, meddai’r rhiant yna.
Rydym wedi cyflwyno’r cynnig yma ar ôl clywed gan fudiadau sydd yn rhwystredig efo’r sefyllfa—efo colled yr arian ond hefyd y diffyg cydnabyddiaeth bod toriad wedi bod, achos mae yna. Dyna pam rydym ni wedi ei eirio fo mewn ffordd sy’n cynnig ffordd amgen ymlaen i’r Llywodraeth. Os oes yna fodd gwahanol i symud ymlaen yn defnyddio model gwahanol i Gronfa’r Teulu—iawn, gadewch inni ystyried hynny. Beth sy’n bwysig i ni, a beth sy’n bwysig yng ngeiriad y cynnig yma ydy bod y cymorth uniongyrchol yna mewn rhyw fodd yn cael ei adfer.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Wrth gwrs, os yw hwn yn cael ei basio heddiw, ni fydd un geiniog yn mynd drwodd. Yr unig ffordd i gael arian ychwanegol ar gyfer hyn yw drwy’r gyllideb atodol gyntaf, onid e?
Rwy’n credu eich bod yn ddireidus. Rydym yn sôn yma am gronfa na chymerir ei lle gan unrhyw fodel cyllid uniongyrchol arall gan y Llywodraeth. Dyna pam, yn fy marn i, ei bod wedi cael ei chadw gan Lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae angen i’r Llywodraeth sylweddoli, er gwaethaf cryfderau mesurau eraill a roddodd y Llywodraeth ar waith, o bosibl, i gefnogi’r teuluoedd hyn yn anuniongyrchol, fod angen ailgyflwyno’r gefnogaeth uniongyrchol honno.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy’n ceisio deall pam eich bod yn canolbwyntio cymaint ar Gronfa’r Teulu, oherwydd ceir 32 o sefydliadau sydd wedi elwa o’r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol hwn ac nid Cronfa’r Teulu yw’r unig gynllun sydd ar gael o ran cefnogaeth i deuluoedd anabl, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt drwy wahanol sefydliadau.
Rwy’n ailadrodd y pwynt: nid oes cynllun taliadau uniongyrchol arall ar gael. Dyma yw gwerth Cronfa’r Teulu yn benodol. Oes, mae yna elfennau eraill o gymorth y Llywodraeth, sy’n anuniongyrchol ac wrth gwrs y gall gefnogi teuluoedd, ond nid oes dim i gymryd lle’r cyllid uniongyrchol sy’n mynd i’r teuluoedd tlotaf. [Torri ar draws.] Wel, mae’n wir, ac rydym yn sôn am y teuluoedd mwyaf agored i niwed a’r teuluoedd tlotaf drwy brofion modd. A dyna pam y mae mor greulon fod y ffynhonnell gyllid hon wedi cael ei thorri, pan fo Llywodraethau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi gwneud y penderfyniad cywir, yn fy marn i, fel y gwnaeth yr adran addysg yn Lloegr—ddoe, drwy gyd-ddigwyddiad, fe ychwanegaf—i gadw’r £81 miliwn o gyllid yn Lloegr dros gyfnod o dair blynedd.
As I said, we were proposing a way forward in the wording of our motion by saying that we’re not saying that this has to happen through the Family Fund. If there’s an alternative approach to providing direct funding to families, then we would be happy for that to happen, and truth be told, I think that we had expected that the Government would have agreed to look at this and to seek a way forward. So, the Government’s amendment was a huge disappointment, to say the least, and reinforces our position, where it appears that the Government won’t recognise that this direct funding is being cut and that there is nothing available to replace it.
We support the Conservative amendment that notes that Wales is the only nation that hasn’t maintained, in full, this crucial fund. I look forward to the debate this afternoon. I do hope that we can all agree that the most vulnerable families and the most vulnerable children do deserve our direct support. Let us therefore take that into account as we vote later this afternoon.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:
a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy’n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy’n magu plant anabl neu ddifrifol wael.
b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy’n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi’i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.
c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a’u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016.
2. Yn cydnabod bod Cronfa’r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.
3. Yn croesawu’r effaith gadarnhaol y mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi’i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a’r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy’n gofalu am blant anabl neu ddifrifol wael.
Yn ffurfiol.
Galwaf nawr ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae teuluoedd â phlant anabl yn wynebu costau uwch ac incwm is na theuluoedd eraill. Mae ymchwil Cyswllt Teulu yn dangos y gallai’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflwr y plentyn fod yn £300 neu fwy bob mis, gydag 84 y cant o deuluoedd sydd â phlant anabl wedi mynd heb hamdden a diwrnodau allan. Am dros 40 mlynedd, prif swyddogaeth Cronfa’r Teulu oedd helpu i unioni’r cydbwysedd drwy ddosbarthu arian cyhoeddus ar draws y DU ar ffurf grantiau i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant sâl ac anabl, gyda theuluoedd yn gallu gwneud cais am grant cyfartalog o £500 yn flynyddol. Roedd cyllid Llywodraeth Cymru hyd at 2015-16 yn £2.64 miliwn, gyda’r cyfan bron wedi’i ddosbarthu’n uniongyrchol i 5,429 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl ledled Cymru.
Mae’r gweinyddiaethau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cadw eu cefnogaeth ariannol i Gronfa’r Teulu ar gyfraddau 2015-16. Fodd bynnag, ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis torri £5.5 miliwn oddi ar ei chyfraniad, fel y clywsom, dros dair blynedd, sy’n golygu na all dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn drwy Gymru gael y cymorth hwn. Mewn cyferbyniad, cadarnhaodd Adran Addysg y DU yr wythnos hon y bydd yn cadw ei chyllid Cronfa’r Teulu blynyddol o £27.3 miliwn am dair blynedd hyd at 2020—cyfanswm o £81.9 miliwn—gan sicrhau y bydd degau o filoedd o deuluoedd yn Lloegr yn gallu dibynnu ar y cymorth ychwanegol hwn.
