Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 14 Mawrth 2017.
Hoffwn i ddweud ein bod yn cefnogi'r Bil hwn a bwriad y polisi y tu ôl iddo. Mae wedi bod yn safbwynt hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at y broses graffu. Byddaf yn dweud mewn ymateb i'r Ceidwadwyr nad oes llawer o bobl yn gallu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae bob amser angen tai cymdeithasol at y diben hwnnw. Ni fyddwn yn dymuno troi pobl dosbarth gweithiol yn erbyn pobl eraill yn eu cymunedau eu hunain, gan fy mod yn credu bod hynny'n anghyfrifol. Nodau'r polisi hwn yw'r nodau iawn ac rwy’n credu ei fod yn un y dylem geisio ei gefnogi, er fy mod yn deall y bydd rhesymau ideolegol pam na fydd pobl yn yr ystafell hon yn gwneud hynny.
Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd hyn: a ydych yn bwriadu creu cymunedau mwy cymysg lle mae tai yn gymysgedd o rai cymdeithasol a phreifat mewn cysylltiad â’r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth? Yn y gorffennol, gwn mewn rhai cymunedau efallai fod pobl yn fwy tueddol o brynu tŷ mewn ardal benodol o ystâd cyngor ond nid mewn ardal arall o'r ystâd honno, ac yna mae hynny wedi dwysáu’r problemau sy'n ymwneud â thai cymdeithasol a’r hawl i brynu. Felly, roeddwn yn dymuno gofyn am hynny.
Yn amlwg, drwy rybuddio pobl fod yr hawl i brynu yn mynd i gael ei ddiddymu, bydd rhai tenantiaid presennol yn ystyried prynu a byddant yn dechrau chwilio am ffyrdd o ariannu hyn, a all roi pobl mewn sefyllfa fregus. Cafwyd nifer o enghreifftiau dros y blynyddoedd o gwmnïau sy'n darparu cyllid i helpu pobl i fanteisio ar yr hawl i brynu, ac yna’n troi tenantiaid allan pan nad yw’r cyllid yn cael ei ad-dalu, gan wybod bod ganddynt ecwiti mewn ased a gafodd ei gaffael ymhell islaw’r gwerth ar y farchnad, a byddai wedi codi yn ôl pob tebyg wedyn o ganlyniad. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau'r risgiau hyn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr hawl i brynu?
Mae eich datganiad hefyd yn sôn am y cynllun Cymorth i Brynu—Cymru i helpu pobl i gamu ar yr ysgol, ond nid yw’r cynllun hwn ond yn berthnasol i adeiladau newydd. Felly, y llynedd, fe wnaeth y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer rhagoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig adrodd ar ansawdd tai a adeiladwyd o’r newydd ledled y DU. Roeddent yn gweld bod 93 y cant o’r prynwyr yn cwyno am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o'r rhain, roedd 35 y cant yn cwyno am 11 neu fwy o broblemau. Felly, erbyn hyn, mae cwestiynau’n codi ynghylch a yw’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol yn gallu datrys y cwynion hyn yn briodol a sicrhau bod adeiladau newydd yn addas i'r diben. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn a chymryd camau yn erbyn adeiladau newydd o ansawdd gwael? Ac o ystyried y problemau hyn, a yw’n briodol mewn gwirionedd i gyfyngu Cymorth i Brynu i adeiladau newydd yn unig?
Fy nghwestiwn olaf, ar hyn o bryd—wrth gwrs, byddwn yn craffu ar y Bil hwn yn y pwyllgor cymunedau yr wyf yn eistedd arno—yw hyn: a ydych yn fodlon bod blwyddyn yn ddigon o amser i roi cyfle i bobl sydd yn y broses, yng nghanol proses, hawl i brynu? Gwn fod yr Alban wedi penderfynu ar gyfnod o ddwy flynedd pan oeddent yn dal i fod yn caniatáu i bobl gyflwyno achosion i brynu eu cartrefi. Felly, rwy’n awyddus i fod yn sicr eich bod yn rhoi'r wybodaeth gywir ac amserol i denantiaid, a'u bod yn deall eu hawliau. Mae hyn yn hanfodol, oherwydd ei fod yn newid, yn y bôn, a gallwn annog pobl i ddeall, efallai, drwy ymgyrch gyhoeddus, pam eich bod yn cymryd y penderfyniad hwn i wneud hyn fel rhan o fenter Llywodraeth.