Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 8 Mawrth 2017.
Fel y gwyddom ni, mae’r Gronfa Deulu yn cynnig tua £500 y flwyddyn i deuluoedd ar incwm isel sydd angen yr help mwyaf. Mae’r ffaith bod modd defnyddio’r arian mewn modd hollol hyblyg yn allweddol. Dywed un rheolwr elusen wrthyf i mai dyma’r unig ffynhonnell y gall hi droi ati bellach ar gyfer nifer o faterion, yn cynnwys, er enghraifft, arian i gefnogi teuluoedd i gael gwyliau byr, gwyliau maen nhw’n llawn haeddu—penwythnosau i ffwrdd sydd yn llesol iawn, ond gwyliau na fydden nhw byth yn gallu fforddio heb y gronfa yma. Gan fod y gronfa yn dibynnu ar lefel incwm y teulu, mae’n golygu mai dim ond y teuluoedd sydd wir angen yr help i gael gwyliau sydd yn derbyn cymorth. Felly, mae torri’r grantiau uniongyrchol yn golygu y bydd rhai o deuluoedd mwyaf bregus Cymru yn dioddef.
Rydw i am sôn am dri theulu yr ydw i’n gwybod amdanyn nhw a sut maen nhw wedi cael budd uniongyrchol o’r gronfa. Teulu o bedwar—mam a thad a dau blentyn, dwy a thair oed—ac mae gan y plentyn hynaf anableddau difrifol sydd yn golygu tripiau cyson—wythnosol, weithiau dyddiol—i’r ysbyty. Mae’n golygu aros yn yr ysbyty, ymhell o adref, ar adegau cyson. Mae gofal y rhieni o’r plentyn yn arbennig iawn. Mae’r fam yn ei 20au a’r ddau riant wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am y plentyn. Mi fyddai hi’n anodd iawn iddyn nhw weithio, yn enwedig gan fod yr ifancaf hefyd angen gofal. Gyda llaw, mae gofal y gymuned o’r teulu hwn yn ysbrydoli rhywun. Mae’r gymuned wedi codi arian i brynu offer chwarae pwrpasol ar gyfer cae chwarae’r pentref. Mae’r plentyn yn cael ymuno efo’i gyfoedion yn y pentref er gwaethaf yr anabledd.
Maen nhw’n defnyddio’r arian maen nhw’n ei gael o’r gronfa i’w helpu nhw efo costau teithio i’r ysbyty. Mae angen ymweld yn aml ag Ysbyty Gwynedd, 15 milltir i ffwrdd. Maen nhw hefyd angen mynd i ysbyty Alder Hey Lerpwl yn gyson—taith o bron i ddwy awr yna a dwy awr yn ôl ar hyd yr A55, sy’n golygu yn aml fod y daith yn cymryd tair neu bedair awr. Rhaid mynd yn y car oherwydd mae hwnnw wedi cael ei addasu’n arbennig ar gyfer y plentyn. Ni fydden nhw byth yn cyrraedd yno mewn pryd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen talu toll o £1.70 bob siwrnai ar ben y costau teithio a heb sôn am gostau aros, bwyd, ac ati. Mae modd gwneud cais am rywfaint o’r arian costau teithio gan y bwrdd iechyd neu’r ysbyty, ond ar ôl talu mae hynny’n gorfod digwydd. Mae angen cadw pob derbynneb yn ofalus—y peth olaf sydd ar feddwl rhywun o dan amgylchiadau sydd yn hynod anodd yn barod.
Mae gan yr ail deulu blentyn awtistig. Maen nhw wedi cael budd o’r gronfa mewn ffordd arall: maen nhw wedi cael arian i brynu rhewgell fawr sy’n golygu eu bod nhw’n gallu prynu lot o fwyd ar unwaith a’i rewi. Nid ydy mynd i siopa efo plentyn awtistig ddim yn orchwyl hawdd bob tro. Maen nhw’n byw mewn ardal wledig ac felly maen nhw’n arbed ar gostau petrol drwy orfod gwneud llai o dripiau. Mae’r siop agosaf chwe milltir i ffwrdd. O’r Gronfa Deulu y cawson nhw’r arian i brynu’r rhewgell. Byddai wedi cymryd blynyddoedd i’r teulu yma gynilo er mwyn medru prynu rhewgell.
Mae’r trydydd teulu yn cynnwys plentyn byddar. Mae’r teulu yma hefyd yn byw mewn ardal wledig. Mae gan y plentyn declyn clyw ac mae angen iddo fo gael ei fonitro yn gyson yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn golygu taith o awr o’r cartref yn ôl ac ymlaen. Mae’r costau petrol yn golygu bod y teulu weithiau yn penderfynu peidio mynd at yr apwyntiadau— yn eu sgipio nhw—ac wrth gwrs os ydy hynny’n digwydd dair gwaith yn olynol, mi all y plentyn ddisgyn oddi ar radar y gwasanaethau yn yr ysbyty, ac mi all hynny greu problemau mawr nes ymlaen.
Yn unol ag ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid cydnabod gwerth ataliol y gronfa. Efo’r teulu yma, o flaenoriaethu pethau eraill o flaen costau petrol i fynd i apwyntiadau ysbyty, mae problemau yn gallu codi efo’r offer clyw; mae problemau cyfathrebu ac addysg yn codi; mae’r plentyn yn mynd ar ei hôl hi yn yr ysgol, ac angen cymorth ychwanegol, a dyna ni yn dechrau cynyddu’r costau yn sylweddol. Mae problem y mae datrysiad hawdd iddi hi, sef cynnig pot bychan o arian ar gyfer y teithio, ond mae’n gallu datblygu yn broblem fawr gostus, ac wrth gwrs y plentyn sy’n dioddef yng nghanol hyn oll.
Fel rydym ni wedi clywed, mae plant a theuluoedd Lloegr yn cael manteisio ar gronfa debyg am dair blynedd arall. Yng Nghymru, mi oedd y gronfa yn gallu cefnogi 5,429 o deuluoedd—teuluoedd tebyg iawn i’r rhai rydw i newydd ddisgrifio. Eleni, 1,500 fydd yn cael cefnogaeth. Y flwyddyn nesaf, yr amcangyfrif ydy mai 875 o deuluoedd yn unig a fydd yn cael cymorth. Mae 4,000 o deuluoedd fel y rhai rydw i wedi sôn amdanyn nhw heddiw—rhai o’n teuluoedd mwyaf bregus—yn waeth eu byd.