Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Part of QNR – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu llawer o ansicrwydd i’r sector amaeth yng Nghymru. Mae swyddogion wrthi’n defnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth er mwyn deall yn well y cyfleoedd allweddol sy’n bodoli a’r materion sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa fwy bregus. Mae’r gwaith dadansoddi yma eisoes wedi llywio ein safbwynt o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a amlinellwyd ym Mhapur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.