Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 8 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Mae’r ddadl heddiw yn rhoi cyfle i mi gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd, ac i siarad am y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Mae Cronfa’r Teulu yn un elfen o’r cymorth yr ydym wedi ei roi ar waith, ac mae’n rhaid iddo gael ei weld yn y cyd-destun ehangach. Ysgrifennais at bob Aelod Cynulliad fis Tachwedd diwethaf yn nodi cefndir a chyd-destun y dull cadarn a thrwyadl o fynd ati mewn perthynas â phenderfyniadau cyllido y cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, a wnaed yn 2014. Roedd y cynllun hwn yn dwyn pedwar cynllun grant gwahanol at ei gilydd, gan gynnwys grant Cronfa’r Teulu, gan ddod ag oddeutu £22 miliwn at ei gilydd mewn un grant er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i fwrw ymlaen â’n blaenoriaethau i alluogi pob dinesydd yng Nghymru i gyflawni eu canlyniadau lles ac i fyw bywydau llawn.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn cael rheolaeth ac yn cymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Rydym yn gwerthuso effaith y Ddeddf er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni’r hyn y bwriadwyd iddi ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys monitro polisïau i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn cefnogi gwelliant. Mae’r cynllun grant newydd hwn yn galluogi sefydliadau’r trydydd sector fel partneriaid pwysig i gefnogi ein dull trawsnewidiol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb o’r rhai sydd angen gofal a chymorth.
Nid yw’n gywir nac yn deg awgrymu y bu toriad yn y gefnogaeth i deuluoedd anabl drwy ein grantiau ar gyfer y trydydd sector. Rwyf am bwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal lefelau cyffredinol cyllid grantiau i’r trydydd sector yn y maes hwn. Rydym wedi creu ymagwedd decach drwy gefnogi’r ystod ehangaf bosibl o fudiadau trydydd sector, gan sicrhau y gall pob rhan o’r gymuned elwa o’r cyllid sydd ar gael—er enghraifft, mae ein hymagwedd wedi ein galluogi i roi £670,000 i Gofalwyr Cymru ar gyfer darparu cymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o ofalu, ac yn cynorthwyo teuluoedd i reoli eu rolau gofalu a bod yn rhan o’r broses o wella a darparu gwasanaethau.
Mae hefyd yn caniatáu i ni ariannu Anabledd Dysgu Cymru gyda £930,000 ar gyfer prosiect sy’n cynorthwyo teuluoedd i ddeall eu hawliau a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, i’w lleisiau gael eu clywed, i reoli penderfyniadau am eu gofal, ac i gydgynllunio’r cymorth y maent yn ei dderbyn.
Yn yr un modd, mae Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan yn derbyn dros £400,000 i gynorthwyo teuluoedd pobl sydd ag anableddau dysgu i ddeall eu hawliau ac i reoli penderfyniadau am eu gofal. Ei nod yw gwella ymyrraeth gynnar ac atal a chefnogi’r broses o gydgynllunio a darparu gwasanaethau.
Cafwyd 84 o geisiadau i’r cynllun grantiau newydd, ceisiadau am gyllid gwerth cyfanswm o £69 miliwn. Rydym yn ariannu 32 o sefydliadau, a llwyddodd Cronfa’r Teulu i ennill y grant mwyaf sydd ar gael, £1.5 miliwn. Roedd Cronfa’r Teulu hefyd yn y sefyllfa unigryw o gael £400,000 ychwanegol wedi’i ddyfarnu iddi fel grant pontio eleni, gan gynnwys £30,000 i’w helpu i ailffocysu eu model ariannu i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Mae teuluoedd anabl yn dweud wrthym mai’r hyn y maent yn ei werthfawrogi fwyaf yw gofal seibiant. Felly, rydym wedi gofyn i Gronfa’r Teulu ganolbwyntio ar ddarparu gofal seibiant, ac rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio o leiaf 70 y cant o’u grant i ddarparu hyn. Fodd bynnag, maent yn cadw’r hyblygrwydd i ariannu pethau eraill lle y ceir angen eithriadol. Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a bod darparu offer TGCh yn cael ei nodi fel angen, yna rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu i gefnogi addysg y plentyn.
