Part of QNR – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2017.
Mae marchnadoedd da byw ar draws Cymru’n rhannau annatod o’r diwydiant amaeth ac maent yn cyflogi nifer uchel o bobl o fewn ardaloedd gwledig. Maent yn creu cystadleuaeth o fewn marchnad sy’n cael ei dominyddu i raddau helaeth gan ofynion yr archfarchnadoedd ac maent yn galluogi ffermwyr i brynu a gwerthu da byw magu, stôr a da byw wedi’u pesgi y mae modd eu holrhain.