Fel y dywedodd Gweinidog Gwladol y DU dros Blant a Theuluoedd sy’n Agored i Niwed, Edward Timpson AS,
Ni ddylai unrhyw blentyn, waeth beth fo’r rhwystrau y mae’n eu hwynebu, fethu cael profiadau bywyd hanfodol.
Felly rwy’n cynnig gwelliant 2, sy’n nodi bod y Llywodraethau Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr i gyd wedi cadw eu cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu.
Er bod y polisi yng Nghymru wedi ymwahanu ers datganoli, parhaodd y cyllid hwn, gan ei fod yn ffordd werthfawr a chosteffeithiol iawn o gefnogi teuluoedd sydd â phlant anabl. Newidiodd y sefyllfa hon yn Ebrill 2016 pan benderfynodd Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Gronfa’r Teulu wneud cais am ei chyllid o’r cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Nid oedd yn gynaliadwy. Nid yw’n ymddangos eu bod wedi cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad o’r effeithiau y byddai tynnu cyllid mor sylweddol yn ôl yn eu cael ar y teuluoedd yr effeithir arnynt. Gostyngodd cyllid Llywodraeth Cymru yn 2016-17 i £900,000, gan gynnwys taliad untro o £400,000, a’r flwyddyn nesaf bydd yn disgyn i £499,000 yn unig, gan gyfyngu’r cymorth i 875 amcangyfrifedig o deuluoedd yn unig.
Ymhellach, nid yw teuluoedd yng Nghymru ond yn gallu gwneud cais am grant unwaith bob pedair blynedd erbyn hyn, tra bo teuluoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu ymgeisio bob blwyddyn, ac maent yn wynebu cyfyngiadau ar y math o gymorth y gellir defnyddio grant ar ei gyfer yng Nghymru. Mae’n wallgof y bydd y toriadau hyn yn cynyddu’r baich ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol a’r GIG ac yn mynd yn groes i’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad a fydd yn effeithio’n andwyol ar yr union deuluoedd y maent yn honni bod eu polisïau wedi’u cynllunio i’w cynorthwyo. Drwy barhau i ddargyfeirio’r mater ymlaen at gyllid cyffredinol ar gyfer y sector gwirfoddol, maent yn methu cydnabod yr effaith negyddol uniongyrchol y mae eu toriad o £5.5 miliwn i’r cyllid yn ei chael. Mae’r elusennau Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi mynegi siom fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn methu cydnabod neu ymdrin â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl a difrifol wael ar draws Cymru—y dros 4,000 o deuluoedd yng Nghymru nad oes grant blynyddol ar gael iddynt bellach. Nid wyf yn meddwl bod ‘siom’ yn gwneud cyfiawnder â’r anobaith a deimlir. Fel y maent yn nodi, roedd y toriad anferth hwn i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl, yn ganlyniad hollol ragweladwy i’r penderfyniad i uno dyraniad Cronfa’r Teulu â’r grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ôl ym mis Rhagfyr 2015... ffaith a fethwyd yn llwyr yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a wnaed ar y pryd.
Maent hefyd yn nodi bod y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r cyllid blynyddol ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, yn bodoli cyn y penderfyniad i dorri Cronfa’r Teulu ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi ailddyrannu swm cyfatebol i gynorthwyo teuluoedd sydd â phlant anabl.
Fel y dywedodd un etholwr wrthyf:
Mae fy mhlentyn chwech oed yn anabl a heb Gronfa’r Teulu, ni fyddem wedi gallu sicrhau ei fod yn ddiogel yn ein gardd na chynnig llechen iddo i’w helpu gyda’i anabledd.
Wel, byddai Llywodraeth Cymru aeddfed yn rhoi’r gorau i wneud pethau i fod yn wahanol yn unig a dechrau eu gwneud yn well—a rhoi’r gorau i wneud pethau i bobl a dechrau gwneud pethau gyda hwy.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig ar Gronfa’r Teulu. Wrth gwrs, fel rydym wedi clywed, nid hon yw’r gronfa fwyaf erioed, ond mae’n bwysig achos mae’n darparu arian uniongyrchol i deuluoedd tlawd efo plant efo salwch difrifol ac anableddau difrifol. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol. Nid yw’n cael ei arallgyfeirio drwy ffynonellau amgen sydd yn tueddu i sugno rhan o’r pres drwy eu gweithgareddau gweinyddu, pa bynnag gyllid prosiect ydy o. Ac, wrth gwrs, mae’n werth nodi bod yna gostau ychwanegol o gael anabledd, yn enwedig os ydym yn derbyn y model cymdeithasol o anabledd. Mae hynny’n golygu bod yna gyfrifoldeb ar bawb, felly, i gydnabod y ‘social model’ o anabledd, a chyfrifoldeb ar bawb i drio cael gwared â’r rhwystrau yna sydd yn ffordd pobl efo anableddau i allu byw bywyd yn llawn. Felly, o ddilyn ac o gydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol yna o anabledd, mae’n rhaid derbyn bod yna gostau ychwanegol, felly, i wneud yn siŵr bod pobl efo anableddau yn gallu byw bywyd yn llawn.
Wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol. Mae yna gyfarpar ychwanegol, fel rydym ni wedi clywed amdano. Mae yna ofal cymhleth iawn, ac nid yw’r cyfan ohono yn gallu cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid i rieni orfod gweithio’n hyblyg, weithiau ddim o gwbl, ac wrth gwrs mae hyn i gyd yn achosi straen anferthol ar deuluoedd. Rydw i yn credu ei bod hi yn ddyletswydd foesol arnom ni fel cymdeithas yn gyffredinol i helpu i edrych ar ôl ein plant mwyaf bregus, achos, wrth gwrs, fe allem ni gyd fod wedi bod yn rhiant i blentyn efo anabledd. Yn ffodus iawn, nid yw’r rhan fwyaf ohonom ni yn y sefyllfa yna, ond rwy’n credu bod yna ddyletswydd foesol arnom ni i helpu i edrych ar ôl y rhieni yna sydd yn y sefyllfa yna. Achos, fel meddyg teulu, rŵan—nid wyf yn siŵr os ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen—ers dros 30 mlynedd yn Abertawe rydw i wedi adnabod ac yn dal i adnabod nifer o deuluoedd sydd efo’r broblem yma yn hirdymor. Rydw i wedi gweld babanod yn cael eu geni, a nawr maen nhw’n oedolion gydag anableddau difrifol, ac mae’r straen wedi bod yn anferthol, ac fel gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rydym ni’n gallu darparu gymaint ag y medrwn ni, ond mae yna wastad gostau ychwanegol sy’n rhaid i deuluoedd wynebu.
Wrth gwrs, mae’r pwysau ariannol yna yn waeth mewn teulu ar incwm isel—mae yna fath o ‘double jeopardy’, onid oes? Rydym ni’n gwybod eisoes bod tlodi yn esgor ar safon o iechyd gwael, wel, meddyliwch chi fod gennych chi safon o iechyd gwael i ddechrau achos bod anabledd gyda chi, ac mae tlodi yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Mae’r ddau beth yn amharu ar safon eich bodolaeth, achos mae hi yn anodd iawn pan nad oes yna ddigon o arian. Ar ben hynny, mae teuluoedd yn teimlo o dan ormes. Nid yw pobl fel arfer yn licio gorfod gofyn am bob peth ychwanegol o hyd, a hefyd maen nhw’n teimlo gelyniaeth, yn enwedig oddi wrth Lywodraeth San Steffan ynghyd â’r holl fusnes budd-daliadau a phopeth arall. Ar ben hynny, rŵan maen nhw’n colli’r arian uniongyrchol yma. Fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, nid yw colli’r Gronfa Teulu yma yn digwydd mewn unrhyw wlad arall. Cymru ydy’r unrhyw wlad sy’n colli’r taliad uniongyrchol yma, a Chymru ydy’r wlad dlotaf. Nid yw’r peth yn gwneud synnwyr. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadw eu Cronfa Teulu nhw.
Yn y bôn mae yna golli pres yn fan hyn. Rydw i’n gwybod sut mae’r pethau yma’n digwydd: mae yna ailstrwythuro ac mae yna ‘unintended consequences’ fel y byddai’r Sais yn dweud. Ond yn y bôn, mae teuluoedd yn colli arian uniongyrchol. Mae ein cynnig ni yn nodi cyfle i roi’r arian yma yn ôl mewn unrhyw ffordd, ond mae’n bwysig bod yr arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd, nid yn cael ei sugno i mewn i strwythurau ‘project funding’ y trydydd sector ac yn cael ei golli wedyn o fod yn uniongyrchol i’n teuluoedd mwyaf bregus ni. Diolch yn fawr.
Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae Cronfa’r Teulu yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i deuluoedd sydd â phlant anabl ac mae’n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri cyllid y gronfa. Mae colli £5.5 miliwn o Gronfa’r Teulu yng Nghymru yn golygu nad yw miloedd o deuluoedd yn cael y math o gefnogaeth y mae teuluoedd yng ngweddill y DU yn ei mwynhau.
Deallaf honiad Llywodraeth Cymru fod yn rhaid iddynt reoli adnoddau cyfyngedig; fodd bynnag, pan fyddwch yn cyhoeddi eich bod yn rhyddhau £10 miliwn i ddatblygu teithiau hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, rhaid i mi gwestiynu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwadu cymorth brys a gofal seibiant i filoedd o blant anabl ar yr un pryd ag yr ydym yn ceisio prynu busnes ychwanegol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Ni allaf gytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio’i wneud gyda Maes Awyr Caerdydd, ond ar adeg pan fo arian yn dynn, ni ddylem fod yn ceisio denu cwmnïau hedfan i hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, ac nid ar draul plant anabl yn enwedig. Byddai’r £10 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer y maes awyr yn talu am Gronfa’r Teulu am y chwe blynedd nesaf. Nid wyf yn dweud y dylid canslo’r gwaith ar ddatblygu llwybrau, dim ond ei ohirio hyd nes y gallwn ei fforddio, a pheidio â bwrw ymlaen ar draul plant anabl.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried. Byddaf yn sefyll gyda’r dros 4,000 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn. Mae Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid ei phenderfyniad ac adfer Cronfa’r Teulu i’w lefelau blaenorol fan lleiaf. Bydd UKIP yn gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n annog cyd-Aelodau i wneud yr un peth. Gadewch i ni anfon neges glir: nid yw caledi yn golygu cosbi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch.
