Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 8 Mawrth 2017.
Rwy’n credu eich bod yn ddireidus. Rydym yn sôn yma am gronfa na chymerir ei lle gan unrhyw fodel cyllid uniongyrchol arall gan y Llywodraeth. Dyna pam, yn fy marn i, ei bod wedi cael ei chadw gan Lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae angen i’r Llywodraeth sylweddoli, er gwaethaf cryfderau mesurau eraill a roddodd y Llywodraeth ar waith, o bosibl, i gefnogi’r teuluoedd hyn yn anuniongyrchol, fod angen ailgyflwyno’r gefnogaeth uniongyrchol honno.