1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0509(FM)[W]
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu dull cenedlaethol o ymdrin ag awtistiaeth. Rydym ni wedi darparu £6 miliwn ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu strategol diweddaraf ar 30 Tachwedd o ganlyniad i ymgynghori helaeth.
Diolch ichi am eich ateb. Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, wrth gwrs, wedi galw am gofnod o’r niferoedd o bobl sydd ar y sbectrwm er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysfawr. Nawr, mi fydd disgwyl cofnod, wrth gwrs, o’r bobl awtistig sydd â chynllun gofal o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond mae nifer o bobl ag awtistiaeth sydd ddim â chynllun gofal ac mae yna bobl eraill sydd yn mynd i mewn ac allan o’r system. A gaf i ofyn, felly, pryd fydd eich Llywodraeth chi’n mynnu bod cofnod llawn yn cael ei gadw er mwyn sicrhau bod yr adnoddau llawn a’r ddarpariaeth lawn yn cael eu darparu lle mae eu hangen ym mhob rhan o Gymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n berthnasol iawn i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan grŵp cynghori ar weithrediad y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig i Gymru. Yn wir, mae’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn aelod o’r grŵp gweithredu hwnnw, a, chan ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn ddiweddarach y mis hwn, mae'r grŵp yn mynd i fod yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ddiwedd y mis. Ond, wrth gwrs, o edrych ar y cynllun hwnnw, mae angen y data arno; mae angen i ni weithio ar y data hynny. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r targed amser aros 26 wythnos newydd o atgyfeiriad i apwyntiad cyntaf i blant ag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill i gyflymu mynediad at gymorth.
Weinidog—mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ—rwy’n deall, yn amlwg, nad yw’r cynllun gweithredu strategol ond wedi bod ar waith am tua phump neu chwe mis, ond yr hyn y mae gwir angen i ni ei weld yw sut y mae'r bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer oedolion, yn mynd i gael eu llenwi. Yn Sir Benfro, ceir bwlch enfawr yn y ddarpariaeth o wasanaethau i oedolion ag awtistiaeth ac nid yw’n ymddangos bod gan Gyngor Sir Penfro na'r bwrdd iechyd lleol ddull digon cydlynol o allu llenwi'r bylchau hynny. Felly, beth allwch chi, fel Llywodraeth Cymru, ei wneud i annog hynny i ddigwydd, oherwydd gallaf ddweud wrthych chi nawr, nid yw eich cynllun gweithredu strategol yn cyffwrdd yr ochrau hyd yn oed yn hynny o beth?
Rwy'n meddwl bod y £6 miliwn yr ydym ni wedi ei gyfrannu at ddatblygu ein gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd yn dechrau cael y math o effaith y byddai'r Aelod eisiau ei weld. Mae'n fuddsoddiad dros dair blynedd. Mae'n mynd i gael ei gyflwyno ledled Cymru erbyn 2019, ac mae'n mynd i arwain at dimau arbenigol newydd ym mhob rhanbarth sy'n darparu diagnosis i oedolion, cymorth yn y gymuned, a chyngor a gwybodaeth i oedolion ag awtistiaeth ac i’w rhieni a’u gofalwyr.