Fel y gwyddom ni, mae’r Gronfa Deulu yn cynnig tua £500 y flwyddyn i deuluoedd ar incwm isel sydd angen yr help mwyaf. Mae’r ffaith bod modd defnyddio’r arian mewn modd hollol hyblyg yn allweddol. Dywed un rheolwr elusen wrthyf i mai dyma’r unig ffynhonnell y gall hi droi ati bellach ar gyfer nifer o faterion, yn cynnwys, er enghraifft, arian i gefnogi teuluoedd i gael gwyliau byr, gwyliau maen nhw’n llawn haeddu—penwythnosau i ffwrdd sydd yn llesol iawn, ond gwyliau na fydden nhw byth yn gallu fforddio heb y gronfa yma. Gan fod y gronfa yn dibynnu ar lefel incwm y teulu, mae’n golygu mai dim ond y teuluoedd sydd wir angen yr help i gael gwyliau sydd yn derbyn cymorth. Felly, mae torri’r grantiau uniongyrchol yn golygu y bydd rhai o deuluoedd mwyaf bregus Cymru yn dioddef.
Rydw i am sôn am dri theulu yr ydw i’n gwybod amdanyn nhw a sut maen nhw wedi cael budd uniongyrchol o’r gronfa. Teulu o bedwar—mam a thad a dau blentyn, dwy a thair oed—ac mae gan y plentyn hynaf anableddau difrifol sydd yn golygu tripiau cyson—wythnosol, weithiau dyddiol—i’r ysbyty. Mae’n golygu aros yn yr ysbyty, ymhell o adref, ar adegau cyson. Mae gofal y rhieni o’r plentyn yn arbennig iawn. Mae’r fam yn ei 20au a’r ddau riant wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am y plentyn. Mi fyddai hi’n anodd iawn iddyn nhw weithio, yn enwedig gan fod yr ifancaf hefyd angen gofal. Gyda llaw, mae gofal y gymuned o’r teulu hwn yn ysbrydoli rhywun. Mae’r gymuned wedi codi arian i brynu offer chwarae pwrpasol ar gyfer cae chwarae’r pentref. Mae’r plentyn yn cael ymuno efo’i gyfoedion yn y pentref er gwaethaf yr anabledd.
Maen nhw’n defnyddio’r arian maen nhw’n ei gael o’r gronfa i’w helpu nhw efo costau teithio i’r ysbyty. Mae angen ymweld yn aml ag Ysbyty Gwynedd, 15 milltir i ffwrdd. Maen nhw hefyd angen mynd i ysbyty Alder Hey Lerpwl yn gyson—taith o bron i ddwy awr yna a dwy awr yn ôl ar hyd yr A55, sy’n golygu yn aml fod y daith yn cymryd tair neu bedair awr. Rhaid mynd yn y car oherwydd mae hwnnw wedi cael ei addasu’n arbennig ar gyfer y plentyn. Ni fydden nhw byth yn cyrraedd yno mewn pryd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen talu toll o £1.70 bob siwrnai ar ben y costau teithio a heb sôn am gostau aros, bwyd, ac ati. Mae modd gwneud cais am rywfaint o’r arian costau teithio gan y bwrdd iechyd neu’r ysbyty, ond ar ôl talu mae hynny’n gorfod digwydd. Mae angen cadw pob derbynneb yn ofalus—y peth olaf sydd ar feddwl rhywun o dan amgylchiadau sydd yn hynod anodd yn barod.
Mae gan yr ail deulu blentyn awtistig. Maen nhw wedi cael budd o’r gronfa mewn ffordd arall: maen nhw wedi cael arian i brynu rhewgell fawr sy’n golygu eu bod nhw’n gallu prynu lot o fwyd ar unwaith a’i rewi. Nid ydy mynd i siopa efo plentyn awtistig ddim yn orchwyl hawdd bob tro. Maen nhw’n byw mewn ardal wledig ac felly maen nhw’n arbed ar gostau petrol drwy orfod gwneud llai o dripiau. Mae’r siop agosaf chwe milltir i ffwrdd. O’r Gronfa Deulu y cawson nhw’r arian i brynu’r rhewgell. Byddai wedi cymryd blynyddoedd i’r teulu yma gynilo er mwyn medru prynu rhewgell.
Mae’r trydydd teulu yn cynnwys plentyn byddar. Mae’r teulu yma hefyd yn byw mewn ardal wledig. Mae gan y plentyn declyn clyw ac mae angen iddo fo gael ei fonitro yn gyson yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn golygu taith o awr o’r cartref yn ôl ac ymlaen. Mae’r costau petrol yn golygu bod y teulu weithiau yn penderfynu peidio mynd at yr apwyntiadau— yn eu sgipio nhw—ac wrth gwrs os ydy hynny’n digwydd dair gwaith yn olynol, mi all y plentyn ddisgyn oddi ar radar y gwasanaethau yn yr ysbyty, ac mi all hynny greu problemau mawr nes ymlaen.
Yn unol ag ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid cydnabod gwerth ataliol y gronfa. Efo’r teulu yma, o flaenoriaethu pethau eraill o flaen costau petrol i fynd i apwyntiadau ysbyty, mae problemau yn gallu codi efo’r offer clyw; mae problemau cyfathrebu ac addysg yn codi; mae’r plentyn yn mynd ar ei hôl hi yn yr ysgol, ac angen cymorth ychwanegol, a dyna ni yn dechrau cynyddu’r costau yn sylweddol. Mae problem y mae datrysiad hawdd iddi hi, sef cynnig pot bychan o arian ar gyfer y teithio, ond mae’n gallu datblygu yn broblem fawr gostus, ac wrth gwrs y plentyn sy’n dioddef yng nghanol hyn oll.
Fel rydym ni wedi clywed, mae plant a theuluoedd Lloegr yn cael manteisio ar gronfa debyg am dair blynedd arall. Yng Nghymru, mi oedd y gronfa yn gallu cefnogi 5,429 o deuluoedd—teuluoedd tebyg iawn i’r rhai rydw i newydd ddisgrifio. Eleni, 1,500 fydd yn cael cefnogaeth. Y flwyddyn nesaf, yr amcangyfrif ydy mai 875 o deuluoedd yn unig a fydd yn cael cymorth. Mae 4,000 o deuluoedd fel y rhai rydw i wedi sôn amdanyn nhw heddiw—rhai o’n teuluoedd mwyaf bregus—yn waeth eu byd.
