Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth yn llai, ond roeddwn yn gobeithio y byddai'r cynnwys yng nghyfraniad David Melding wedi canmol ychydig mwy o fanylion o ran y ffaith fy mod yn deall bod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng polisi'r Ceidwadwyr a pholisi Llafur yn hynny o beth—ac nid oeddwn yn disgwyl unrhyw gymorth yn y maes hwnnw. Ond awgrymodd yr Aelod ein bod yn canolbwyntio ar y maes anghywir. Nid yw cael gwared ar yr hawl i brynu ond yn rhan o gyfres o ddulliau i wella'r farchnad dai. Rydym yn buddsoddi'n drwm yn ein stoc dai. Dros dymor olaf y Llywodraeth, rhagorwyd ar ein targedau o adeiladu tai cymdeithasol gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol, ac rwy'n cael fy nghalonogi ein bod eisoes yn gweld awdurdodau lleol yn dechrau adeiladu tai cyngor newydd yn yr etholaethau. Yn wir, mae hyn eisoes ar waith yn fy etholaeth i yn Sir y Fflint, ac yn etholaeth Hannah Blythyn, gyda phobl yn byw yn y cartrefi hynny. Mae angen i ni sicrhau'r rheini ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi colli 45 y cant o stoc tai cymdeithasol ers 1981. Mae hyn yn sylweddol, ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi cydnabod bod rhan o'r broblem hon yn ymwneud â rheolau’r Trysorlys o ran y diffyg gallu i ail-fuddsoddi yn ôl mewn tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, aeth ein harian oddi yma yn ôl i Lundain, felly rydym wedi colli ar y ddwy lefel; collwyd tai cymdeithasol ond hefyd collwyd y cyllid i ail-fuddsoddi—ergyd ddwbl i Gymru. Felly, dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r cynllun hwn yn rhan o becyn; cyfres o bethau.
Gofynnodd yr Aelod gwestiwn penodol iawn ar y mater o awdurdodau sydd eisoes yn y cyfnod atal ac a fydd y 12 mis yn caniatáu sail iddynt ar gyfer ymgeisio yn ystod hynny. Ni fydd hynny'n wir. Bydd y cyfnod atal sy'n dechrau yn awr yn parhau yn ystod y cyflwyniad hefyd, felly ni fydd y cynllun yn gymwys ar gyfer y cyfnod atal o bum mlynedd sy'n berthnasol i’r awdurdodau hynny. Mae mwy na thri awdurdod; hoffwn hefyd gywiro’r Aelod. Roedd Caerfyrddin ym mis Ionawr 2015, Abertawe ym mis Ebrill 2015, Ynys Môn ym mis Medi 2016 a Sir y Fflint ym mis Chwefror 2017. Mae Sir Ddinbych eisoes yn cael ei hystyried hefyd, ac mae dau awdurdod arall yn ceisio am gais posibl. Rydym wedi cael rhai trafodaethau gyda nhw hefyd. Felly, mae nifer sylweddol eisoes wedi ceisio atal hyn ar sail dros dro.