Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 14 Mawrth 2017.
Mae croeso i unrhyw fenter sy'n lleihau ein hôl troed carbon, wrth gwrs, ond, unwaith eto, rydym yn gweld cynnig sydd, yn anghywir, yn beio'r defnyddwyr yn hytrach na’r gwneuthurwr. Hoffwn weld cynnig sy'n rhoi'r pwyslais ar y bobl hynny sy’n gallu atal cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf, a’r unig rai sy’n gallu gwneud hynny yw’r rhai sy'n gwneud ac yn gwerthu’r cynnyrch—drwy gyd-ddigwyddiad, y rheini sy'n gwneud llawer o arian oddi wrth ddefnyddwyr Cymru. Mae cadwraeth defnyddio ynni bob amser yn well na cheisio milwrio yn ei erbyn, ac mae lleihau gwastraff yn llawer gwell nag ailgylchu, sydd yn aml yn defnyddio llawer o ynni ynddo’i hun. Yn aml, mae'r nwyon tŷ gwydr a achosir gan broses ailgylchu yn cael eu hanghofio, wrth i bobl ystyried ailgylchu fel rhywbeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae fel pe byddem ni’n ystyried bod defnydd wedi'i ailgylchu yn niwtral o ran carbon, ond yn amlwg nid yw.
Mae gwneuthurwyr yn gwneud môr a mynydd o'u defnydd pacio y gellir ei ailgylchu, gan obeithio y bydd y defnyddiwr yn anwybyddu'r ffaith y byddai'n llawer gwell i'r amgylchedd pe na byddai’r defnydd pacio erioed wedi cael ei wneud yn y lle cyntaf. Nid yn unig y byddai llai o becynnu yn arbed ar y cynhyrchiad gwreiddiol, byddai hefyd yn golygu y gellid cludo mwy o'r cynnyrch ar y tro, a bod llai o angen cludo gwastraff i weithfeydd ailgylchu. Mae gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr wedi cael rhwydd hynt i wneud hyn, gan fod cost gwaredu ac ailgylchu bob amser wedi cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr. Nid oes gan y defnyddiwr unrhyw ffordd o ddewis opsiwn ystyrlon â llai o ddefnydd pecynnu ar y silffoedd, felly mae'n hanfodol bod llawer mwy yn cael ei wneud i orfodi gweithgynhyrchwyr i ddefnyddio llai o ddefnydd pecynnu. Hyd yn hyn, mae'r holl fentrau wedi gwarchod busnesau mawr a cholbio’r defnyddiwr. Hoffwn weld hyn yn gwrthdroi. Gadewch inni sefyll dros y defnyddiwr, sydd, wedi'r cyfan, yn gorfod talu am fag i gludo’r defnydd pecynnu i mewn a’r dreth gyngor i gael gwared arno, a gwneud yn siŵr bod y rheini sydd mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am y peth, sef y gwneuthurwr a’r adwerthwr, yn gwneud rhywbeth mewn gwirionedd.
Un enghraifft o allu rhoi’r argraff anghywir yw’r tâl am fagiau siopa. Mae'n annidwyll defnyddio'r ffigurau sy'n cael eu dyfynnu am ddefnyddio llai o fagiau, oherwydd nid yw hynny o reidrwydd yn adlewyrchu gostyngiad tebyg yn swm y plastig a ddefnyddir. Mae'r bagiau 5c gan rai adwerthwyr yn cynnwys llawer mwy o blastig na'r hen fagiau untro. Felly, nid yw’r gostyngiad yn nifer y bagiau a ddefnyddir o reidrwydd yn adlewyrchu gostyngiad cyfatebol yn y plastig sy’n cael ei waredu, a bydd yn rhaid cael gwared ar y holl fagiau am oes hynny, sydd hefyd yn cynnwys llawer mwy o blastig, ar ryw adeg yn y dyfodol beth bynnag. Gadewch inni osod targed ystyrlon sy'n ymwneud yn benodol â'r ôl troed carbon.
Mae'r cynnig hefyd yn anwybyddu rhai ffactorau pwysig eraill sy’n creu gwastraff a nwyon tŷ gwydr. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod bwyd a daflwyd yn cynhyrchu mwy na 21 miliwn o dunelli o nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn. Mae'r swm sy’n cael ei wastraffu o ddim ond un cynnyrch bwyd, cyw iâr, yn cyfateb i’r un faint o nwyon tŷ gwydr ag a gynhyrchir gan 290,000 o geir y flwyddyn, ac eto rydym ni’n gwneud y nesaf peth i ddim i ymdrin â'r mater hwn. Mae aelwydydd Cymru’n taflu llai o fwyd i’r bin na gweddill y DU, ac mae hynny'n dda iawn, ond yn 2015, taflodd aelwydydd Cymru werth £13 biliwn a dros 300,000 tunnell o fwyd. Meddyliwch beth fyddai’r banciau bwyd wedi’i wneud â’r holl fwyd hwnnw pe byddai wedi'i roi iddyn nhw ar y ffordd allan o'r archfarchnad yn lle gorwedd mewn oergell ac yna cael ei roi yn y bin oherwydd ei fod wedi mynd heibio’r dyddiad. Mae'n wastraff o fwyd, o'r ynni a’r adnoddau a aeth i’w gynhyrchu, ac, yn achos cig, mae’n wastraff bywyd enfawr. Ble mae polisi Llywodraeth Cymru ar hyn?
Mae'r cynigion a amlinellir yn y cynnig yn iawn ynddynt eu hunain, ond yn syml nid ydynt yn ddigon ac mae’n ymddangos eu bod yn ymwneud mwy â thargedau y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i ymffrostio, yn hytrach na rhoi hwb i ymdrin â nwyon tŷ gwydr. Nid yw’r targed o geisio bod y wlad orau yn y byd am ailgylchu, yn ei hanfod, yn golygu dim byd. Byddai’n bosibl i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu a bod â’r ôl troed carbon gwaethaf ar yr un pryd. Os aiff Llywodraeth Cymru i lawr y llwybr hwn mewn ymgais i edrych fel brenin neu frenhines ailgylchu, y perygl yw y byddwn yn hytrach, yn y pen draw, yn ymerawdwr yr amgylchedd sy’n gwisgo dillad eithaf amheus. Diolch.