Mae toriad blynyddol Cronfa’r Teulu yn £1.83 miliwn. Felly, i roi ychydig o gyd-destun i hyn: trefnwyd i’r ddadl hon bara am 60 munud, 20 munud wedi i’r ddadl hon ddod i ben, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi’r swm hwnnw allan mewn cymorth tramor. Rydym yn genedl gyfoethog. Mae gennym arian.
Rwyf wedi gwneud rhai symiau sylfaenol yn seiliedig ar ohebiaeth a gefais, felly mae’n bosibl y bydd y ffigurau’n wahanol, ond fe ddowch i ddeall o’r hyn rwyf ar fin ei ddweud. Mae tua 5,429 o deuluoedd yn fras sy’n gymwys ar gyfer Cronfa’r Teulu. Mae hynny oddeutu £337 y teulu. Beth y mae’r swm yn ei olygu? Wel, mae ychydig yn fwy na chost dwy drwydded deledu, neu fil bwyd am fis, neu ychydig yn fwy hyd yn oed na lwfans diwrnod i arglwydd etholedig. Swm bach o arian yw hwn, ond mae’n darparu seibiant i’w groesawu’n fawr i’r rhai sy’n ei dderbyn.
Mae magu a gofalu am blentyn ag anabledd yn gallu bod yn heriol yn feddyliol ac yn gorfforol, gan roi straen ychwanegol ar gyllidebau, iechyd, emosiynau a pherthnasoedd. Mae Cymru bellach yn wahanol i weddill y DU. Rydym yn llusgo ar ôl unwaith eto. Er bod y rhain yn symiau cymharol fach o arian, heb unrhyw fudd cymdeithasol neu economaidd uniongyrchol amlwg, maent yn effeithio’n anghymesur ar ran o’n cymdeithas y mae bywyd yn ddigon heriol iddynt yn barod.
Mae un o’r rhai a gafodd fudd o Gronfa’r Teulu—Kate yw ei henw—wedi dweud wrthyf fod ei merch wedi cael diagnosis o barlys yr ymennydd yn 10 mis oed. Nid oedd yr un o’r rhieni’n gallu gyrru. Roedd apwyntiadau ysbyty, siopa, a theithiau allan i gyd yn ddibynnol ar eraill. Talodd Cronfa’r Teulu am wersi gyrru a phrawf i Kate. Roedd yn rhaid iddi basio’r prawf, ac fe wnaeth hi, y tro cyntaf. Rhoddodd hynny rywfaint o ryddid i’r teulu. Bellach, nid oedd yn ddibynnol ar eraill, a gallai ei phlentyn fynd i’w hapwyntiadau niferus ac amrywiol yn y car wedi’i addasu yr oedd ei angen arni—swm cymharol fach o arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae Kate yn dal i yrru’r car wedi’i addasu, mae hi’n dal i gludo ei phlentyn o gwmpas i’r apwyntiadau niferus ac amrywiol y mae’n parhau i fod eu hangen, ac y bydd eu hangen bob amser, ynghyd â’r gofynion cymdeithasol sydd gan ferch 16 oed.
Y peth yw bod y gallu hwn i yrru hefyd wedi agor y farchnad swyddi i Kate. Mae hi bellach yn gweithio’n llawnamser, gan gyfrannu at gymdeithas, ac yn fodel rôl gwych ar gyfer ei merched. Nid yw Cronfa’r Teulu’n defnyddio cerdyn credyd cwmni i brynu dillad isaf moethus, ac nid yw’n ariannu teithiau pum seren i Barbados; mae’n talu am beiriant golchi dillad newydd neu benwythnos hir mewn carafán hygyrch wedi’i addasu yn y DU, gan roi seibiant mawr ei angen—pethau y mae llawer ohonom yma yn eu cymryd yn ganiataol.
Nid oes gennyf amheuaeth fod ein holl fewnflychau yma wedi cael llif o negeseuon e-bost gan ein hetholwyr am y bleidlais hon heddiw—wyddoch chi, y bobl go iawn hynny yr ydym yma i’w cynrychioli, y rhai yr ydym i fod i siarad drostynt. Byddai’n werth i Lafur Cymru gofio hynny pan fyddant yn pleidleisio ar y cynnig hwn yn nes ymlaen. Mae unrhyw un sy’n pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn allan o gysylltiad â phobl go iawn ac mae angen iddynt fynd allan i’r byd go iawn.
Mae pob gweinyddiaeth arall yn y DU wedi cadw’r cyllid. Unwaith eto, mae Llafur Cymru yn gwneud cam â’r rhai sydd fwyaf o angen cymorth. Un gair olaf, Weinidog: ni allwch wneud i hyn swnio’n well nag y mae, fel y byddwch yn ddiau yn ceisio ei wneud. Toriad ydyw, tynnu’n ôl, dirywiad yn y ddarpariaeth. Mae unrhyw awgrym i’r gwrthwyneb yn warthus. Galwodd Mark Drakeford ar y Canghellor heddiw i wrthdroi’r toriadau yn y gyllideb. Wel, rhowch drefn ar eich tŷ eich hun, dilynwch eich cyngor eich hun, a gwrthdrowch y toriad dinistriol hwn.
