7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:58, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar yr ysgol dai, nid oedd y polisi wedi ei gyflwyno mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn wynebu canlyniadau cymdeithasol hyn heddiw, felly rwy’n croesawu eich camau gweithredu.

Fy nghwestiynau i: sylwaf o'ch datganiad y bydd yn dal yn rhoi'r dewis i landlordiaid cymdeithasol i werthu cartrefi i'w tenantiaid. Os bydd hyn yn digwydd, pa fesurau diogelu fydd ar waith i wneud yn siŵr na fydd unrhyw werthiant o'r fath yn effeithio ar y ddarpariaeth o’r stoc dai? Sut fydd Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi unrhyw arian a wneir yn y modd hwn yn ôl i ddarparu mwy o dai i wneud iawn am y diffyg? Ac yn olaf, mae'n bwysig bod dinasyddion Cymru yn gwybod am y newidiadau hyn, a nodaf y ddyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol i hysbysu eu tenantiaid. Ond sut fyddwch chi’n monitro hyn i wneud yn siŵr ei fod wedi digwydd mewn gwirionedd, a pha ganlyniadau a geir os nad yw landlordiaid cymdeithasol yn cyfleu’r wybodaeth hon yn gywir?