Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Mawrth 2017.
Wel, yn amlwg, mae prosiectau UE gwerth sawl miliwn yn cynnwys prentisiaethau Busnes Cymru, sy’n uniongyrchol berthnasol i'r sector preifat, gweithle’r de-orllewin a mwy, y byddwch yn ymwybodol iawn ohono yn eich rhanbarth chi, yn cael effaith trwy roi hwb i fusnesau, gan eu helpu i gynyddu rhagolygon gwaith a sgiliau ein pobl, ond gan sicrhau hefyd, trwy’r pwyllgor monitro rhaglenni, ein bod ni’n ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid o Gymru, gan gynnwys y sector preifat o ran safbwynt Cymru cyffredin ar drefniadau ar gyfer ariannu rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig—mae’r PMC yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan—o ran diogelu’r buddsoddiadau hynny.