Rwy’n meddwl bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt yn ddigon clir am bwysigrwydd Cronfa’r Teulu, felly rwyf am roi’r ddadl yng nghyd-destun ehangach anabledd a’r ffaith fod toriadau i fudd-daliadau eraill, wrth gwrs, wedi effeithio ar bobl anabl mewn modd anghymesur yn aml. Rydym wedi clywed am rai o doriadau proffil uchel y Llywodraeth yn y maes hwn, ond cafwyd dros 100 o newidiadau i nawdd cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhai ohonynt wedi hedfan o dan y radar i lawer. Mae’n rhaid i ni ystyried effaith gronnol yr holl newidiadau hyn ar y penderfyniad penodol yma heddiw, oherwydd efallai na fydd colli £5 yr wythnos yn swnio’n llawer i gefnogwyr cyfoethog rhai o’r pleidiau eraill yma heddiw, ond pan fydd hyn yn digwydd gannoedd o weithiau, mae’n rhaid i ni ystyried effaith gyffredinol y newidiadau hyn, sy’n aml yn gosbol, ar bobl.
Pan ddarllenais y briff gan Gofalwyr Cymru a Cyswllt Teulu—. Fel y mae Sian Gwenllian eisoes wedi dweud, roedd yn £500 o grant. Ym mhersbectif ehangach pethau, nid yw’n grant mawr iawn i bobl gael mynediad ato. Mae’n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd i weld, o’r negeseuon e-bost a gefais, beth y gellir ei wneud â’r arian hwnnw a pham eu bod yn ei ystyried mor werthfawr.
Felly, os oes trafodaeth yn mynd i fod ynglŷn â beth sy’n dod ar ôl Cymunedau yn Gyntaf—a gwn fod rhai cronfeydd yn mynd i gael eu hymestyn—er mwyn ceisio bod yn adeiladol, yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw pa un a ellid trafod hyn fel rhan o’r broses honno. Oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn yn trafod rhaglenni tlodi newydd, mae’n rhaid i ni drafod hynny yng nghyd-destun yr hyn sy’n cael ei dorri neu ei newid yn awr er mwyn i ni allu paratoi ar gyfer hynny yn y dyfodol, ac ni fyddem eisiau gweld, ac rwy’n siwr na fyddai neb yn y Siambr hon eisiau gweld, effaith anghymesur ar rai teuluoedd.
Rwy’n meddwl mai dyna pam yr oeddwn yn pryderu wrth weld, unwaith eto, y cyfarwyddyd na fyddai unrhyw effaith andwyol ar bobl yn deillio o’r penderfyniad i symud cyllid i’r cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Felly, mae angen i mi ddeall beth fydd y cynllun hwnnw’n ei ddweud. A fydd arian wedi’i glustnodi yn y cynllun hwnnw fel y gall teuluoedd ddeall sut y gallant dracio’r cynllun hwnnw a sut y gallant weld i ble mae’r arian yn mynd? Oherwydd rwy’n credu bod hwnnw’n destun pryder allweddol. Oherwydd, ar hyn o bryd, gallant weld y gyllideb am yr hyn ydyw a gallant ei dadansoddi am yr hyn ydyw, ac rwy’n credu bod hynny’n peri pryder i lawer ar gyfer y dyfodol.
Fel y mae llawer wedi dweud eisoes heddiw, rydym wedi cael negeseuon e-bost ynglŷn â’r mater hwn—credaf fod hynny’n adlewyrchu pwysigrwydd y mater. Ni fyddem yn derbyn negeseuon e-bost pe na bai’n bwysig. Rwy’n credu na ddylid bychanu hyn, felly—mae 4,000 o deuluoedd sydd â phlant anabl ar eu colled eto. Rydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU, onid ydym? Rydym yn ei ddisgwyl ganddynt hwy, o ran y newidiadau y maent yn eu gwneud drwy ddiwygio lles a’r ffordd y maent yn targedu’r rhai mwyaf agored i niwed. Byddwn yn flin iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn yn y modd hwn, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylai hynny fod yn rhywbeth y mae plaid ar y chwith yn ei wneud.
Mae’n rhaid i mi wneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi ac yn lleisio eu pryderon, oherwydd gallai wahodd dadl ynglŷn â’r ffaith y gallai fod rhwystrau ychwanegol i bobl rhag pleidleisio a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ymhlith lleiafrifoedd yn gyffredinol. Rydym yma i adlewyrchu llais pawb, ac os yw pobl anabl yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gymryd rhan yn y ddadl honno, yn teimlo nad yw eu llais yn cael ei glywed yn iawn mewn perthynas â’r newidiadau i gyllidebau, yna rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n peri pryder mawr yn wir. Felly, rwy’n gobeithio o ddadl heddiw y gallwn weld canlyniad cadarnhaol ac y gallant fod yn sicr fod yr arian y maent ei angen ac yn ei haeddu yn dod o hyd i’w ffordd atynt.
Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.
Diolch i chi, Lywydd. Mae’r ddadl heddiw yn rhoi cyfle i mi gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd, ac i siarad am y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Mae Cronfa’r Teulu yn un elfen o’r cymorth yr ydym wedi ei roi ar waith, ac mae’n rhaid iddo gael ei weld yn y cyd-destun ehangach. Ysgrifennais at bob Aelod Cynulliad fis Tachwedd diwethaf yn nodi cefndir a chyd-destun y dull cadarn a thrwyadl o fynd ati mewn perthynas â phenderfyniadau cyllido y cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, a wnaed yn 2014. Roedd y cynllun hwn yn dwyn pedwar cynllun grant gwahanol at ei gilydd, gan gynnwys grant Cronfa’r Teulu, gan ddod ag oddeutu £22 miliwn at ei gilydd mewn un grant er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i fwrw ymlaen â’n blaenoriaethau i alluogi pob dinesydd yng Nghymru i gyflawni eu canlyniadau lles ac i fyw bywydau llawn.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn cael rheolaeth ac yn cymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Rydym yn gwerthuso effaith y Ddeddf er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni’r hyn y bwriadwyd iddi ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys monitro polisïau i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn cefnogi gwelliant. Mae’r cynllun grant newydd hwn yn galluogi sefydliadau’r trydydd sector fel partneriaid pwysig i gefnogi ein dull trawsnewidiol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb o’r rhai sydd angen gofal a chymorth.