Mae’n amlwg o’r ddadl heddiw ein bod yn gytûn fod angen i ni sicrhau y gall teuluoedd sicrhau cymaint o incwm aelwyd â phosibl, gydag arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teulu. Y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o wneud hyn yw drwy gynorthwyo teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, yn hytrach na thrwy roi grantiau bach, unigol. Ers 2012, rydym wedi bod yn darparu dros £2 filiwn y flwyddyn i Cyngor ar Bopeth ar gyfer eu cynllun Cyngor Da, Byw’n Well, sy’n unigryw i Gymru. Nid yw’n digwydd yn Lloegr, nid yw’n digwydd yn yr Alban, ac nid yw’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Ond yng Nghymru mae’n gweithredu ym mhob awdurdod lleol, gan gynnig cyngor wyneb yn wyneb. A dyma’r peth pwysicaf. Yn 2015-16 yn unig, mae’r prosiect wedi cynorthwyo dros 1,800 o deuluoedd gyda phlant anabl, gan gynhyrchu dros £3.5 miliwn i gyd mewn budd-daliadau ychwanegol ar gyfer y teuluoedd hyn. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’r gwasanaeth wedi cynorthwyo 1,400 o deuluoedd, gan gynhyrchu £3.3 miliwn pellach mewn budd-daliadau: arian y mae gan y teuluoedd hyn hawl i’w gael ac y maent yn ei gael bellach wythnos ar ôl wythnos, ac nid fel taliad untro. Felly, mae ein dull ‘Cymru yn unig’ yn cael effaith fawr ac mae’n gynaliadwy.
Gall y teuluoedd mwyaf anghennus gael mynediad at raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac rydym yn darparu dros £42 miliwn eleni a’r un swm y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau i deuluoedd yr effeithir arnynt gan anabledd. Drwy’r gronfa gofal canolraddol eleni, rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i ranbarthau yng Nghymru ar gyfer datblygu gwasanaethau integredig i bobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth. Byddwn yn parhau i gefnogi’r gronfa hon yn y dyfodol. Hefyd, drwy ein cynllun gweithredu strategol newydd ar awtistiaeth, rydym wedi ymrwymo £6 miliwn i sefydlu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol i bob oedran, a fydd yn creu timau lleol ym mhob ardal, gan ddarparu cefnogaeth ar draws pob ystod oedran, gan gynnwys ar gyfer teuluoedd. Mae hyn yn ychwanegol at y £2 filiwn a fydd ar gael bob blwyddyn drwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol.
Gwyddom fod mwy i’w wneud a bod angen i ni fod yn arloesol yn y ffordd y defnyddiwn adnoddau ariannol. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu’r strategaeth ar gyfer gofalwyr, ac mewn datganiad ysgrifenedig a wneuthum y llynedd, ymrwymais i archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant y gwyddom ei fod mor werthfawr i deuluoedd. Byddwn yn adolygu’r ddarpariaeth bresennol gyda golwg ar gryfhau ystod ac argaeledd gwasanaethau seibiant.
O ran gwelliant y Ceidwadwyr, gadewch i mi fod yn glir, unwaith eto, nad yw Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyllid cyffredinol sydd ar gael. Rydym wedi ceisio dosbarthu’r arian sydd gennym i hyrwyddo tegwch, cyfiawnder, a chyflawni gwelliannau parhaol a chynaliadwy. Rwyf wedi dangos y gefnogaeth sylweddol yr ydym yn ei darparu ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd drwy gyflawniad ehangach ein rhaglen lywodraethu.
Felly, i gloi, rhaid i ariannu un sefydliad gael ei weld yng nghyd-destun y dull strategol ehangach o gyflwyno gwelliannau i wasanaethau a chymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Rhaid inni gydnabod hefyd ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud y gorau o effaith yr holl arian a ddarparwn i gefnogi manteision hirdymor, cynaliadwy i deuluoedd.