Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Mawrth 2017.
Arweinydd y tŷ, fel y nododd Suzy Davies, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gweithredu yn unol â rheolau polisi rhanbarthol yr UE ar hyn o bryd, ond mewn dwy flynedd nid ydynt yn mynd i fod yno, i bob pwrpas. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac a ydych chi’n achub ar y cyfle i fod yn greadigol yn yr agenda i sicrhau y gall yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru fod mewn gwirionedd yn unigryw i Gymru?