Nid yw’n gywir nac yn deg awgrymu y bu toriad yn y gefnogaeth i deuluoedd anabl drwy ein grantiau ar gyfer y trydydd sector. Rwyf am bwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal lefelau cyffredinol cyllid grantiau i’r trydydd sector yn y maes hwn. Rydym wedi creu ymagwedd decach drwy gefnogi’r ystod ehangaf bosibl o fudiadau trydydd sector, gan sicrhau y gall pob rhan o’r gymuned elwa o’r cyllid sydd ar gael—er enghraifft, mae ein hymagwedd wedi ein galluogi i roi £670,000 i Gofalwyr Cymru ar gyfer darparu cymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o ofalu, ac yn cynorthwyo teuluoedd i reoli eu rolau gofalu a bod yn rhan o’r broses o wella a darparu gwasanaethau.
Mae hefyd yn caniatáu i ni ariannu Anabledd Dysgu Cymru gyda £930,000 ar gyfer prosiect sy’n cynorthwyo teuluoedd i ddeall eu hawliau a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, i’w lleisiau gael eu clywed, i reoli penderfyniadau am eu gofal, ac i gydgynllunio’r cymorth y maent yn ei dderbyn.
Yn yr un modd, mae Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan yn derbyn dros £400,000 i gynorthwyo teuluoedd pobl sydd ag anableddau dysgu i ddeall eu hawliau ac i reoli penderfyniadau am eu gofal. Ei nod yw gwella ymyrraeth gynnar ac atal a chefnogi’r broses o gydgynllunio a darparu gwasanaethau.
Cafwyd 84 o geisiadau i’r cynllun grantiau newydd, ceisiadau am gyllid gwerth cyfanswm o £69 miliwn. Rydym yn ariannu 32 o sefydliadau, a llwyddodd Cronfa’r Teulu i ennill y grant mwyaf sydd ar gael, £1.5 miliwn. Roedd Cronfa’r Teulu hefyd yn y sefyllfa unigryw o gael £400,000 ychwanegol wedi’i ddyfarnu iddi fel grant pontio eleni, gan gynnwys £30,000 i’w helpu i ailffocysu eu model ariannu i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Mae teuluoedd anabl yn dweud wrthym mai’r hyn y maent yn ei werthfawrogi fwyaf yw gofal seibiant. Felly, rydym wedi gofyn i Gronfa’r Teulu ganolbwyntio ar ddarparu gofal seibiant, ac rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio o leiaf 70 y cant o’u grant i ddarparu hyn. Fodd bynnag, maent yn cadw’r hyblygrwydd i ariannu pethau eraill lle y ceir angen eithriadol. Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a bod darparu offer TGCh yn cael ei nodi fel angen, yna rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu i gefnogi addysg y plentyn.
Mae’n amlwg o’r ddadl heddiw ein bod yn gytûn fod angen i ni sicrhau y gall teuluoedd sicrhau cymaint o incwm aelwyd â phosibl, gydag arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teulu. Y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o wneud hyn yw drwy gynorthwyo teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, yn hytrach na thrwy roi grantiau bach, unigol. Ers 2012, rydym wedi bod yn darparu dros £2 filiwn y flwyddyn i Cyngor ar Bopeth ar gyfer eu cynllun Cyngor Da, Byw’n Well, sy’n unigryw i Gymru. Nid yw’n digwydd yn Lloegr, nid yw’n digwydd yn yr Alban, ac nid yw’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Ond yng Nghymru mae’n gweithredu ym mhob awdurdod lleol, gan gynnig cyngor wyneb yn wyneb. A dyma’r peth pwysicaf. Yn 2015-16 yn unig, mae’r prosiect wedi cynorthwyo dros 1,800 o deuluoedd gyda phlant anabl, gan gynhyrchu dros £3.5 miliwn i gyd mewn budd-daliadau ychwanegol ar gyfer y teuluoedd hyn. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’r gwasanaeth wedi cynorthwyo 1,400 o deuluoedd, gan gynhyrchu £3.3 miliwn pellach mewn budd-daliadau: arian y mae gan y teuluoedd hyn hawl i’w gael ac y maent yn ei gael bellach wythnos ar ôl wythnos, ac nid fel taliad untro. Felly, mae ein dull ‘Cymru yn unig’ yn cael effaith fawr ac mae’n gynaliadwy.
Gall y teuluoedd mwyaf anghennus gael mynediad at raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac rydym yn darparu dros £42 miliwn eleni a’r un swm y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau i deuluoedd yr effeithir arnynt gan anabledd. Drwy’r gronfa gofal canolraddol eleni, rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i ranbarthau yng Nghymru ar gyfer datblygu gwasanaethau integredig i bobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth. Byddwn yn parhau i gefnogi’r gronfa hon yn y dyfodol. Hefyd, drwy ein cynllun gweithredu strategol newydd ar awtistiaeth, rydym wedi ymrwymo £6 miliwn i sefydlu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol i bob oedran, a fydd yn creu timau lleol ym mhob ardal, gan ddarparu cefnogaeth ar draws pob ystod oedran, gan gynnwys ar gyfer teuluoedd. Mae hyn yn ychwanegol at y £2 filiwn a fydd ar gael bob blwyddyn drwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol.
