<p>Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:07, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n meddwl bod ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn hanfodol bwysig gan ei fod yn cyflwyno’r hyn a wnaethom yn eglur o ran datblygiad economaidd rhanbarthol—. Mae'n eglur iawn, iawn bod hwnnw'n gymhwysedd datganoledig, ac mae'n rhaid iddo aros felly. Byddem yn gwrthsefyll yn gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wrthdroi unrhyw fath o ddatganoli a chymryd rheolaeth dros bolisi rhanbarthol. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi hynny ar y cofnod heddiw. Mae'n bwysig bod gennym ni ein hymgysylltiad drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ein cynrychioli ni. Ef a gyflwynodd ein Papur Gwyn yn eu cyfarfod ar 8 Chwefror.