Gwyddom fod mwy i’w wneud a bod angen i ni fod yn arloesol yn y ffordd y defnyddiwn adnoddau ariannol. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu’r strategaeth ar gyfer gofalwyr, ac mewn datganiad ysgrifenedig a wneuthum y llynedd, ymrwymais i archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant y gwyddom ei fod mor werthfawr i deuluoedd. Byddwn yn adolygu’r ddarpariaeth bresennol gyda golwg ar gryfhau ystod ac argaeledd gwasanaethau seibiant.
O ran gwelliant y Ceidwadwyr, gadewch i mi fod yn glir, unwaith eto, nad yw Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyllid cyffredinol sydd ar gael. Rydym wedi ceisio dosbarthu’r arian sydd gennym i hyrwyddo tegwch, cyfiawnder, a chyflawni gwelliannau parhaol a chynaliadwy. Rwyf wedi dangos y gefnogaeth sylweddol yr ydym yn ei darparu ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd drwy gyflawniad ehangach ein rhaglen lywodraethu.
Felly, i gloi, rhaid i ariannu un sefydliad gael ei weld yng nghyd-destun y dull strategol ehangach o gyflwyno gwelliannau i wasanaethau a chymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Rhaid inni gydnabod hefyd ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud y gorau o effaith yr holl arian a ddarparwn i gefnogi manteision hirdymor, cynaliadwy i deuluoedd.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddwy ddadl y prynhawn yma: y ddadl y clywsom y Gweinidog yn siarad amdani yno, am arian cyffredinol, a’r ddadl a gyflwynwyd gennym i’r Cynulliad yn gynharach mewn gwirionedd, am gyllid uniongyrchol drwy Gronfa’r Teulu i rai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud yn fy sylwadau agoriadol fy mod o’r farn fod yna bolisi cyffredinol da yma, ond bod y print mân yn gwneud cam â’n teuluoedd mwyaf agored i niwed. A’r print mân hwnnw yn awr yw hepgor, neu gyfyngu’n helaeth ar y ffrwd cyllid uniongyrchol, ac am hynny yr ydym yn sôn; mae £500 yn swm sylweddol fel taliad untro i deulu incwm isel. Dyna’r ardd ddiogel y clywsom amdani. Dyna’r seibiant. Dyna’r llechen. Dyna’r rhewgell. Dyna’r peiriant golchi dillad oherwydd bod anabledd y plentyn yn golygu bod angen iddynt gael eu dillad a’u dillad gwely wedi’u golchi’n amlach na’r rhan fwyaf. Swm bach ydyw i Lywodraeth, er hynny. Rydym yn sôn yma am £5.5 miliwn dros dair blynedd.
Os caf sôn am yr hyn a ddywedodd Nathan Gill, gallaf enwi llawer o bethau y byddai’n well gennyf pe na bai’r Llywodraeth yn gwario arian arnynt. Rydym yn sôn yma am yr hyn yr ydym am i Lywodraeth Cymru wario arian arno. Gallwn siarad, os mynnwch, am y £360 miliwn sy’n mynd i gael ei wario ar Balas Buckingham neu ddyblu cyllid y teulu brenhinol sydd newydd gael ei basio, ond nid am hynny yr ydym yn sôn yma. Rydym yn sôn yn benodol am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac rwy’n meddwl ei fod yn dweud popeth am eich gwleidyddiaeth eich bod am ddefnyddio’r ddadl hon am deuluoedd agored i niwed yng Nghymru i ymosod ar wario ar gymorth tramor y DU, gyda llawer ohono’n cael ei wario ar deuluoedd sy’n agored i niwed dramor—ac rwy’n fwy na hapus i barhau i’w cefnogi. Rydym yn sôn am swm bychan o arian—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Sut y gwnes i ymosod arno?
Darllenwch y Cofnod yn y bore. Rydym yn siarad—[Torri ar draws.]
Ni all dau o bobl siarad ar yr un pryd. Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Gweinidog y Llywodraeth fod cymorth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno bod cefnogaeth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno ei bod yn syniad da iawn i weithio gyda Cyngor ar Bopeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael cymaint â phosibl o fudd-daliadau. Rwy’n cytuno â strategaethau ar gynyddu seibiant, er nad oes digon yn cael ei wneud. Rwy’n cytuno bod y trydydd sector yn ei gyfanrwydd angen yr adnoddau i gynorthwyo teuluoedd a phlant sy’n agored i niwed. Ond unwaith eto, rwy’n pwysleisio ein bod yn sôn am gronfa benodol nad oes dim i gymryd ei lle yn unrhyw ran arall o ddarpariaeth y trydydd sector yng Nghymru.
Rwy’n meddwl bod yr achos wedi’i wneud yma gan bob un o’r gwrthbleidiau. Nid oes dim yn dod yn lle’r cyllid hwn. Mae’n cael ei gadw mewn rhannau eraill o’r DU am ei bod yn gronfa mor benodol o ddefnyddiol. Gofynnaf eto i’r Llywodraeth dynnu’r gwelliant yn ôl, ac i gytuno i ystyried adfer y cyllid uniongyrchol hwn i’w lefel flaenorol, naill ai drwy Gronfa’r Teulu, sydd i’w gweld i mi yn gweithio’n dda, neu drwy ddulliau eraill, os hoffwch, oherwydd nid yw’n fater o sut y caiff ei wneud—mae’n ymwneud â sicrhau mynediad at y potiau untro hyn o arian. Efallai nad ydych yn meddwl bod taliad untro o £500 yn rhywbeth a all wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Credwn ei fod yn gwneud gwahaniaeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.